Ym mhob etholiad y Senedd, bydd pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn cyflwyno eu maniffesto yn amlinellu beth fyddant yn ei wneud petaent yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru. Mae Chwaraeon Cymru eisiau sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhan allweddol o gynlluniau unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol fel bod pawb yng Nghymru yn gallu elwa o fod yn actif.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid i greu pedwar argymhelliad yr hoffem i bleidiau gwleidyddol eu cynnwys yn eu maniffestos cyn yr etholiadau ym mis Mai 2026. Gyda’i gilydd, gall yr argymhellion hyn ddatgloi potensial chwaraeon i fod yn fuddiol i bawb yng Nghymru.
Argymhellion Maniffesto ar gyfer Chwaraeon
Dyma ein hargymhellion:
Cynyddu’r cyllid ar gyfer chwaraeon
- Er mwyn i’r sector chwaraeon ffynnu, gan arwain at fuddion gydol oes i bawb, mae angen i’r cyllid ar gyfer chwaraeon yng Nghymru gynyddu i’r un lefel â gwledydd tebyg.
Pam:
Mae grym chwaraeon i ysgogi gwerth cymdeithasol ac economaidd yn gysyniad profedig. Mae’r cyfle i sicrhau bod pobl Cymru yn iachach, yn gyfoethocach ac yn fwy ffyniannus yn bodoli trwy ariannu chwaraeon i’w llawn botensial.
Er mwyn i Gymru gael cyllid ar gyfer diwylliant sy’n gyfartal â’r Deyrnas Unedig, byddai angen i £20m ychwanegol gael ei fuddsoddi mewn chwaraeon bob blwyddyn.
Er mwyn i Gymru gael ei graddio yng nghanol y gwledydd Ewropeaidd a asesir, byddai angen £208m ychwanegol bob blwyddyn.
Pwyslais ar iechyd a lles ataliol y genedl
2. Mae angen i Gymru gyflwyno categori gwariant ‘iechyd a lles ataliol’ mewn cyllidebau yn y dyfodol, gan symud tuag at strategaeth gyllidebu tymor hwy i helpu i gynyddu ac amddiffyn iechyd y boblogaeth. Byddai hyn yn helpu i gydnabod chwaraeon a’u hariannu’n briodol, gan ddatgloi eu buddion cymdeithasol i bawb.
Pam:
Ceir her iechyd genedlaethol sylweddol. Mae iechyd cyffredinol y boblogaeth wedi dirywio dros amser ac mae nifer y bobl sy’n adrodd am gyflwr iechyd meddwl fel salwch hirdymor wedi cynyddu. Mae dros 24% o blant yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew ac rydym yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn gallu bod yn bwysig wrth fynd i’r afael â materion gordewdra.
Fe allai chwaraeon a gweithgarwch corfforol fod yr offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei wireddu dim ond os manteisir i’r eithaf ar y rôl unigryw y gall chwaraeon ei chyflawni ar draws gwasanaethau iechyd.
Annog pobl ifanc i ymwneud â chwaraeon o fewn ac o amgylch yr ysgol
3. Mae angen dull ysgol gyfan o annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o fewn ac o amgylch y diwrnod ysgol yng Nghymru. Gellir cyflawni hyn trwy ymrwymo digon o adnoddau i gynnig actif bob dydd, gan gefnogi iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol.
Pam:
Dangosodd ffigurau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol diweddaraf mai dim ond 39% o blant oed ysgol sy’n actif dair gwaith neu fwy yr wythnos. Fodd bynnag, mae’r nifer syfrdanol o 93% o blant a phobl ifanc yn galw am fwy o chwaraeon. Mae pobl ifanc eisiau cynyddu eu lefelau gweithgarwch, ond nid yw’r seilwaith a’r amgylchedd presennol o fewn ac o amgylch y diwrnod ysgol yn helpu hynny i ddigwydd.
Byddai £3m y flwyddyn yn creu cynnig Actif Bob Dydd a fyddai’n gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol o fewn ac o amgylch y diwrnod ysgol. Fe allai hyn gael dylanwad mawr ar integreiddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i arferion dyddiol pobl ifanc. Byddai ysgolion yn dod yn amgylcheddau dysgu iachach a mwy actif gyda chysylltiadau gwell â’u cymuned leol.
Canolfan Genedlaethol newydd ar gyfer chwaraeon
4. Mae angen Canolfan Genedlaethol newydd ar gyfer chwaraeon ar Gymru. Bydd Canolfan Genedlaethol sy’n addas i’r dyfodol yn gwella’r cymorth i’r cyhoedd, athletwyr, hyfforddwyr, arweinwyr chwraeon, a chyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon yn sylweddol er mwyn iddynt wireddu eu huchelgeisiau chwaraeon, o lawr gwlad i’r llwyfan byd-eang.
Pam:
Mae Canolfan Genedlaethol bresennol Chwaraeon Cymru wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer chwaraeon Cymru ers dros 50 mlynedd. Mae’n gartref i Chwaraeon Cymru a llawer o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon ac mae’n ganolfan ar gyfer Sefydliad Chwraeon Cymru – lle rhoddwn gymorth i’n hathletwyr mwyaf talentog.
Fodd bynnag, er mwyn parhau i gynorthwyo pobl yn y dyfodol, nid yw addasu’r cyfleuster presennol yn barhaus yn opsiwn hyfyw mwyach.
Rydym eisiau creu canolfan newydd sy’n gosod meincnod ar gyfer cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru. Yn ogystal â rhoi cymorth gwell i lawer o’r rhai sydd eisoes yn defnyddio’r cyfleuster, byddai’r ganolfan yn gallu cynnal mwy o ddigwyddiadau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol mewn arena dan do a adeiladwyd i’r diben â 3,000 o seddi. Bydd buddsoddiad o £150m wedi’i rannu dros 5 mlynedd yn darparu buddion sylweddol i Gymru.
I gael rhagor o wybodaeth am ein hargymhellion maniffesto, cysylltwch â policy@Sport.Wales