Skip to main content

Y 37 prosiect chwaraeon fydd yn rhannu £3.5m o gyllid Llywodraeth Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y 37 prosiect chwaraeon fydd yn rhannu £3.5m o gyllid Llywodraeth Cymru

Mae'r ymgyrch barhaus i gael mwy o bobl i fod yn actif ledled Cymru yn cael ei chefnogi gan £3.5m o gyllid Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ddefnyddio gan 37 o brosiectau chwaraeon.

Wedi'i ddyrannu gan Chwaraeon Cymru, bydd y cyllid yn ehangu mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith cymunedau, yn creu mwy o gaeau artiffisial mewn mannau sydd eu hangen fwyaf, a hefyd yn cefnogi ein hathletwyr mwyaf talentog i gyflawni eu breuddwydion.

Mae'r grantiau i gyd wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £8m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2024-25 y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i Chwaraeon Cymru.

Mae pob grant yn amodol ar fodloni telerau ac amodau penodol. Mae rhai o'r prosiectau eisoes ar y gweill, tra bod eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.

Dyma restr lawn o brosiectau, wedi’u nodi yn ôl ardal awdurdod lleol.

Abertawe

  • Yn dilyn cais llwyddiannus gan Nofio Cymru, bydd £106,094 yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio nifer o bethau ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe. Bydd hyn yn cynnwys gwell offer hyfforddi i gefnogi nofwyr perfformiad uchel, system newydd i gyfathrebu â’r cyhoedd, a gosod technoleg arbenigol i wella diogelwch y pwll ar gyfer pob defnyddiwr.
  • Bydd £164,967 yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar yng Nghanolfan Hamdden Abertawe a Phwll Penyrheol. Bydd hyn yn helpu'r canolfannau i fynd i'r afael â chostau cynyddol cyfleustodau a lleihau allyriadau carbon yn y safleoedd.
  • Mae £130,189 ychwanegol yn golygu y bydd Canolfan Hamdden Abertawe yn elwa o bympiau cylchrediad wedi'u diweddaru, gwrthdroyddion pwmp y sleidiau a goleuadau LED. Bydd y diweddariadau hyn yn gwella pa mor effeithlon mae’r ganolfan yn defnyddio ynni ac yn lleihau costau ei rhedeg.

Blaenau Gwent 

  • Bydd canolfannau chwaraeon ar draws Blaenau Gwent, gan gynnwys Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Canolfan Chwaraeon Glyn Ebwy, a Chanolfan Chwaraeon Tredegar, yn defnyddio £176,000 o gyllid i osod systemau pwmp ynni-effeithlon a fydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn sicrhau costau ynni is ar gyfer y cyfleusterau.

Bro Morgannwg 

  • Mae £50,000 wedi'i ddyfarnu tuag at gael llawr newydd yn y brif neuadd yng Nghanolfan Hamdden y Bont-faen.
  • Bydd £138,521 hefyd yn mynd tuag at uwchraddio offer pwll nofio Canolfan Chwaraeon Abertyleri i fodelau ynni-effeithlon, gan ymgorffori ffynonellau ynni adnewyddadwy. Bydd hyn yn lleihau faint o ynni mae’r ganolfan yn eu defnyddio ymhellach, yn ogystal â'i hallyriadau carbon.

Caerdydd

  • Mae £53,130 wedi'i ddyfarnu tuag at gynlluniau Athletau Cymru i ymestyn ac uwchraddio'r gampfa berfformio yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd fel ei bod yn dod yn gyfleuster hyfforddi o'r radd flaenaf sy'n diwallu anghenion athletwyr anabl ac athletwyr heb fod yn anabl ar draws athletau a thriathlon.
  • Mae Pêl-rwyd Cymru wedi cael £48,426 i ychwanegu seddi symudol i 200 o wylwyr ychwanegol yn lleoliad y Tŷ Chwaraeon yng Nghaerdydd, sef cartref pêl-rwyd perfformiad yng Nghymru. Y capasiti presennol yw 1,000 ac mae'r lleoliad yn gwerthu pob sedd yn rheolaidd. Byddai'r seddi newydd yn golygu bod modd gwylio gemau o bedair ochr y cwrt - gan wella'r profiad nid yn unig i'r cefnogwyr ond i'r chwaraewyr ar y cwrt hefyd.
  • Amlygodd Arolwg Chwaraeon Ysgol diwethaf Chwaraeon Cymru yn 2022 y galw mawr sydd heb ei ddiwallu ym maes trampolîn yng Nghymru. Er mwyn helpu i roi hwb i’r gamp a rhoi mynediad i ddarpar drampolinwyr i gyfleusterau o ansawdd uchel, dyfarnwyd £55,598 i Gymnasteg Cymru brynu pedwar trampolîn addas ar gyfer cystadlaethau. Bydd tri yn cael eu rhoi yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, ac un ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
  • Mae dyrchafiad hanesyddol tîm Hoci Dynion Caerdydd a Met Caerdydd i Uwch Gynghrair Lloegr, ynghyd â gwelliant parhaus holl dimau Rhyngwladol Cymru, wedi tynnu sylw at yr angen i wella’r Ganolfan Hoci Genedlaethol yng Ngerddi Sophia. Diolch i gyllid o £48,690, bydd gwelliannau'n cael eu gwneud ar draws y maes dadansoddi perfformiad, galluoedd ffrydio byw, a phrofiad y gwylwyr.
  • Mae bocswyr o Gymru hefyd yn cael eu cefnogi. Bydd £61,746 yn cael ei ddefnyddio i sefydlu Canolfan Ragoriaeth gyntaf erioed yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru lle gall darpar focswyr rhyngwladol gael mynediad at gyfleusterau hyfforddi, arbenigedd hyfforddi, a gwasanaethau cymorth o’r radd flaenaf.
  • Mae Bocsio Cymru hefyd wedi cael £35,006 i brynu dau gylch bocsio maint cystadleuaeth Olympaidd, yn ogystal ag offer goleuo a sain, i'w defnyddio ar gyfer digwyddiadau bocsio yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Castell-nedd Port Talbot

  • Mae Ffederasiwn Saethu Targed Cymru wedi cael £67,816 i ddarparu 'Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Trap Olympaidd, Para Trap a Saethu Colomennod clai Olympaidd' ar Faes Saethu Crynant yng Nghwm Nedd.
  • Bydd Canŵ Cymru yn defnyddio £43,420 o gyllid i osod llwybr sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, a nodweddion hygyrchedd eraill, gan gynnwys rampiau, rheiliau llaw, ac arwyddion yn Llynnoedd Spring Valley yng Nghastell-nedd. Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn sicrhau y bydd pob ymwelydd yn gallu manteisio ar y cyfleoedd harddwch naturiol a hamdden a gynigir gan Lynnoedd Spring Valley.
  • Cytunwyd ar £250,000 i droi cae artiffisial sydd wedi dirywio wrth ymyl Clwb Pêl-droed Lido Afan ym Mhort Talbot yn gyfleuster 3G modern yn dilyn cais llwyddiannus gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Ceredigion

  • Yng Nghanolfan Breswyl Llangrannog, bydd Urdd Gobaith Cymru yn defnyddio £25,860 i osod paneli solar er mwyn lleihau allyriadau carbon a chadw costau ynni yn isel ar y safle.

Conwy

  • Bydd y cae hoci 25 oed yn Ysgol Rydal Penrhos ym Mae Colwyn - canolbwynt pwysig ar gyfer hoci yng Ngogledd Cymru a chartref Clwb Hoci Eirias – yn cael wyneb newydd gyda chyllid o £168,313 wedi'i gytuno.
  • Bydd Badminton Cymru yn defnyddio gwobr o £9,108 i osod system awyru yng Nghanolfan Badminton Bryn Estyn yng Nghonwy fel y gellir rheoleiddio tymheredd y cyfleuster, gan ddarparu arwyneb chwarae diogel heb unrhyw anwedd.

Gwynedd 

  • Bydd £75,000 yn mynd tuag at gae ymarfer glaswellt artiffisial ar leoliad presennol Ardal Gemau Amlddefnydd Glaslyn. Bydd y cae yn darparu cyfleuster cymunedol a fydd yn annog pobl o bob oed, rhyw a gallu mewn ardal wledig i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Powys 

  • Mae’r gwaith o uwchraddio goleuadau LED er mwyn arbed costau yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu, Canolfan Chwaraeon Llanfair-ym-Muallt a Chanolfan Hamdden Maldwyn yn cael ei ariannu diolch i grant o £70,000.
  • Diolch i ddyfarniad o £80,000, bydd paneli solar yn cael eu gosod yn y canolfannau hamdden yn Aberhonddu, Maldwyn ac Ystradgynlais, gan sicrhau arbedion ynni tymor hir a lleihau ôl troed carbon y canolfannau.
  • Mae £27,624 hefyd wedi'i ddyrannu i Gyngor Powys fel y gellir gosod ffaniau dadhaenu yng Nghanolfannau Hamdden Aberhonddu, Maldwyn a Flash i wella effeithlonrwydd ynni.

Sir Benfro

  • Bydd £75,000 yn cefnogi cynlluniau Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd i osod cae 3G artiffisial yn Stadiwm Ogi Bridge Meadow, gyda'r clwb hefyd yn sicrhau cyllid gan Sefydliad Pêl-droed Cymru. Mae'r cae newydd yn cynnig ystod o bosibiliadau cyffrous i'r clwb, gan gynnwys creu canolfan bêl-droed i fenywod.
  • Mae cynnig Athletau Cymru i roi wyneb newydd i’r trac athletau ym Mhentref Chwaraeon Sir Benfro (sydd ynghlwm wrth Ysgol Uwchradd Hwlffordd) wedi derbyn £191,253. Mae'r trac yn gartref i'r unig glwb athletau yn Sir Benfro, Pembrokeshire Harriers. Ar ôl i'r trac gael ei wyneb newydd, bydd yn addas ar gyfer defnydd llawer ehangach gan ysgolion yr ardal.
  • Bydd £175,226 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith uwchraddio amgylcheddol amrywiol i gyfleusterau ledled Sir Benfro, gan gynnwys goleuadau LED, gorchuddion newydd i byllau nofio a systemau gwresogi ac awyru gwell. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys Trac Rhedeg Hwlffordd, Caeau Awyr Agored Penfro a Chaer Elen, Pyllau Nofio Penfro a Hwlffordd, Crymych ac Abergwaun.
  • Bydd Cyngor Sir Penfro yn cael £99,630 i dalu am gynllun ymarfer newydd arloesol sy'n defnyddio AI i greu ymarferion personol ar gyfer defnyddwyr o unrhyw allu. Nid yw lleoliad hyn wedi'i gadarnhau eto.

Sir Ddinbych 

  • Bydd Canolfan Hamdden Prestatyn yn defnyddio £216,130 i ddatblygu ei chynnig ffitrwydd. Bydd un o ddau gwrt sboncen ar y safle yn cael ei ailddatblygu'n gampfa iau i bobl ifanc leol, a bydd y cae pob tywydd presennol yn cael ei ddisodli gan arwyneb 3G.

Torfaen

  • Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi cynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i adeiladu cae 3G newydd, sy'n addas ar gyfer rygbi a phêl-droed, wrth ymyl Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yng Nghwmbrân. Dyfarnwyd £55,986 tuag at y prosiect.

Wrecsam 

  • Yn Stadiwm Queensway, bydd £54,000 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer uwchraddio goleuadau LED a fydd yn gwella pa mor effeithlon mae’r stadiwm yn defnyddio ynni, a chynaliadwyedd. Mewn mannau eraill yn Wrecsam, bydd dyfarniad o £184,000 yn talu am osod ffaniau dadhaenu ac uwchraddio’r pyllau a fydd yn helpu i ostwng costau ynni yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Waterworld.
  • Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael £200,000 tuag at ei gynnig am gae 3G i chwarae pêl-droed a rygbi yn Ysgol Bryn Alyn, tra mae Bocsio Cymru wedi cael £42,930 i ymestyn Clwb Bocsio Llai er mwyn creu Canolfan Ranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru.
  • Bydd grant o £25,916 yn ariannu’r gwaith o uwchraddio cyfleusterau’r gampfa cryfder a chyflyru yng Nghanolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc y Glowyr, ynghyd â darpariaeth ynni solar.

Ynys Môn

  • £149,813 i foderneiddio llawr y neuadd chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden boblogaidd Plas Arthur yn Llangefni.

Cymru Gyfan

  • Ar hyn o bryd, mae cyfarpar i'w ddefnyddio mewn digwyddiadau triathlon yn cael ei gludo rhwng gogledd a de Cymru, yn dibynnu ar ble mae digwyddiadau'n cael eu cynnal. Bydd dyfarniad cyllid o £9,000 i Gymdeithas Triathlon Cymru yn cael ei ddefnyddio i brynu digon o offer fel bod digon ar gael i’w storio mewn lleoliadau addas - gan ostwng ôl troed carbon triathlon.
  • Bydd dyfarniad o £19,792 yn galluogi Bocsio Cymru i gyflwyno cyfleoedd arloesol ar gyfer Bocsio Realiti Rhithwir. Bydd hyn yn caniatáu i glybiau hwyluso bocsio digyswllt i bobl sydd â namau fel y gallant barhau i fwynhau llawer o'r manteision y mae’r gamp yn eu cynnig. Bydd clustffonau Realiti Rhithwir hefyd yn helpu newydd-ddyfodiaid abl i ddatblygu eu sgiliau bocsio a'u dealltwriaeth yn ddiogel.
  • Mae cyfanswm o £131,325 wedi'i ddyfarnu i RYA Cymru Wales i brynu fflyd newydd sbon o 18 dingis ILCA er budd sgwadiau ieuenctid Cymru a morwyr rasio uchelgeisiol mewn clybiau ledled y wlad.

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy