Skip to main content

Bowlwyr benywaidd Rhiwbeina yn cadw’n actif yn eu 90au diolch i arian y Loteri Genedlaethol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Bowlwyr benywaidd Rhiwbeina yn cadw’n actif yn eu 90au diolch i arian y Loteri Genedlaethol

I bobl hŷn, gall cadw’n actif a dal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon ymddangos yn dasg amhosibl yn aml. Ond, diolch i £1,152 o arian y Loteri Genedlaethol, mae Clwb Bowls Awyr Agored Merched Rhiwbeina yn cefnogi mwy na 25 o ferched yn eu 90au i ddal ati i chwarae bowls.

Mae grŵp newydd y clwb, ‘Merched Feteran’, yn chwarae bowls bob wythnos, diolch i offer newydd a brynwyd gyda’r grant. I lawer o’r merched yma, dyma’r unig dro maen nhw’n bod yn actif yn ystod yr wythnos.

Pa offer wnaethon nhw ei brynu gyda'r cyllid?

Mae gan lawer o’r cyfranogwyr broblemau symud, felly mae’r ‘fferelau’ newydd maen nhw wedi’u prynu yn golygu bod eu ffyn cerdded yn ddiogel i’w defnyddio ar y lawnt. Mae ‘codwyr peli a jac’ yn eu helpu i gasglu’r peli a’r jacs heb orfod plygu. Mae ‘casglwr peli’ newydd yn dyblu fel cymorth cerdded i helpu’r merched i gerdded i fyny ac i lawr y lawnt. Heb yr offer yma, ni fyddai'r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gallu chwarae mwyach.

Aelod hynaf Merched Feteran Rhiwbeina yw Moya, 91 oed. Dywedodd: “Rydw i’n defnyddio’r holl offer sy’n cael ei gyflenwi oherwydd fy mod i ei angen. Y ffyn cerdded, y sgŵps, y codwyr… rydw i’n ddiolchgar iawn amdanyn nhw.

Yn ffodus, rydw i'n dal i yrru car. Cyn belled ag y byddaf yn gallu dal i yrru, byddaf yn parhau i ddod i’r clwb!”

Mae Cronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan y Loteri Genedlaethol, yn cynnig grantiau i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a grwpiau cymunedol sy’n gwneud newidiadau i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.

Mae Moya Evans yn codi pêl gyda chodwyr pêl
Glo Bird yn cario dwy bêl
Moya Evans yn defnyddio'r casglwr peli

Pam mae’n bwysig i bobl hŷn fod yn actif?

Nododd arolwg diweddaraf Traciwr Gweithgarwch Cymru bod pobl dros 55 oed yn llai tebygol na phobl iau o fod â’r gallu i fod yn gorfforol actif, felly mae cefnogi prosiectau sy’n galluogi pobl hŷn i wneud ymarfer corff yn bwysicach nag erioed.

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r grŵp Merched Feteran yng Nghlwb Bowls Awyr Agored Rhiwbeina yn enghraifft wych o glwb yn gwneud newidiadau i ddiwallu anghenion ei aelodau.

“Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Mae creu mannau cynhwysol ar gyfer pobl hŷn yn rhan bwysig o hyn, felly rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cefnogi’r prosiect yma drwy Gronfa Cymru Actif.”

Mae llawer o aelodau’r clwb yn weddwon, ac mae agwedd gymdeithasol chwaraeon hamdden hefyd yn gwella ansawdd eu bywyd yn sylweddol.

Mae aelod o’r clwb, Glo Bird, yn cytuno, a dywedodd: “Pan wnes i ymuno, roeddwn i newydd ddod yn weddw. Rydw i wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson ers hynny. Ond mae fy ffrindiau i yma yn y clwb bowls wedi fy nghefnogi i. Mae wedi bod yn gwbl allweddol i mi.

“’Fyddwn i ddim eisiau bod heb fy nghlwb.”

Dywedodd Julia Rawlins, Capten Bowls Awyr Agored Merched Rhiwbeina: “Fy nod i cyn dod yn gapten oedd cael clwb hapus, ac rydw i mor falch ein bod ni wedi cyflawni hynny.

O edrych ar ein clwb ni, rydw i mor falch o gynnig y gweithgareddau gwahanol hynny i fynd i’r afael ag anghenion merched, yn ogystal â’r bywyd cymdeithasol anhygoel y gallwn ni ei gynnig.”

Pob aelod o'r grŵp feterans o Glwb Bowls Dan Do Merched Rhiwbeina yn gwenu am lun
Grŵp feterans o Glwb Bowls Dan Do Merched Rhiwbeina

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy