Skip to main content

Dau enillydd ysbrydoledig yng Ngwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig cyntaf Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dau enillydd ysbrydoledig yng Ngwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig cyntaf Cymru

Cafodd athletwyr, hyfforddwyr, clybiau a gwirfoddolwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol sydd wedi cael effaith yn eu cymunedau drwy chwaraeon eu dathlu yng Ngwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig cyntaf Cymru (WEDSA) ym mis Rhagfyr.

Yn ddigwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru, lansiodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) y gwobrau i greu cyfle i’r unigolion ysbrydoledig hyn gael eu cydnabod.

Gweledigaeth Rajma Begum, y Rheolwr Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol yn WCVA, oedd y gwobrau. Dywedodd: “Mae gwobrau WEDSA yn ddigwyddiad unigryw ac effeithiol sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol athletwyr, hyfforddwyr, clybiau, grwpiau cymunedol a chyfranwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol sydd wedi cymryd camau mawr yn y sector chwaraeon yng Nghymru.

“Mae’r gwobrau’n llwyfan sy’n rhoi sylw mawr i’r unigolion a’r grwpiau cymunedol hyn, gan roi cyfle iddyn nhw fod yn ffigurau ysbrydoledig a modelau rôl o fewn eu cymunedau.”

Yma, rydyn ni'n tynnu sylw at ddau o'r enillwyr hynny sydd ar gamau gwahanol iawn ar eu siwrneiau - Steve Khaireh ac Eleeza Khan. 

Steve Khaireh gyda'i wobr

Steve Kharieh MBE – Gwobr Cyflawniad Oes       

Mae Steve Kharieh wedi bod yn defnyddio chwaraeon fel arf i rymuso ieuenctid Caerdydd ers dros 50 mlynedd.

Mae cenedlaethau o bobl ifanc o Butetown, Grangetown a Glan-yr-afon wedi teimlo effaith gwaith Steve yn y gymuned. Mae rhai wedi mynd ymlaen i ddilyn yn ôl ei droed hyd yn oed ac wedi dod yn weithwyr ieuenctid eu hunain gyda'r adnoddau y mae wedi'u darparu.

Yn wirfoddolwr yng Nghlwb Bechgyn a Merched Grangetown, mae Steve yn cyflwyno prosiectau yn y gymuned i roi cyfleoedd i bobl ifanc a phlant gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau eraill.

Gyda phrofiad ymarferol o wneud gwahaniaeth, mae ei lwyddiant a’i arbenigedd yn cael eu defnyddio fel ymddiriedolwr ar fwrdd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, gan helpu i lunio ac arwain gwaith rhwydwaith eu clybiau ar hyd a lled Cymru.

Yn sgil yr holl waith yma sydd wedi cael effaith ar gymunedau ethnig amrywiol yng Nghaerdydd, enillodd Steve Wobr Cyflawniad Oes WEDSA ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Steve: “Mae’r anrhydedd yma nid yn unig yn dilysu’r gwaith caled sy’n rhan o’r ymdrechion hyn ond hefyd mae’n ein hatgoffa ni o’r bywydau sydd wedi’u cyffwrdd a’r gwahaniaeth sy’n cael ei wneud yn y gymuned drwy chwaraeon. Mae'r gydnabyddiaeth yma’n tanio fy ymrwymiad i i barhau i gyfrannu'n ystyrlon at wella cymdeithas drwy chwaraeon ac ymgysylltu â'r gymuned.

“Mae’r hyn rydw i’n ei hoffi’n fawr am yr hyn rydw i’n ei wneud yn cwmpasu’r llawenydd o weld twf personol, y wefr o weld unigolion yn goresgyn heriau, a’r boddhad o feithrin ymdeimlad cryf o gymuned drwy chwaraeon.

“Cyn belled ag y mae gorffen yn y cwestiwn, mae natur gwaith sy’n cael effaith yn aml yn golygu bod mwy i’w wneud bob amser, mwy o fywydau i’w cyffwrdd, a mwy o gynnydd i’w ddilyn. Fe allai fy nghynlluniau i ar gyfer y dyfodol gynnwys ehangu cyrhaeddiad ac effaith fy ngwaith i, drwy ddatblygu rhaglenni newydd o bosibl, ffurfio partneriaethau, neu greu cyfleoedd i fwy fyth o unigolion yn y gymuned elwa o chwaraeon ac ymgysylltu cymunedol.”

Eleeza Khan gyda'i gwobr a dau gyflwynydd

Eleeza Khan – Gwirfoddolwr y Flwyddyn 

Yn ddim ond 17 oed, mae Eleeza Khan eisoes yn gwneud cynnydd mawr gyda’i nod o ysbrydoli merched Mwslimaidd ifanc eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae hi eisiau bod yn fodel rôl am nad oedd ganddi hi erioed fodel rôl - ar gyfer merched eraill fel hi ac mae hi'n benderfynol o dorri'r stigma na all merched Mwslimaidd gymryd rhan mewn pêl droed.

Wrth dyfu i fyny, doedd Eleeza ddim yn meddwl ei bod yn bosibl bod yn ddyfarnwr pêl droed gan nad oedd unrhyw un a oedd yn edrych fel hi, yn gwisgo hijab, yn gwneud hynny. Ond nawr, ochr yn ochr â’i chwaer, Rosheen, mae Eleeza wedi dod yn ddyfarnwr Mwslimaidd benywaidd cyntaf erioed Cymru.

Mae’r chwiorydd, sydd wedi ennill eu bathodynnau hyfforddi hefyd, wedi dechrau arwain sesiynau pêl droed i ferched yn unig y Foundation for Sport er mwyn rhoi cyfle i ferched o’u cymuned roi cynnig ar chwaraeon.

Os oeddech chi'n meddwl na allai Eleeza wneud mwy, fe fyddech chi'n anghywir! Nid yn unig y mae hi’n cyflwyno chwaraeon fel hyfforddwr a dyfarnwr ar lawr gwlad, ond mae ei llais yn cael ei glywed hefyd fel is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid CBDC.

Yr hydref diwethaf, ymunodd Eleeza, ochr yn ochr â’i chwaer, â Gareth Bale ar lwyfan ym Mhencadlys UEFA yn y Swistir wrth i Gymru gael ei chyhoeddi fel gwlad sy’n cynnal Ewro 2028. Gan wisgo ei hijab gyda chrys Cymru i’r byd ei weld, roedd Eleeza yn dangos bod merched Mwslimaidd a phêl droed yn mynd gyda'i gilydd.

Yn sgil yr holl gyfraniadau anhygoel hyn at chwaraeon, enillodd Eleeza Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn seremoni gyntaf WEDSA.

Dywedodd Eleeza: “Roedd ennill gwobr WEDSA yn foment mor arbennig gan fy mod i’n teimlo fy mod i’n cael fy nghydnabod fel person ifanc sy’n ceisio cael effaith ar y byd chwaraeon yng Nghymru. Roedd hon yn ffordd berffaith o ddod â blwyddyn mor llwyddiannus i ben.

“Rydw i’n un o’r ychydig ferched hijabi yn y byd chwaraeon yng Nghymru sy’n darparu llais a gwasanaethau i ferched sy’n edrych fel fi ac sydd yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli. Fe hoffwn i weld mwy o ferched a genethod o leiafrifoedd ethnig yn ffynnu mewn chwaraeon a’r tabŵ amdanom ni’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn cael ei ddileu, yn fewnol ac yn allanol.”

Eleni, bydd y Foundation for Sports Coaching yn cynnal sesiynau chwaraeon hanner nos i ferched yn unig yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn ystod Ramadan a bydd Eleeza yno yn hyfforddi.

Gyda’r gwahaniaeth y mae Eleeza eisoes wedi’i wneud yn ystod ei chyfnod byr yn hyfforddi a gwirfoddoli, mewn 50 mlynedd arall, gallai fod yn dilyn yn ôl troed Steve ac yn ennill y wobr Cyflawniad Oes ei hun hefyd!

Pwy enillodd wobrau eraill WEDSA?

Dyma restr o enillwyr Gwobrau WEDSA:

  • Cyflawniad Oes – Steve Khaireh
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Eleeza Khan
  • Personoliaeth y Flwyddyn – Jalal Goni
  • Athletwraig y Flwyddyn – Funmi Oduwaiye
  • Athletwr y Flwyddyn – Curtis Hutson
  • Unigolyn Ysbrydoledig y Flwyddyn – Rehnaz Khan
  • Person Ifanc y Flwyddyn – Sakinah Hussain
  • Prosiect Chwaraeon Cymunedol – Prosiect Chwaraeon BME EYST Cymru
  • Clwb y Flwyddyn – Urdd Gobaith Cymru
  • Cyfraniad Eithriadol at Chwaraeon – Nooh Ibrahim
  • Hyfforddwr y Flwyddyn – Nana Baah
  • Gwobr Chwaraeon Cynhwysol – Exiles Together

Pryd fydd Gwobrau WEDSA yn cael eu cynnal nesaf?

Nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer ail wobrau WEDSA eto, ond rydym yn disgwyl y bydd y digwyddiad yn dychwelyd yn 2025.

Dywedodd Rajma: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd WEDSA yn cael ei gynnal fel digwyddiad bob dwy flynedd ac y bydd amrywiaeth mewn gwobrau lleol a chenedlaethol yn cael ei groesawu.”

Gallwch weld popeth ddigwyddodd ar y noson drwy ddilyn WEDSA ar X.

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy