Skip to main content

Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Map Gwerth

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru
  4. Elw Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad Chwaraeon Yng Nghymru - Map Gwerth

Mae'r Map Gwerth yn ganolog i ddadansoddiad ECAF. Fe'i gelwir hefyd yn 'theori o newid' neu'n fodel rhesymeg a dyma'r fframwaith a ddefnyddir i adeiladu'r model ECAF. Cyfunodd y tîm ymchwil yr ymgysylltu â rhanddeiliaid a drafodwyd yn y bennod flaenorol gyda thystiolaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid i gynhyrchu map o’r mewnbynnau, yr allbynnau a’r canlyniadau sy’n deillio o ymgysylltu â chwaraeon yng Nghymru. Mae Ffigur 4.1 yn crynhoi Map Gwerth Cymru.

Mae'r Map Gwerth a gyflwynir yn Ffigur 4.1 yn grynodeb cynhwysol o'r holl ganlyniadau a nodwyd gan y rhanddeiliaid, ymchwil trydydd parti a llenyddiaeth lwyd gyhoeddedig, gan gynnwys yr astudiaeth ECAF flaenorol ar gyfer Cymru. Mae ansawdd y dystiolaeth ar gyfer y gwahanol ganlyniadau a meysydd yn amrywio'n sylweddol. Gan fod cynulleidfa arfaethedig yr astudiaeth hon yn cynnwys Llywodraeth Cymru, roedd angen lefel uchel o drylwyredd. Felly, cyfyngwyd cwmpas yr astudiaeth ECAF i gynnwys dim ond y canlyniadau hynny y gellid cyflwyno tystiolaeth gadarn ohonynt. Mae hyn yn gyson ag arfer y rhan fwyaf o astudiaethau ECAF eraill ar lefel poblogaeth.

Fel cyfanswm, rhoddwyd gwerth ariannol i 15 o ganlyniadau yn y ECAF ar draws pedwar maes, gan gynnwys deg canlyniad iechyd, dau ganlyniad yn ymwneud â lles goddrychol a chyfalaf cymdeithasol ac un canlyniad yn ymwneud â’r buddion nad ydynt yn ymwneud â’r farchnad a sicrhawyd gan sefydliadau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr chwaraeon. Cyflwynir y canlyniadau a gynhwysir yn ECAF Cymru yn Nhabl 4.1.

Tabl 4.1. Canlyniadau wedi'u cynnwys ym model chwaraeon ECAF ar gyfer Cymru

ParthCanlyniadGrŵp poblogaeth 
IechydLlai o risg o CHD Pob cyfranogwr 16 +
Llai o risg o strôc Pob cyfranogwr 16 +
Llai o risg o ddiabetes Math 2Pob cyfranogwr 16 +
Llai o risg o ganser y fron Cyfranogwyr benywaidd 16 +
Llai o risg o ganser y colon Pob cyfranogwr 16 +
Llai o risg o dorri asgwrn y glunPob cyfranogwr 65 +
Llai o risg o boen cefnPob cyfranogwr 16 +
Llai o risg o iselder     Pob cyfranogwr 16 +
Llai o risg o ddementia  Pob cyfranogwr 16 +
Risg gynyddol o anaf       Pob cyfranogwr 16 +
Lles GoddrycholGwell boddhad gyda bywydPob cyfranogwr 16 +
Gwell boddhad gyda bywydGwirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon (16+)
Cyfalaf CymdeithasolGwell cyfalaf cymdeithasol (rhwydweithiau cymunedol, cysylltiadau ac ymddiriedaeth)Pob cyfranogwr 16 +
Gwell cyfalaf cymdeithasol (rhwydweithiau cymunedol, cysylltiadau ac ymddiriedaeth)Gwirfoddolwyr mewn clybiau chwaraeon (16+)
Arall Manteision i sefydliadau chwaraeon sy'n defnyddio gwirfoddolwyrPob gwirfoddolwr (16+)

Ffigur 4.1: Map Gwerth Chwaraeon yng Nghymru 

Cam 1Cam 2Cam 3
RhanddeiliaidMewnbynnauAllbynnauCanlyniadau
Pwy a faint?Beth maent yn ei fuddsoddi?Crynodeb o weithgareddauPa newidiadau? 

Sector cyhoeddus

- Llywodraeth Cymru

- Chwaraeon Cymru

- Iechyd Cyhoeddus Cymru

- Awdurdodau Lleol

- UK Sport

- Ysgolion

- Sefydliadau Addysg Uwch

Sector preifat

- Darparwyr chwaraeon masnachol

- Cyflogwyr gyda chyfleusterau chwaraeon

Trydydd sector

- Clybiau chwaraeon gwirfoddol

- Ymddiriedolaethau Chwaraeon a Hamdden

- CRhC Chwaraeon

- Elusennau cysylltiedig â chwaraeon

- Sefydliadau Chwaraeon ar gyfer Datblygu

Aelwydydd

- Cyfranogwyr chwaraeon

- Gwirfoddolwyr chwaraeon  

Ariannol 

- Cyllid (e.e., datblygiad chwaraeon, gweinyddu, a chostau staff) 

- Gwariant cyfalaf ar adeiladu ac adnewyddu seilwaith chwaraeon; chwaraeon cymdogaeth yng Nghymru

- Gwariant cyfranogwyr (taliadau / ffioedd gweithgarwch; costau offer; dillad ac esgidiau chwaraeon; costau teithio a chostau eraill)

Anariannol

- Amser gwirfoddolwyr 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfranogiad chwaraeon

- Amledd y cymryd rhan 

150 munud yr wythnos

30 i 149 munud yr wythnos

- Dwysedd y cyfranogiad -

cymedrol neu egnïol

Gwirfoddoli mewn chwaraeon

- Amledd y cymryd rhan

- Oriau a weithiwyd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Iechyd

- Iechyd corfforol a meddyliol gwell

- Mwy o anafiadau chwaraeon

Lles goddrychol

- Gwell boddhad gyda bywyd

- Gwell hapusrwydd

- Teimlo’n fwy / llai gwerthfawr

- Mwy / llai o orbryder

Cyfalaf cymdeithasol

- Cydlyniant cymunedol gwell

- Cynyddu cynhwysiant cymdeithasol

- Mwy o ymddiriedaeth

Troseddu

- Llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Addysg

- Cyrhaeddiad addysgol gwell

- Cyfalaf dynol uwch

Arall

Manteision i sefydliadau chwaraeon sy'n defnyddio gwirfoddolwyr