Main Content CTA Title

Y clybiau ar lawr gwlad sy’n creu cyfleoedd i ferched a genethod

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y clybiau ar lawr gwlad sy’n creu cyfleoedd i ferched a genethod

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru yn creu amgylcheddau croesawgar lle gall merched a genethod ffynnu.

Mae ymchwil yn dangos bod 94% o ferched 7 i 16 oed eisiau gwneud mwy o chwaraeon -arwydd clir bod y dyhead yn bodoli os yw'r cyfle'n briodol.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth drwy Gronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru, mae clybiau lleol yn camu i’r adwy i ddiwallu'r galw yma.

Dyma rai o'r clybiau ysbrydoledig sy'n helpu i arwain y ffordd.

Coity Chiefs – Pêl droed i ferched

Carfan pêl-droed merched gyda'u bysedd wedi'u croesi

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, clwb pêl droed i ferched yn unig yw’r Coity Chiefs sy'n cynnig lle diogel a chefnogol i chwaraewyr ifanc fwynhau'r gêm, meithrin cyfeillgarwch a datblygu eu hyder. Mae'r clwb yn rhan o'r don gynyddol ym myd pêl droed merched a genethod, gyda’r cyfranogiad yng Nghymru i fyny 45% ers 2021.

Fe helpodd grant o £7,471 yn 2023 gan y Loteri Genedlaethol, drwy Chwaraeon Cymru, y clwb i brynu peli, goliau, bibiau, cyflenwadau cymorth cyntaf, a chyrsiau hyfforddi hyfforddwyr.

Darllenwch fwy am sut mae Coity Chiefs yn helpu merched i ffynnu drwy’r cynnydd mewn pêl droed merched yng Nghymru.

Mae'r merched sy'n dod yn teimlo eu bod nhw'n perthyn yma, maen nhw’n gallu mynegi eu hunain yn rhydd, datblygu eu sgiliau, meithrin cyfeillgarwch a bod yn nhw eu hunain heb bresenoldeb pwysau neu stereoteipiau sy'n gysylltiedig â rhywedd.
Leeann Bekker, Trysorydd Coity Chiefs

Sole Mate – Diogelwch mewn niferoedd, cryfder mewn niferoedd

Helen a Becky yn rhedeg ar balmant wrth ymyl ffordd
Helen (chwith) a Becky

Ym Merthyr Tudful, mae Sole Mate yn grŵp rhedeg cymdeithasol lle mae iechyd meddwl, cyfeillgarwch a rhyddid yn dod cyn medalau neu amseroedd gorffen. Merched yw 75% o’r rhedwyr, wedi'u denu at ymdeimlad o gymuned a diogelwch y grŵp.

Fe helpodd grant o £620 gan y Loteri Genedlaethol, a ddyfarnwyd gan Chwaraeon Cymru, gyda hyfforddi arweinwyr rhedeg newydd i ddatblygu'r grŵp a chynnig sesiynau mwy cynhwysol, dan arweiniad i ferched na fyddent yn teimlo'n ddiogel fel arall yn ymarfer corff yn yr awyr agored ar eu pen eu hunain.

Mae diogelwch yn parhau i fod yn bryder i lawer o ferched: mae 25% o ferched yn dweud eu bod nhw’n poeni am adael eu cartref i wneud ymarfer corff, o gymharu â dim ond 16% o ddynion. (Traciwr Gweithgarwch Cymru, Ebrill 2025)

Darganfyddwch sut mae Sole Mate yn gwneud rhedeg yn fwy diogel ac yn fwy cymdeithasol i ferched ym Merthyr Tudful.

Clwb Sboncen Ynys Môn – Creu modelau rôl benywaidd

Merch yn chwarae sboncen yn siglo ei raced yn ôl yn barod i daro'r bêl

Yn ôl yn 2018, dim ond 5% o aelodau Clwb Sboncen Ynys Môn oedd yn ferched. Heddiw, mae'r nifer hwnnw wedi tyfu i bron i 40%, ac mewn sesiynau iau, mae mwy o ferched nac o fechgyn bellach.

Pan ymunodd Rhian Jones, 16 oed, â'r clwb gyntaf, hi oedd yr unig ferch yn yr hyfforddiant. Nawr, nid yn unig y mae hi'n chwarae ond mae hi hyd yn oed yn dyfarnu gemau cynghrair dynion fel dyfarnwr cymwys.

Edrychwch sut mae Clwb Sboncen Ynys Môn yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd.

Mae'n wych gweld mwy o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn sboncen gan ei fod wedi fy helpu i i fagu hyder. Mae bod yn rhan o'r gamp a dod yn ddyfarnwr wedi fy helpu i i leisio fy marn, sy'n ddefnyddiol iawn yn y coleg.

Oes gan eich clwb chi syniadau gwych ar gyfer cael mwy o ferched a genethod i gymryd rhan mewn chwaraeon? Darganfyddwch sut gallai Cronfa Cymru Actif helpu gyda hynny.