Skip to main content

Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Mewnbynnau, Allbynnau a Chanlyniadau

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru
  4. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Mewnbynnau, Allbynnau a Chanlyniadau

Mewnbynnau

Mewnbynnau yw'r pethau hynny y mae rhanddeiliaid yn eu cyfrannu er mwyn gwneud gweithgareddau'n bosibl. Mae mewnbynnau yn ariannol (arian) ac anariannol (amser). Mae Tabl 5.1 yn crynhoi'r mewnbynnau ar gyfer Cymru. Er bod y mewnbynnau yn gymharol syml i’w nodi, cymerwyd gofal i sicrhau nad oedd unrhyw gyfrif dwbl rhwng sefydliadau, er enghraifft Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru. Nid yw nifer o randdeiliaid a nodir yn Ffigur 4.1 wedi’u cynnwys yn Nhabl 5.1 oherwydd bod eu mewnbynnau wedi’u nodi mewn man arall. Er enghraifft, nid yw'r sector masnachol wedi'i gynnwys gan fod yr holl fewnbynnau a ddarperir gan y sector hwn yn cael eu cyfrif mewn gwariant defnyddwyr ar chwaraeon. Cyfanswm y mewnbynnau ar gyfer chwaraeon yng Nghymru oedd tua £1.35bn. Yn ogystal â gwariant gan aelwydydd a’r sector cyhoeddus, mae’r ffigur cyfanredol hwn yn cynnwys gwerth yr amser a gyfrannwyd gan wirfoddolwyr i gefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon a hamdden actif yng Nghymru.

Tabl 5.1: Crynodeb o fewnbynnau ECAF

Rhanddeiliad£(m)

Aelwydydd

Taliadau / ffioedd gweithgarwch

Costau offer     

Dillad ac esgidiau chwaraeon

Costau teithio a chostau eraill

751.21

207.11

217.68

222.71

103.71

Sector Gwirfoddol

Amser

429.51

Sector Cyhoeddus

Chwaraeon Cymru

Awdurdodau Lleol

166.33

31.54

134.79

Cyfanswm1,347.05

Allbynnau 

Mae allbynnau yn grynodeb meintiol o weithgaredd. Mae dau fath o allbwn i Gymru, sef cyfranogiad chwaraeon a gwirfoddoli mewn chwaraeon. Daeth y rhain o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Tabl 5.2 yn dangos yr ystadegau cyfranogiad ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ogystal â nifer yr achosion o wirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru ymhlith oedolion 16+ oed. Defnyddiwyd yr ystadegau hyn wrth roi pris ar ganlyniadau iechyd, lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol.

Tabl 5.2:  Ystadegau cyfranogiad a gwirfoddoli oedolion ar gyfer Cymru 2021/22

Camp% Gweithgaredd Corfforol %
Llai nag unwaith yr wythnos50 <30 munud yr wythnos (Segur)30
Unwaith neu ddwywaith yr wythnos18 30 i 149 munud yr wythnos (Cymharol actif)14
Teirgwaith yr wythnos neu fwy32 150+ munud yr wythnos (Actif)56
 
Gwirfoddoli (Cyffredinol)10   
Gwirfoddoli (Clwb)7   

Gwerth iechyd

Er mwyn sicrhau bod yr amcangyfrifon sy’n deillio o ddefnyddio ein dull yn gadarn ac yn amddiffynadwy, dim ond y cyflyrau iechyd hynny y mae tystiolaeth empirig gref ar eu cyfer sy’n dangos y cysylltiad rhwng chwaraeon / gweithgarwch corfforol a gwell iechyd corfforol a meddyliol a gafodd eu cynnwys yn yr astudiaeth.

Mae Tabl 5.3 yn cyflwyno’r cyflyrau iechyd yr ystyriwyd eu gwerth a’r gostyngiadau cyfatebol yn y risg o afiechyd ymhlith oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol ar ddwysedd cymedrol am 150+ munud (neu 75+ munud o weithgarwch egnïol) yr wythnos. Mae’r gostyngiadau risg yn cael eu harwain gan Ganllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU a’r dystiolaeth epidemiolegol ategol gysylltiedig.

Mae Tabl 5.3 hefyd yn cyflwyno amcangyfrif o leihau risg ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan am rhwng 30 a 149 munud yr wythnos. Deilliodd y rhagdybiaethau ar gyfer y lleihad mewn risg o gymryd rhan am 30 i 149 munud yr wythnos gan dybio perthynas ymateb dos llinol rhwng lefel gweithgarwch a llai o risg a rhagdybio bod y grŵp hwn yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol am gyfartaledd o 60 munud yr wythnos. Mae’r rhagdybiaeth yn seiliedig ar gonsensws arbenigwyr sy’n gweithio yn y byd academaidd a pholisi, a chanllawiau’r Prif Swyddogion Meddygol y gallai niferoedd is o’r fath (llai na 150 munud yr wythnos), dwyseddau is ac amledd is o weithgarwch corfforol arwain hefyd at fanteision iechyd. Mae'r rhagdybiaeth hon yn debygol o danamcangyfrif yn hytrach na goramcangyfrif gwerth y buddion, sy'n golygu y bydd y gwerthoedd a geir yn geidwadol ac yn amddiffynadwy (sy'n egwyddor allweddol o ECAF).

Tabl 5.3: Cyflyrau iechyd sydd wedi'u cynnwys yn yr ECAF a lleihau risg

Cyflwr iechydPoblogaeth 

Lleihau risg 

(150+ munud yr wythnos)

Lleihau risg 

(30 i 149 munud yr wythnos)

CHDPob oedolyn 16+35%14%
Strôc Pob oedolyn 16+35%14%
Diabetes Math 2Pob oedolyn 16+40%16%
Canser y fron Oedolion benywaidd 16+20%8%
Canser y colon Pob oedolyn 16+20%8%
Torri asgwrn y glunOedolion hŷn 65+52%21%
Poen cefn Pob oedolyn 16+25%10%
Iselder       Pob oedolyn 16+30%12%
DementiaPob oedolyn 16+30%12%

Er mwyn cael amcangyfrif o’r buddion iechyd y gellir eu priodoli i chwaraeon a hamdden actif, fe wnaethom gyfrif i ddechrau werth cronnus y buddion hyn ar gyfer pob math o weithgarwch corfforol ymhlith oedolion a oedd yn ‘actif’ (150+ munud yr wythnos) ac yn ‘gymharol actif’ (30 i 149 munud yr wythnos). Wedyn fe wnaethom amcangyfrif pa gyfran o’r rhai a oedd yn cyrraedd y trothwyon gweithgarwch corfforol ‘actif’ a ‘chymharol actif’ oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon (o leiaf unwaith yr wythnos). Roedd hyn yn 65% a 45% yn y drefn honno. Lluoswyd y gymhareb â gwerth iechyd cyffredinol gweithgarwch corfforol i gyfrif cyfraniad chwaraeon at fuddion iechyd. Mewn geiriau eraill, ar gyfer pob cyflwr iechyd mae'r gwerth a amcangyfrifir ar gyfer chwaraeon yn is-set o'r gwerth cyffredinol ar gyfer gweithgarwch corfforol.

Mae Tabl 5.4 yn cyflwyno nifer yr achosion o salwch a ataliwyd drwy bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafodd mwy na 113,000 o achosion o salwch eu hatal yn 2021/22. Cyfrifwyd achosion o salwch a ataliwyd drwy chwaraeon gan ddefnyddio’r gostyngiadau risg, data amlygrwydd a chyfraddau cyfranogiad ar gyfer cyfranogwyr ‘actif’ a ‘chymharol’ actif.

Tabl 5.4: Achosion o salwch a ataliwyd drwy chwaraeon

Canlyniadau iechyd150+ munud yr wythnos30 i 149 munud yr wythnosCyfanswm
CHD16,6861,49318,179
Strôc 10,35292611,278
Diabetes Math 233,4883,11836,606
Canser y fron20119220
Canser y colon 13411144
Torri asgwrn y glun82291912
Poen cefn 24,9472,06927,016
Iselder       2,8072423,049
Dementia14,8141,27516,089
Cyfanswm104,2509,243113,493

Wedyn lluoswyd nifer yr achosion â chostau gofal iechyd uniongyrchol ac anuniongyrchol (Tabl 5.5). Mae’r gost flynyddol y person yn amrywio rhwng pob cyflwr iechyd. Ar gyfer rhai cyflyrau iechyd (e.e., poen cefn) mae’r costau’n ymwneud â gofal iechyd yn unig, ond ar gyfer eraill (e.e. CHD) maent hefyd yn cwmpasu costau ehangach gan gynnwys gofal anffurfiol. Roedd argaeledd data cost ar gyfer trin cyflyrau iechyd yn amrywio. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, data o Gymru a ddefnyddiwyd, ond ar gyfer unrhyw gyflyrau na ellid cael costau ar eu cyfer, benthycwyd data costau'r DU neu Loegr. Addaswyd y costau yn ôl chwyddiant i'r flwyddyn astudio.

Tabl 5.5: Cost flynyddol fesul achos

Canlyniadau iechydCostau gofal iechyd (£)Costau anuniongyrchol (£)Cyfanswm (£)
CHD1,0423,3144,356
Strôc  2,54816,76319,311
Diabetes Math 2745n.a.745
Canser y fron20,60636,15956,764
Canser y colon 20,60636,15956,764
Torri asgwrn y glun19,69014,25833,948
Poen cefn 265n.a.265
Dementia13,94881,48795,435
Iselder       76258334

Cyflwynir yr arbedion cost cyffredinol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn Nhabl 5.6. Cyfanswm yr arbedion cost yw £679m ar gyfer y naw cyflwr a gyflwynwyd, gydag 80% yn dod gan bobl sy'n bodloni canllawiau'r Prif Swyddogion Meddygol o 150+ munud yr wythnos. O blith y rhain, mae 22% (£151m) yn arbedion costau gofal iechyd uniongyrchol, ac mae 78% (£528m) yn gysylltiedig â chostau iechyd anuniongyrchol eraill.

Y tu hwnt i’r naw cyflwr iechyd a nodwyd rydym hefyd wedi gosod gwerth tybiannol ar anafiadau chwaraeon gan ddefnyddio data procsi o Loegr, sy’n seiliedig ar nifer y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys a gofnodwyd fel anafiadau chwaraeon a data costau cysylltiedig. Amlygir cost anafiadau chwaraeon mewn coch. Yr arbedion cost iechyd net o gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru yw £621m.

Tabl 5.6: Prisiad iechyd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru

Canlyniadau iechyd150+ munud yr wythnos (£m)30 i 149 munud yr wythnos (£m)Cyfanswm (£m)
CHD72.686.5079.18
Strôc199.9017.88217.78
Diabetes Math 224.952.3227.27
Canser y fron11.431.0612.49
Canser y colon 7.590.618.20
Torri asgwrn y glun27.893.0830.97
Poen cefn 6.600.557.15
Dementia267.8923.06290.95
Iselder     4.950.435.38
Is-gyfanswm 623.8855.50679.37
Anafiadau -46.55-11.64-58.18
Cyfanswm£577.33£43.86£621.19

Dadansoddiad Prisiad Lles: lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol           

Defnyddiodd y tîm ymchwil y Dull Prisio Lles (WVA) i ganfod gwerthoedd ariannol ar gyfer lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol, yn deillio o gyfranogiad a gwirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru. Defnyddiodd yr ECAF blaenorol ar gyfer Cymru (2016/17) brocsis lles goddrychol (SWB) ar gyfer cyfranogiad yn deillio o ddefnyddio data o arolwg Understanding Society, sy’n sampl fawr, hydredol a chynrychioliadol o boblogaeth y DU. Er ei bod yn gwbl briodol defnyddio data’r DU yn absenoldeb data o Gymru, mae’r procsis hyn wedi dyddio bellach, ac o ystyried bod SWB yn gyfran sylweddol o’r gwerth cymdeithasol cyffredinol a gynhyrchwyd gan chwaraeon yng Nghymru yn flaenorol, cynhaliwyd prisiad llesiant yn benodol ar gyfer Cymru gennym. 

Mae'r WVA yn cyfrif swm yr incwm sydd ei angen i sicrhau canlyniad fel lles goddrychol (neu gyfalaf cymdeithasol), hyd at y lefel y byddai fel arfer pe bai cyfranogiad (neu wirfoddoli) yn cael ei eithrio. Dewiswyd y dull hwn gan ei fod yn cael ei ddefnyddio’n eang a’i dderbyn fel mesur dilys ar gyfer rhoi gwerth i ganlyniadau nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad ar gyfer cyfranogiad a gwirfoddoli yn y sector chwaraeon.

Cymhwysodd ein hastudiaeth y WVA gan ddefnyddio data o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Dewiswyd y set ddata ar gyfer 2019-20 gan mai hon oedd yr un ddiweddaraf a oedd yn cynnwys newidynnau ar wirfoddoli mewn chwaraeon ac incwm. Mae Tabl 5.7 yn cyflwyno gwerthoedd WVA ar gyfer lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol sy'n deillio o gyfranogiad ar wahanol amleddau a gwirfoddoli drwy glwb. Mae gwerth gwirfoddoli mewn chwaraeon yn seiliedig ar y newidyn: ‘gwirfoddoli drwy glwb chwaraeon’ gan nad oedd gwirfoddoli chwaraeon cyffredinol dros 12 mis wedi arwain at ganlyniad ystadegol arwyddocaol.

Tabl 5.7: Gwerthoedd y WVA (2019/20)

Canlyniadau iechydLles goddrychol (£)Cyfalaf cymdeithasol (£)
Cyfranogiad chwaraeon 3+ yr wythnos v llai na 3 gwaith yr wythnos1,5411,732
Cyfranogiad chwaraeon unwaith neu ddwywaith yr wythnos v llai nag unwaith yr wythnos1,0171,270
Gwirfoddoli mewn chwaraeon drwy glwb (12 mis diwethaf) 1,7194,661

Chwyddwyd y gwerthoedd yn Nhabl 5.7 i'r flwyddyn astudio a'u lluosi â'r nifer cyfatebol o gyfranogwyr 16+ oed a’r gwirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon. Mae Tabl 5.8 yn dangos y gwerth yr amcangyfrifwyd y mae cyfranogwyr yn ei gael o les goddrychol uwch fel £1.74bn, a gwerth y gwirfoddolwyr oedd £316m. Fel cyfanswm, roedd cyfraniad chwaraeon at les goddrychol yng Nghymru yn £2.06bn. Yn yr un modd, gwerth y cyfalaf cymdeithasol uwch a grëwyd o gyfranogiad oedd £2.02bn ac o wirfoddoli, £856m. Roedd cyfraniad cyffredinol chwaraeon at well cyfalaf cymdeithasol yng Nghymru yn £2.87bn.

Tabl 5.8: Prisiad lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol

 Lles Goddrychol (£m)Cyfalaf Cymdeithasol (£m)
Cyfranogiad1,741.082,015.67
Gwirfoddoli315.82£856.34
Cyfanswm2,056.90£2,872.01

Gwerth cyfnewid gwirfoddolwyr

Yn ogystal â’r buddion lles unigol a chyfalaf cymdeithasol y mae gwirfoddolwyr yn eu cael o chwaraeon, maent yn darparu gwerth nad yw’n werth y farchnad i sefydliadau sy’n eu defnyddio. Rydym yn defnyddio cost cyfnewid gwirfoddolwyr fel procsi i gynrychioli'r gwerth hwn. Rydym yn amcangyfrif hyn gan ddefnyddio gwerth cyfatebol y farchnad lafur o amser gwirfoddolwyr, a gyfrifir gan ddefnyddio oriau gwirfoddoli cyfartalog, wedi'i luosi gydag enillion cyfartalog yr awr yng Nghymru. Amcangyfrifir bod gwerth hyn yn £430m.