Skip to main content

Clwb pêl fas dall yn llwyddo i ennill arian y loteri

Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cael ei ddefnyddio i helpu i greu Clwb Pêl Fas Dall cyntaf Cymru. 

Mae Dreigiau De Cymru yn Abertawe wedi cael ei sefydlu gan RBI Cymru, sefydliad sy’n ymroddedig i ddarparu mwy o gyfleoedd i chwarae pêl fas a phêl feddal ledled Cymru. 

Y llynedd, dyfarnwyd grant o £4550 i RBI gan Gronfa Cymru Actif – sy’n defnyddio arian y loteri – er mwyn iddynt allu prynu’r offer sydd ei angen i gynnal sesiynau Pêl Fas Dall yn Abertawe yn ogystal â sesiynau pêl fas ieuenctid yn y Barri. 

Ers hynny mae'r ddau sesiwn wedi cynyddu mewn poblogrwydd, gan arwain at greu dau glwb sy'n tyfu'n gyflym. 

Dywedodd Holly Ireland, Cyfarwyddwr RBI Cymru: “O’n sesiynau Pêl Fas Dall cychwynnol, rydyn ni wir wrth ein bodd ein bod ni wedi denu digon o chwaraewyr yn raddol fel ein bod ni nawr yn gallu creu tîm Pêl Fas Dall a fydd yn cystadlu yn y gynghrair Pêl Fas Dall genedlaethol. Mae hyn mor bwerus oherwydd bod y chwaraewyr yn y tîm newydd yma mor gyffrous am fod yn rhan o rywbeth cadarnhaol, ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cynrychioli eu gwlad mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd.” 

Ychwanegodd Holly: “Yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud ydi rhoi cyfle i bawb deimlo eu bod nhw’n perthyn mewn chwaraeon. Ni ddylai neb fod â rhwystr i chwarae.” 

Mewn Pêl Fas Dall, mae pob chwaraewr yn gwisgo feisor i wneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn chwarae gyda'r un lefel o nam ar y golwg. Mae'r gamp yn cael ei chwarae gyda phêl sydd â chloch ynddi, ac mae'r batiwr yn taflu'r bêl ato'i hun cyn ei tharo. Ym mhob safle, mae hwylusydd yn swnio sŵn gwahanol - bîp neu glapiwr - i helpu'r chwaraewr i wybod i ba gyfeiriad i redeg ar ei ffordd ... gobeithio ... at rediad cartref!

wyth chwaraewr o'r tîm pêl fas yn sefyll ar gyfer llun
“Yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud ydi rhoi cyfle i bawb deimlo eu bod nhw’n perthyn mewn chwaraeon. Ni ddylai neb fod â rhwystr i chwarae.”
Holly Ireland, Cyfarwyddwr RBI Cymru

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru: “Mae ein gwybodaeth ni o nifer o arolygon yn dweud wrthym ni bod pobl â namau ac anableddau yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon, felly roedden ni’n falch o gefnogi cynlluniau RBI Cymru ar gyfer creu tîm Pêl Fas Dall. Fe ddylai chwaraeon fod yn hygyrch i bawb, ac mae pêl fas dall yn enghraifft wych o sut mae posib addasu camp i’w gwneud yn addas ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.” 

Mae’r cyllid a ddyfarnwyd i RBI Cymru wedi eu helpu hefyd i sefydlu tîm ieuenctid newydd yn y Barri, fel yr eglurodd Holly: “Er ein bod ni’n bwriadu cynnal sesiynau wedi’u hanelu at ferched yn y Barri i ddechrau, fe wnaethon ni ddenu llawer mwy o fechgyn na’r disgwyl felly rydyn ni wedi gallu creu’r hyn rydyn ni’n gobeithio fydd yn dod yn dîm pêl fas ieuenctid cystadleuol cyntaf, steil Americanaidd, Cymru. 

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr help ariannol rydyn ni wedi’i dderbyn gan Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol i helpu i dyfu pêl fas. Mae wedi bod yn wych gweld sut mae ein chwaraewyr ni yn Abertawe a’r Barri wedi datblygu, nid yn unig o ran eu sgiliau pêl fas ond hefyd eu hyder, eu cymhelliant a’u sgiliau arwain. Ond mae gennym ni fwy o uchelgais fyth ar gyfer mwy o bêl fas i ferched – gwyliwch y gofod!” 

I gael gwybod mwy am gyfleoedd RBI Cymru i chwarae pêl fas a phêl feddal, ewch i rbiwales.com a blindbaseballwales.wordpress.com.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru. Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut gellid defnyddio Cronfa Cymru Actif i helpu i ddatblygu mwy o gyfleoedd chwaraeon i bob aelod o’ch cymuned leol, ewch i www.chwaraeon.cymru

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy