Skip to main content

Arolwg cenedlaethol yn rhoi llais i bobl ifanc drafod chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Arolwg cenedlaethol yn rhoi llais i bobl ifanc drafod chwaraeon

Gwahoddir plant a phobl ifanc ledled y wlad i rannu eu barn mewn arolwg cenedlaethol i helpu i lunio dyfodol chwaraeon yng Nghymru.

Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, sy'n cael ei redeg gan Chwaraeon Cymru, yn agor ddydd Llun 28 Mawrth ac mae wedi'i anelu at ddisgyblion 7 i 16 oed (blynyddoedd ysgol 3 i 11).

Nid yn unig y bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn rhoi darlun o ba chwaraeon a gweithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol, a pha mor aml, bydd hefyd yn datgelu pa chwaraeon a gweithgareddau yr hoffent gael y cyfle i fwynhau mwy ohonynt. 

Bydd yr arolwg hefyd yn darganfod mewnwelediad gwerthfawr o’r rhwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dyma fydd y pumed tro ers 2011 i Chwaraeon Cymru gynnal yr arolwg o arferion gweithgareddau pobl ifanc. Casglodd yr arolwg diwethaf, yn 2018, farn dros 120,000 o blant o dros 1,000 o ysgolion.


Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru: "Rydym am i bob person ifanc yng Nghymru fod yn actif, yn iach ac yn hapus, gan brofi'r amrywiaeth eang o fanteision cadarnhaol a ddaw yn sgil chwaraeon. 

"Yn anffodus, mae nifer fawr o blant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn llai aml na'r tair gwaith yr wythnos a argymhellir. Nid yw dros hanner yr holl ferched yn cael digon o ymarfer corff, tra bod llai yn cymryd rhan hefyd ymhlith pobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd, o fewn cymunedau ethnig amrywiol ac ymhlith plant ag anableddau.

“Fodd bynnag, dywedodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2018 wrthym y byddai 96% o bobl ifanc yng Nghymru yn hoffi gwneud mwy o chwaraeon, sy'n dangos bod lefel enfawr o gyfle os yw'r cynnig yn briodol. 

"Bydd yr arolwg eleni yn ein helpu ni a'n partneriaid ar draws chwaraeon, addysg ac o fewn awdurdodau lleol, i adeiladu ar ganfyddiadau'r arolwg blaenorol a pharhau i weithio'n galed i ddarparu cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar anghenion a chymhellion pobl ifanc.

"Drwy gasglu a gwrando ar eu barn, gall y sector chwaraeon yng Nghymru nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mewn cymunedau ledled y wlad, gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am adnoddau yn y dyfodol, a chael gwell dealltwriaeth o ba gymorth sydd ei angen i helpu i ddileu unrhyw rwystrau i gymryd rhan. 

"O ystyried yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar y sector chwaraeon yng Nghymru, ac yn wir, y wlad gyfan, rwy'n credu y bydd arolwg eleni hyd yn oed yn bwysicach nag erioed o ran deall arferion ac agweddau pobl ifanc tuag at chwaraeon a gweithgarwch corfforol.”

Ychwanegodd Brian: "Mae pob ysgol sy'n cefnogi’r gwaith o lenwi'r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn rhan o gymuned genedlaethol sy'n helpu'r ymgyrch i bobl ifanc fod yn fwy actif. 

"Fel bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth enfawr sy'n cael ei roi gan ein partneriaid, a phartneriaid awdurdodau lleol yn benodol, i gyflwyno'r Arolwg Chwaraeon Ysgol.”

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: "Ar ôl dwy flynedd o bandemig ni fu erioed amser pwysicach i gael barn pobl ifanc am eu mynediad i weithgarwch corfforol. Mae chwaraeon yn dda i’r corff a’r meddwl, ac yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymdeithasu â'u ffrindiau. 

"Mae'n hanfodol cael persbectif go iawn ar sut mae'r cyfnod hwn wedi newid eu rhagolygon, pa effaith y mae wedi'i chael ar eu lles a'r hyn y gellir ei wneud i adlewyrchu'r newid hwnnw yn y ffordd y caiff chwaraeon a gweithgarwch corfforol eu darparu.”

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael e-bost gyda’u dolen unigryw eu hunain i'r arolwg ar-lein ddydd Llun 28 Mawrth. Bydd ganddynt tan ddydd Gwener 22 Gorffennaf i gymryd rhan. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.

Cynghorir ysgolion hefyd i wirio'r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer eu Hadroddiad Arolwg Chwaraeon Ysgol unigol eu hunain. Yna gall yr ysgol ddefnyddio'r adroddiad hwn i deilwra eu gweithgareddau chwaraeon a lles i gyd-fynd yn well ag anghenion eu disgyblion. 

Plant yn rhoi'r bawd i fyny