Skip to main content

Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru

Crynodeb Gweithredol

Mae’r Astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad ddiweddaraf o Chwaraeon yng Nghymru wedi rhoi gwerth ariannol wedi’i ddiweddaru i'r manteision y mae chwaraeon yn eu sicrhau i Gymru gyfan. Canfuwyd, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yma, fod elw o £4.44.

Gan daflu goleuni llachar ar bŵer chwaraeon a sut mae’n chwarae rhan hanfodol wrth greu nid yn unig cenedl iach, ond cenedl hapus, hyderus a chysylltiedig, mae’r astudiaeth yn tynnu sylw bod chwaraeon yn cyfrannu swm syfrdanol o £5.89bn mewn gwerth cymdeithasol i Gymru. Daw hyn drwy ystod o feysydd gan gynnwys iechyd, lles goddrychol, cyfalaf cymdeithasol a gwirfoddoli.

Mae'r adroddiad llawn i'w weld isod.

Cyflwyniad

Ym mis Chwefror 2023, comisiynodd Chwaraeon Cymru Brifysgol Sheffield Hallam (SHU), mewn partneriaeth â Phrifysgol Loughborough, i gynnal astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (ECAF) o chwaraeon yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn adeiladu ar astudiaeth ECAF flaenorol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru (2016/17). Mae wedi’i ganoli yn y cyd-destun polisi yng Nghymru, gan ystyried y WeledigaeECAFth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ar lefel gymunedol ac elitaidd. Mae’n cael ei ariannu gan gyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru ac o incwm a gynhyrchir o’i weithgareddau ei hun. Dyma brif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion chwaraeon ac mae’n gyfrifol am ddosbarthu arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.

Nod yr astudiaeth ECAF yw mesur a rhoi gwerth i effeithiau cymdeithasol chwaraeon yng Nghymru. Ei diben yw galluogi Chwaraeon Cymru i ddangos tystiolaeth o gyfraniad chwaraeon i randdeiliaid a chefnogi sgyrsiau traws-lywodraethol am fuddsoddi yn y sector. O'r herwydd, dim ond canlyniadau cymdeithasol y gellir dangos tystiolaeth gadarn ar eu cyfer y mae'r astudiaeth yn eu cynnwys, er mwyn sicrhau lefel uchel o drylwyredd.

Crynodeb o'r Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad mewn Chwaraeon yng Nghymru

Cefndir a chyd-destun

Mae Chwaraeon Cymru yn un o 44 o sefydliadau sector cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, sef deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi meddwl yn gynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd eu gwaith, er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Chwaraeon Cymru, weithio tuag at saith nod llesiant, sef:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae’r Weledigaeth ar gyfer Cymru yn egluro sut gall chwaraeon helpu i gyfrannu at y nodau llesiant a thrawsnewid Cymru yn ‘Genedl Actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes’. At hynny, mae Strategaeth Chwaraeon Cymru, Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu, yn amlinellu sut caiff y Weledigaeth ei chyflawni. Yn y ddwy ddogfen, amlinellir manteision posibl bod yn actif, gyda’r olaf yn defnyddio’r dystiolaeth o’r ECAF cyntaf ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Bydd yr astudiaeth hon yn darparu tystiolaeth wedi'i diweddaru i gefnogi'r dogfennau polisi hyn. Yn benodol, bydd yr ECAF yn darparu tystiolaeth i helpu i ddangos y gwerth sy’n cael ei greu drwy chwaraeon mewn perthynas â 'Cymru iachach', 'Cymru o gymunedau cydlynus', a 'Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu'.

Er bod yr ymchwil hwn yn adeiladu ar yr ECAF blaenorol o chwaraeon yng Nghymru o 2016/17, ac yn defnyddio fframwaith ECAF yn yr un modd, mae’n cynnwys canlyniadau cymdeithasol gwahanol, trothwyon cyfranogiad gwahanol ac, mewn rhai achosion, gwahanol dechnegau prisio. O'r herwydd, ni ddylid cymharu canlyniadau'r astudiaeth hon yn uniongyrchol â'r ECAF blaenorol.

Diffinio chwaraeon

At ddibenion yr astudiaeth, arweiniwyd y tîm ymchwil gan y diffiniad o chwaraeon a ddarparwyd yn Siarter Chwaraeon Cyngor Ewrop (1992), sy’n diffinio chwaraeon yn ei ystyr ehangaf i gynnwys: 

“...pob math o weithgarwch corfforol sydd, drwy gyfranogiad achlysurol neu drefnus, yn ceisio mynegi neu wella ffitrwydd corfforol a lles meddyliol, ffurfio perthnasoedd cymdeithasol neu sicrhau canlyniadau mewn cystadlaethau ar bob lefel.”

Mae'r astudiaeth yn cynnwys yr holl chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol, a gweithgareddau corfforol a ystyrir yn hamdden actif, fel gweithgareddau ffitrwydd, dawns a cherdded er diben hamdden. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys gweithgareddau yn y cartref nad ydynt wedi'u gwreiddio mewn chwaraeon ac ymarfer corff ffurfiol neu'n gysylltiedig â hwy, fel garddio. At ddibenion yr astudiaeth hon, rydym hefyd yn eithrio teithio llesol.