Skip to main content

CLIP

Mae’r Rhaglen Cyfathrebu, Dysgu a Dirnadaeth (CLIP) yn darparu mynediad rheolaidd at addysg a chyfleoedd hyfforddi i bartneriaid Chwaraeon Cymru. 

Yn fenter ar y cyd gan dimau cyfathrebu a dirnadaeth Chwaraeon Cymru, mae’r hyfforddiant a’r gefnogaeth yn canolbwyntio ar feysydd fel dangos tystiolaeth o effaith, defnyddio data, cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio technoleg i farchnata. Mae CLIP yn cael cymorth ariannol gan Chwaraeon Cymru i sicrhau bod y sesiynau’n fforddiadwy i’r amrywiaeth o sefydliadau sy’n creu sector chwaraeon Cymru.   

Mae’n dilyn arbrawf llwyddiannus gyda 100% o’r rhai oedd yn bresennol yn dweud bod y sesiynau dysgu o werth mawr a 95% yn dweud eu bod wedi profi’n fuddiol iawn i’w gwaith. Mae partneriaid Chwaraeon Cymru yn cael blaenoriaeth ar gyfer sesiynau CLIP ac maent yn derbyn gwybodaeth reolaidd am amserlen y rhaglen. 

Er bod rhaglen Clip wedi cael ei gohirio dros dro oherwydd sefyllfa'r Coronafeirws, rydyn ni'n bwriadu ailddechrau'r rhaglen cyn gynted â phosib. 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i [javascript protected email address].

 

Digwyddiadau i ddod

Datblygu Eich Busnes a Bod yn Greadigol - BOSS BREWING

4/11/2020 :  11:00 – 12:30

Mae Boss Brewing yn fragdy llwyddiannus yn Abertawe sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’r Cydsylfaenydd a’r Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata, Sarah John, yn gwybod ambell beth am weithio’n llwyddiannus gyda chynulleidfaoedd gan fod y cwmni bellach yn gwerthu ledled y byd ac mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.

 

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

• Trosolwg o’r busnes

• Gwybodaeth am sut mae Boss Brewing wedi gorfod addasu (yn gyflym iawn yn aml) i heriau, gan gynnwys Hugo Boss a Covid-19

• Esiamplau o sut a phryd i berchnogi sgwrs y cyfryngau, yn hytrach na gadael iddi gael ei chyfarwyddo i chi

• Dealltwriaeth o sut gall bod yn fenyw lwyddiannus mewn sector sy’n llawn dynion i raddau helaeth fod yn bositif i frandiau

Archebu eich tocyn

 

Cynllunio Ar Gyfer Llwddiant Tymor Hir – Stori Goodwash

17/11/2020 : 10:30 – 12:00

Mae’r gyn chwaraewraig hoci ryngwladol a’r chwaraewraig rygbi cyffwrdd, Mandy Powell, yn gydsylfaenydd The Goodwash Company yn y Barri, de Cymru. Y nod yw newid y byd un golch ar y tro, gyda’r holl elw o werthiant a chodi arian yn gysylltiedig â sebonau a chynhyrchion ymolchi eraill yn mynd tuag at greu gwelliant real a pharhaus i fywydau anifeiliaid a phobl.

Bydd Mandy yn rhannu stori Goodwash hyd yma gyda ni. Bydd yn siarad am sut gwnaeth hi a Kelly Davies ddatblygu’r brand o syniad cychwynnol yn ôl yn 2017 i fod yn gwerthu cynhyrchion ledled y byd heddiw a chreu partneriaethau parhaus gyda chymunedau, cwsmeriaid ac arweinwyr busnes ar hyd y daith. Hefyd mae Goodwash wedi agor ei siop gyntaf yn ddiweddar yn y Barri (Awst 2020).

 

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

• Pwysigrwydd bod â chenhadaeth fusnes glir o’r diwrnod cyntaf

• Dealltwriaeth o’r strategaeth farchnata gyffredinol (sut cafodd ei datblygu a sut mae’r ymdrechion marchnata wedi esblygu wrth i boblogrwydd y cwmni gynyddu)

• Gwybodaeth am gynulleidfaoedd targed Goodwash a’r strategaeth ar gyfer cyfathrebu a gweithio’n effeithiol gyda hwy

• Gwybodaeth am sut mae Goodwash yn cynllunio ei raglen ymgysylltu a hyrwyddo (gan gynnwys amser cynllunio a dulliau dewis)

 

Grymuso eich tîm I fod yn llysgenhadon

24/11/2020 : 10:30 – 12:00

Eich athletwyr, eich hyfforddwyr a’ch aelodau o staff ehangach yw llysgenhadon pwysicaf eich sefydliad, ond a ydych chi wedi rhoi iddynt yr adnoddau a’r hyder i wneud hyn ar eich rhan chi?

Chi sydd i benderfynu sut i wneud y defnydd gorau ohonynt, ond gan mai dyma eich eiriolwyr mwyaf positif, mae’n gwneud synnwyr sicrhau eu bod yn hyderus ac yn glir ynghylch beth allent ac y dylent ei ddweud yn gyhoeddus, wrth y cyfryngau ac wrth ffrindiau.

Bydd yr arbenigwr ar gyfathrebu, Alison Arnot, yn cyflwyno sesiwn rhyngweithiol yn rhoi sylw i fanteisio i’r eithaf ar eich llysgenhadon.

 

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

• Dealltwriaeth o pam rydym yn defnyddio llysgenhadon a sut i’w hadnabod

• Trosolwg o sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar eich llysgenhadon

• Esiamplau o sut i ddewis y bobl iawn ac, yn bwysicach na dim, sut i weithio’n llwyddiannus gyda hwy

• Cyngor ar rymuso eich llysgenhadon i gyfathrebu ar ran eich brand

• Trafodaethau’n canolbwyntio ar beth allech ei gynnwys mewn pecyn adnoddau i lysgenhadon cyfathrebu

Archebu eich tocyn