Drwy osod paneli solar ar do ei ystafelloedd newid, mae Clwb Pêl Droed RTB Glynebwy yn credu ei fod wedi cymryd cam mawr tuag at ddiogelu ei ddyfodol am genedlaethau lawer i ddod.
Yn ddiweddar, dyfarnwyd cyllid Chwaraeon Cymru i RTB Glynebwy, a’i ddosbarthu gan Sefydliad Pêl Droed Cymru, i wneud y newid i ynni solar ac maent yn annog clybiau chwaraeon eraill i wneud yr un peth.
Oherwydd bod eu hystafelloedd newid wedi’u lleoli’n berffaith i elwa o haul drwy’r dydd, mae paneli solar newydd y clwb yn cynhyrchu digon o drydan i redeg eu hystafelloedd newid heb fod angen prif gyflenwad trydan. Mae unrhyw ynni dros ben yn cael ei storio mewn dau fatri lithiwm a'r ynni sy'n weddill yn cael ei werthu yn ôl i'r grid cenedlaethol. Dros oes y paneli solar o 20 mlynedd, amcangyfrifir y bydd y clwb yn arbed tua £70,000!
Bydd y clwb yn trosglwyddo’r arbedion ariannol hynny i’w aelodau drwy gadw cost y gweithgareddau’n isel, a hefyd mae eisiau rhoi cyfle i fwy o brosiectau cymunedol ddefnyddio ei gcyfleusterau am ddim – boed hynny ar gyfer cyfarfodydd neu ddim ond paned o de.
Dywedodd y Swyddog Cyllid, Darren Mott: “Ers dros 70 mlynedd, mae Clwb Pêl Droed RTB Glynebwy wedi ennill ei blwyf fel ased cymunedol poblogaidd sy’n creu cysylltiadau cadarn a chyfeillgarwch agos ymhlith ei aelodau.