Mae clwb bocsio yng Nghaerdydd yn defnyddio pŵer chwaraeon i fynd i’r afael â phroblemau yn yr ardal leol gyda chyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Mae Clwb Bocsio Apollos wedi trawsnewid ei hun o fod yn glwb llawn dynion, gyda dim ond bocswyr cystadleuol yn cael hyfforddi yno, i fod yn gampfa focsio gynhwysol yng nghalon y gymuned, lle mae’r drws yn agored i unrhyw un.
Gyda £5,500 o Gronfa Cymru Actif, mae'r clwb wedi prynu offer bocsio newydd i gwrdd â galw ei niferoedd cynyddol, a chyrsiau hyfforddi i uwchsgilio ei wirfoddolwyr.
Diolch i’r cyllid gan y Loteri Genedlaethol, bydd y clwb yn gallu parhau â’i waith anhygoel yng nghymunedau Llanedern a Phentwyn.
Pan ddaeth y Prif Hyfforddwr, Carl Stephens, â Nicola Wheten i mewn i ddatblygu’r clwb, ychydig a wyddai y byddai Apollos yn mwy na dyblu ei aelodaeth ac yn sefydlu adran ffyniannus ar gyfer merched a genethod, sef traean o gyfanswm yr aelodaeth.
Ar ôl profi bwrlwm bocsio, mae Nicola, a enillodd y Wobr Merched mewn Chwaraeon olaf erioed gan Womenspire yn 2023, wedi grymuso merched sydd wedi cael eu cam-drin a gwella iechyd meddwl merched yn y clwb drwy bŵer bocsio.
Dywedodd Nicola: “Rydyn ni wedi bod yn adeiladu ochr fenywaidd y clwb a sesiynau ar gyfer pobl ifanc, sydd ddim o reidrwydd eisiau bocsio’n gystadleuol ond sydd eisiau teimlo eu bod nhw’n perthyn i rywle a bod ganddyn nhw le i fynd i hyfforddi a theimlo’n ddiogel. ”
“Mae Cronfa Cymru Actif wedi ein galluogi ni i brynu offer newydd a newid yr offer presennol. Mae pethau’n cael eu defnyddio i’r eithaf, felly gyda’r cyllid yma rydyn ni’n gallu cynnal yr ansawdd a’r safon sy’n cael ei ddisgwyl mewn clwb fel Apollos ABC.”
Ar gyfer beth wnaeth Cronfa Cymru Actif ddyfarnu cyllid?
Dyfarnwyd cyllid i Apollos gan Chwaraeon Cymru oherwydd sut mae eu gwaith yn creu amgylchedd cynhwysol ac yn cael gwared ar rwystrau fel bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan mewn bocsio.
Maen nhw wedi cael cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer y canlynol:
- Menig Bocsio – Gall darparu menig bocsio annog mwy o bobl i ymuno heb boeni am orfod talu am eu cit eu hunain.
- Bagiau Bocsio – Bydd y bagiau bocsio yn dod yn rhan o ‘Gornel Merched’ lle gall merched focsio a hyfforddi mewn amgylchedd cyfforddus.
- Peiriant Bocsio Clyfar – Peiriant rhyngweithiol wedi'i osod ar wal sy'n ffordd hwyliog o gyflwyno plant ag ADHD neu awtistiaeth i focsio.
- Podiau Fflachio – Mae'r goleuadau fflachio yma’n effeithiol hefyd wrth gynnwys plant â niwroamrywiaeth, gan helpu i wella cydbwysedd, cydsymudiad ac amser ymateb.
- Cyrsiau Hyfforddi – Bydd gwirfoddolwyr yn y clwb yn dilyn cyrsiau hyfforddi i gyflwyno sesiynau bocsio ac yn derbyn hyfforddiant mewn diogelu i sicrhau diogelwch aelodau Apollo.
- Offer bocsio arall – Mae bar swing bocsio, padiau, pwysau tegell, peli slam a rhaffau sgipio wedi'u cyllido hefyd i sicrhau bod digon o offer ar gyfer y twf yn nifer y cyfranogwyr yn y clwb.