Skip to main content

5 ffordd mae Chwaraeon Cymru a Crowdfunder wedi bod o fudd i bêl-droed yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 5 ffordd mae Chwaraeon Cymru a Crowdfunder wedi bod o fudd i bêl-droed yng Nghymru

Mae pêl-droed yng Nghymru yn sicr yn ffynnu. Am y tro cyntaf ers 64 mlynedd, mae Cymru yng Nghwpan y Byd. Ac yng Nghymru, mae cenedl yn cael ei hysbrydoli i fentro ar y cae.

Diolch i ymdrechion codi arian clybiau lleol drwy Crowdfunder – sydd wedi cael arian cyfatebol gan Chwaraeon Cymru - mae gwelliannau'n cael eu gwneud i gyfleusterau 'oddi ar y cae' ledled y wlad.

O well ystafelloedd newid i ffensys newydd, mae clybiau ar lawr gwlad yn cysylltu â'u cymunedau lleol er mwyn sicrhau eu dyfodol pêl-droed.

Dyma sut mae pum clwb cymunedol yng Nghymru wedi defnyddio cyllid cyfatebol Crowdfunder a Chwaraeon Cymru i sicrhau y bydd pawb sydd wedi eu hysbrydoli gan Rob Page a'i dîm yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 yn cael gwell mynediad i bêl-droed yng Nghymru.

Newid ar droed yn Treharris Athletic

Os ydych yn chwilio am enghreifftiau llwyddiannus o ymgyrchoedd cyllido torfol ar gyfer clybiau chwaraeon yng Nghymru, cymerwch olwg ar dimau Ifanc ac Iau Treharris Athletic ym Merthyr.

Aeth y clwb, a oedd yn awyddus i ddatblygu ystafelloedd newid newydd, at Crowdfunder a chodi bron i £8000 mewn 28 diwrnod. 

Eglurodd Cadeirydd y Clwb: "Mae'r timau ifanc ac iau wedi bod yn rhedeg ers 25 mlynedd a dydyn nhw erioed wedi cael eu cyfleuster eu hunain, lle i’w alw'n 'adref'. Dwi eisiau rhoi sylfaen i'r plant, lle i’w alw'n adref ac i fod yn falch ohono, lle maen nhw'n hyfforddi ac yn chwarae yno bob wythnos. Mae cael eu lleoli yn y pentref yn golygu y gall ffrindiau a theulu ddod i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y plant i ffynnu yn yr oedran ifanc hwn yn ystod gemau.”

Yn ogystal ag ystafelloedd newid, mae ystafell gymunedol fechan wedi'i hadeiladu lle gall y clwb gynnal cyfarfodydd a chyrsiau hyfforddiant ond gall grwpiau cymunedol lleol ei defnyddio hefyd.

Cyngor da: Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i’ch cefnogwyr am eich cynnydd

Dysgwch sut y gwnaethant lwyddo: Tîm Ifanc ac Iau Treharris Athletic

Cae pêl-droed gyda stand a physt gôl
Tîm Ifanc ac Iau Treharris Athletic

Toiledau newydd diolch i Crowdfunder

Cododd Clwb Pêl-droed Ynyshir Albions yn Rhondda Cynon Taf swm trawiadol o £18,000 drwy ymdrechion cyllido torfol a chyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru. Mae'r arian yn cael ei wario ar welliannau i gyfleusterau ar lawr gwlad - sef toiledau newydd sy'n fwy addas i fenywod a’r rheini ag anableddau.

Mae'r gwaith adnewyddu hefyd yn golygu y gall y clwb adeiladu hatsh o'r gegin i helpu'r clwb i gynhyrchu refeniw a bod yn fwy cynaliadwy.

Cyngor da: Cynnwys pecynnau nawdd yn eich gwobrau Crowdfunder a holi busnesau lleol.

Dysgwch sut y gwnaethant lwyddo: Clwb Pêl-droed Ynyshir Albions

Cymuned leol yn cefnogi Clwb Pêl-droed Cwmaman

Yn hen bentref glofaol Cwmaman mae'r Ganolfan – maes chwarae clwb pêl-droed Cwmaman. Gyda gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddiflino i greu hafan i fechgyn a merched lleol yn ogystal ag oedolion, mae'r clwb wrth galon y gymuned.

Felly, pan drodd y clwb at Crowdfunder i godi arian i adnewyddu ei stand a'i lochesau i’r timau, roedd y gymuned leol yn hapus iawn i helpu.

Rhoddodd cefnogwyr lleol - a oedd yn cynnwys Kelly a Richard o'r Stereophonics - dros £27,000 yn gyfnewid am wobrau a oedd yn amrywio o noddi diwrnod gêm i blac sedd, hawliau enwi stand a hysbysebion ochr y cae. Gyda grant pellach o £9000 gan Chwaraeon Cymru, yn sicr fe wnaeth y clwb ragori ar eu targed cychwynnol o £18,000.

Cyngor da: Ystyriwch ymestyn eich targed bob amser os byddwch yn dod yn agos at eich carreg filltir gychwynnol yn gynt nag yr oeddech yn ei ddisgwyl.

Dysgwch sut y gwnaethant lwyddo:Clwb Pêl-droed Cwmaman FC

Gwelliannau yng Nghlwb Pêl-droed Greenfield FC

Llwyddodd clwb pêl-droed Greenfield FC yn Sir y Fflint i godi dros £5000 mewn dim ond 56 diwrnod i brynu sylfaen newydd i’w stand ac i uwchraddio’r cabanau sy'n cael eu defnyddio fel ystafelloedd newid.

Drwy Crowdfunder, cynigiodd y clwb docynnau tymor yn ogystal â gwobr. Daeth yr holl gymuned at ei gilydd i wneud yn siŵr y gallai'r clwb gynnig cyfle i bobl ifanc leol chwarae pêl-droed.

Dechreuodd y clwb yn 2005 gyda 12 o blant ar y llyfrau ac erbyn hyn mae dros 80 o bobl ifanc yn gwisgo eu hesgidiau pêl-droed i gymryd rhan:

"Mae hynny'n 80 o deuluoedd yn ein cymuned - yn siarad, yn cymdeithasu ac yn helpu ein gilydd. Rydyn ni'n gallu magu hyder a sgiliau cymdeithasol y plant a gwella eu hiechyd meddwl," meddai llefarydd ar ran y clwb.

Cyngor da: Mae rafflau gydag amrywiaeth o wobrau gwahanol yn ffordd wych o godi arian.

Dysgwch sut y gwnaethant lwyddo: Greenfield FC 

Cadw plant yn ddiogel yn Waunarlwydd

Roedd angen syniadau da sut i godi arian ar Waunarlwydd Galaxy AFC yn Abertawe. Roedd angen ffens o amgylch y cae yn y pentref. Gyda chwaraewyr mor ifanc â thair oed, roedd yn hanfodol i’r clwb eu cadw'n ddiogel.

Gan droi at Crowdfunder, cododd y clwb dros £6000 gyda gwobrau am roddion yn amrywio o docyn raffl i hawliau enwi cae. Gyda £6000 ychwanegol mewn arian cyfatebol gan Chwaraeon Cymru, llwyddodd y clwb i sicrhau dyfodol disglair i bêl-droed yn Waunarlwydd.

Cyngor da: Byddwch yn greadigol gyda'ch gwobrau. A all eich gwirfoddolwyr gynnig sgiliau fel rhoddion?

Dysgwch sut y gwnaethant lwyddo: Waunarlwydd Galaxy AFC CIC 

Llun ongl isel o gae pêl-droed gyda physt gôl yn y pellter
Waunarlwydd Galaxy AFC

 

Ydych chi'n awyddus i wella cyfleusterau eich clwb? Dechreuwch eich taith Crowdfunder gyda Chwaraeon Cymru heddiw a helpwch eich clwb i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned 

Dewch o hyd i ni ar Twitter yma, Facebook yma. a Instagram yma