Main Content CTA Title

Cronfa Cymru Actif yn ailagor ar gyfer ceisiadau

Bydd Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yn ailagor ar gyfer ceisiadau newydd o 9am ymlaen ar ddydd Llun 4 Tachwedd.

Gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 sy’n galluogi clybiau a sefydliadau chwaraeon i brynu offer, gwella eu cyfleusterau a chefnogi datblygiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr fel eu bod yn gallu cefnogi mwy o bobl i fod yn actif.

Mae Chwaraeon Cymru wedi derbyn llu o geisiadau am gyllid eleni, felly cafodd Cronfa Cymru Actif ei gohirio dros dro i geisiadau newydd ganol mis Medi er mwyn gallu prosesu’r ceisiadau oedd eisoes yn y system.

Mae Cronfa Cymru Actif yn ailagor nawr gyda gwerth £1m o gyllid yn weddill.

Bydd y gronfa ar agor am 10 wythnos o ddydd Llun 4 Tachwedd ymlaen, a bydd angen cwblhau pob cais yn llawn erbyn 10am ar ddydd Llun 13 Ionawr. Bydd y gronfa wedyn yn cael saib eto er mwyn gallu prosesu’r ceisiadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais am grant gan Gronfa Cymru Actif ers 1 Ebrill 2024, nid ydych yn gymwys i wneud cais eto tan 1 Ebrill 2025 ac mae eich grant llwyddiannus wedi ei gau.

Gyda swm cyfyngedig o arian yn weddill, mae Chwaraeon Cymru eisiau pwysleisio’r canlynol:  

Y cam cyntaf i unrhyw glwb neu grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn cyllid yw llenwi'r ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer buddsoddiad cymunedol. Os bydd eich syniad yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, bydd Tîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn cysylltu â chi.  

Wrth asesu ceisiadau cymwys, effaith gymunedol prosiect fydd y pwynt allweddol fydd yn cael ei ystyried.

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru: “Mae nifer y ceisiadau sydd wedi’u gwneud i Gronfa Cymru Actif eleni wedi bod y mwyaf rydyn ni wedi’u derbyn erioed. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut mae clybiau a sefydliadau cymunedol yn bwriadu defnyddio’r cyllid sy’n weddill i roi hwb pellach i chwaraeon yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi cymaint ohonyn nhw â phosibl.

“Fodd bynnag, dim ond £1m sydd gennym ni’n weddill, felly mae posibilrwydd na fydd rhai ymgeiswyr cymwys yn cael eu cefnogi yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Fe fyddan nhw, wrth gwrs, yn gallu ailymgeisio pan fydd y gronfa’n ailagor ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill 2025.”

Sylwch y bydd y Gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ y mae Chwaraeon Cymru yn ei gweithredu ar y cyd â Crowdfunder yn parhau ar agor ac yn hygyrch drwy gydol y cyfnod hwn. Mae ‘Lle i Chwaraeon’ yn helpu i ddarparu cyllid ar gyfer cyfleusterau oddi ar y cae fel gwelliannau i ystafelloedd newid a gwell mynediad i bobl anabl ac ati.

Mae Tîm Buddsoddiadau Chwaraeon Cymru yn parhau i fod wrth law i helpu unrhyw un sydd eisiau arweiniad a chyngor. Gallwch anfon e-bost at y tîm ar [javascript protected email address] neu eu ffonio ar 0300 3003102, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00 a 12:30 a 13:15 a 16:00.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy