Skip to main content

AILDANIO RHAGLEN CLIP YR HYDREF YMA AR GYFER PARTNERIAID

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. AILDANIO RHAGLEN CLIP YR HYDREF YMA AR GYFER PARTNERIAID

Bydd y Rhaglen Cyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth (CLIP), sy’n darparu mynediad rheolaidd at gyfleoedd addysg a hyfforddiant ar gyfer partneriaid Chwaraeon Cymru, yn ailddechrau yr hydref yma.

Ar ôl ei gohirio oherwydd Covid-19, mae’r fenter hon ar y cyd gam dimau cyfathrebu a dirnadaeth Chwaraeon Cymru yn canolbwyntio ar feysydd fel dangos tystiolaeth o effaith, defnyddio data, cyfryngau cymdeithasol, a defnydd o dechnoleg mewn marchnata. 

Gyda chynnwys gan arbenigwyr fel pennaeth marchnata a darganfod cynnwys BBC Cymru Wales, pennaeth marchnata Boss Brewing a thîm Chwaraeon Llundain ymhlith eraill, bydd esiamplau, astudiaethau achos a phob math o ddysgu ar gael i bawb.     

Mae’r tîm wedi datblygu safle gyda chyfrinair ar y wefan yn benodol ar gyfer swyddogion marchnata cyrff rheoli chwaraeon ac awdurdodau lleol Cymru. Yn gryno, y nod yw creu safle i fewngofnodi iddo a gallu gwella sgiliau heb fod angen gadael eich desg. Bydd y cynnwys yn amrywio o flogiau ac erthyglau o ddiddordeb i gyfweliadau, sgyrsiau Zoom wedi’u recordio rhwng gwahanol arbenigwyr a fideos gan bobl enwog ar draws y sectorau. Mae cynlluniau hefyd i ailddechrau ein digwyddiadau byw (ar-lein i ddechrau) pan fydd hynny’n bosib.   

 

Dywedodd Paul Batcup, rheolwr cyfathrebu digidol yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn unrhyw beth ond cyffredin ac wedi cyflwyno sawl her i’r sector, ond rydyn ni’n gyffrous am ail-lansio CLIP ar eich cyfer chi. Mae cymaint o esiamplau gwych wedi bod o sefydliadau’n goresgyn rhwystrau ac yn addasu eu darpariaeth, yn enwedig gyda thechnoleg newydd, felly rydyn ni’n awyddus i rannu’r rhain a helpu i ysbrydoli ein partneriaid ledled Cymru. 

“Rydyn ni i gyd yn ymwybodol y bydd mwy o heriau o’n blaen, ond mae hyn hefyd yn golygu y bydd llawer mwy o gyfleoedd i wneud y profiad cyflawn i’r defnyddiwr yn haws ac yn fwy effeithiol. Mae ein dull ni o ddysgu gyda’n gilydd, cyflawni gyda’n gilydd a dathlu gyda’n gilydd gyda’n partneriaid yn ganolog i’r ffordd y mae’r rhaglen hon wedi cael ei chynllunio, ac rydyn ni’n gyffrous am ddal ati i adeiladu ar lwyddiant enfawr peilot gwreiddiol CLIP.

“Mae gennym ni gynnwys a siaradwyr gwych ar eich cyfer chi ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at glywed pa hyfforddiant ac arbenigedd arall fyddech chi’n hoffi i ni eu hwyluso. Felly, os oes gennych chi unrhyw syniadau a phynciau i ni edrych arnyn nhw, cofiwch gysylltu â’r tîm gan mai eich rhaglen hyfforddi chi yw hon.”

Mae Chwaraeon Cymru yn cyfrannu arian at CLIP er mwyn sicrhau bod y sesiynau’n fforddiadwy i’r amrywiaeth o sefydliadau sy’n rhan o sector chwaraeon Cymru ac mae’n dilyn arbrawf llwyddiannus lle gwelwyd 100% o’r cyfranogwyr yn dweud bod y sesiynau o werth mawr a 95% yn dweud eu bod eisoes wedi profi’n fuddiol i’w gwaith.