Mae treftadaeth Merthyr Tudful o ran chwaraeon yn gyfoethog ac yn adnabyddus, ond mae pennod newydd yn cael ei hysgrifennu diolch i bartneriaeth arloesol rhwng coleg y dref a Thennis Bwrdd Cymru.
Yn fuan, gallai plant enwogion yr hen dref ddiwydiannol ym maes chwaraeon - fel y bocswyr Howards Winstone a Johnny Owen, y judoka Natalie Powell, y pêl-droediwr Mark Pembridge a'r chwaraewraig pêl-rwyd Chelsea Lewis - ymuno â'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr tennis bwrdd rhyngwladol.
Ochr yn ochr â chreu canolfan perfformiad uchel ac academi tennis bwrdd newydd yng Ngholeg Merthyr, mae clwb cymunedol cynhwysol hefyd wedi'i sefydlu yno ar gyfer chwaraewyr o bob oed a gallu.
Dechreuodd rhai o chwaraewyr tennis bwrdd gorau Cymru ddefnyddio cyfleuster hyfforddi penodedig Coleg Merthyr yn y cyfnod cyn Gemau'r Gymanwlad yr haf diwethaf.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi lansiwyd y clwb cymunedol, sy’n canolbwyntio ar ddarparu mwy o gyfleoedd chwaraeon mewn ardal lle gallant fod yn anodd dod o hyd iddynt. Mae wedi bod yn ganlyniad cydweithio gyda phartneriaid eraill megis Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Gemau Stryd a Merthyr Actif.
Bydd yn cael ei redeg bob nos Fercher, ac yn elwa o fewnbwn hyfforddi Callum Evans, chwaraewr gwrywaidd gorau Cymru.
Fe wnaeth Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 Chwaraeon Cymru – a oedd yn casglu barn plant ledled Cymru am yr hyn maent yn ei hoffi a’r hyn nad ydynt yn ei hoffi am chwaraeon – ganfod bod galw mawr am dennis bwrdd ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu bod 1,700 o blant a phobl ifanc yn y sir a fyddai'n hoffi mwy o gyfleoedd i chwarae'r gamp.
Mae Coleg Merthyr – sydd eisoes yn cynnal academi golff – yn gobeithio y bydd ei academi tennis bwrdd nid yn unig yn newid byd i chwaraewyr ifanc, ond hefyd yn newid canfyddiadau o'r dref ei hun.
"Mae'r adeilad yn creu argraff fawr ar rieni sy'n dod â'u plant i ymweld â'r coleg hwn," meddai Simon Evans, cyfarwyddwr data a pherfformio.
"Byddan nhw'n dweud wrtha i eu bod nhw'n disgwyl ysgol flêr mewn ardal ddifreintiedig, ond maen nhw’n nodi bod hyn yn ffantastig.
"Mae'n ymwneud â goresgyn y farn gynhenid honno o'r hyn y mae Merthyr yn ei olygu. Dyna'r rhwystr anoddaf sy'n ein hwynebu. Felly, mae'r uned perfformiad uchel wedi helpu i newid y canfyddiadau hynny a bydd yr academi yn gwneud yr un fath."
Ar gyfer Tennis Bwrdd Cymru, mae'r cytundeb partneriaeth gyda Choleg Merthyr yn cynnig cyfleuster hyfforddi o ansawdd uchel, sydd ar gael i'w chwaraewyr ifanc gorau, ond hefyd yn un sy'n agor ei ddrysau i'r gymuned ehangach i ddod i roi cynnig ar y gamp.
Efallai eu bod nhw'n bobl ifanc obeithiol sy'n cyrraedd ar ddydd Mercher, yn awyddus i roi cynnig ar y gêm am y tro cyntaf, neu’n oedolion sydd eisiau chwarae'r gamp am yr elfen ffitrwydd a chymdeithasu.