Skip to main content

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Bydd ffigwr blaenllaw yn chwarae rhan fawr wrth siapio dyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws Gorllewin Cymru.

Mae Dr Sue Barnes, Prif Swyddog Gweithredol Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru – sefydliad newydd sbon sydd wedi ymrwymo i wneud cymunedau ar draws y rhanbarth yn iachach ac yn hapusach drwy weithgarwch corfforol.

Penlun Dr Sue Barnes
Mae gennym ni gyfle gwych i weithio gyda chymunedau a sefydliadau ar draws Gorllewin Cymru er mwyn gwella iechyd a lles yn ddramatig drwy fwynhau chwaraeon a bod yn actif.
Dr Sue Barnes, Cadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru

Dywedodd Dr Barnes: “Mae gennym ni gyfle gwych i weithio gyda chymunedau a sefydliadau ar draws Gorllewin Cymru er mwyn gwella iechyd a lles yn ddramatig drwy fwynhau chwaraeon a bod yn actif. Dyma’r tro cyntaf i sefydliad fel hwn gael ei greu ar gyfer Gorllewin Cymru ac mae’n gyfle y mae angen i ni fanteisio yn llawn arno.

“Mae gan chwaraeon cymunedol gymaint o botensial i wella cymdeithas yn ei chyfanrwydd ac rydw i’n credu’n gryf y gallwn ni gael effaith sylweddol, drwy gydweithio fel rhanbarth.”

Mae Dr Barnes yn ymuno â'r Bartneriaeth gyda chyfoeth o brofiad a ddatblygwyd ar draws nifer o swyddi uchel eu proffil yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol. Mae ganddi ddiddordeb oes yn y rôl y gall ffyrdd o fyw iach ei chwarae mewn iechyd a lles ac mae wedi eiriol yn gadarn dros y buddsoddiad economaidd mewn mesurau ataliol.

Gorllewin Cymru yw'r ail ranbarth yng Nghymru i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon yn llwyddiannus. Mae ei chreu a phenodi Dr Barnes yn gerrig milltir arwyddocaol yn yr ymdrech draws-sector i newid y ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i gymunedau ledled Cymru.

Eisoes, mae ymdeimlad cadarn o gydweithio ar draws y rhanbarth gyda’r awdurdodau lleol, prifysgolion, clybiau chwaraeon proffesiynol rhanbarthol a’r bwrdd iechyd lleol yn dod at ei gilydd i greu Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Mae Ben Lucas, Cadeirydd Dros Dro y Bartneriaeth yn ystod y cyfnod creu, yn camu i’r ochr nawr ond yn parhau fel Cyfarwyddwr Bwrdd:

“Rydw i wrth fy modd bod Dr Barnes yn cymryd rôl y Cadeirydd, mae hwn yn benodiad rhagorol i’r Bartneriaeth a’r Rhanbarth. Mae’r Bartneriaeth bellach mewn sefyllfa gref ac rydw i’n siŵr, o dan ei harweinyddiaeth hi, y bydd yn sicrhau llwyddiant i Orllewin Cymru,” meddai. “Drwy bwlio ein cryfder ar y cyd a thrwy gyfuno ein hadnoddau a’n harbenigedd, gallwn fod yn wirioneddol uchelgeisiol ar gyfer dyfodol chwaraeon cymunedol.”

Mae Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru yn awyddus i feithrin cysylltiadau â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy