Roy Court – WISP Judo
Mae Roy Court, sy’n 74 oed, yn hyfforddwr jiwdo cynhwysol yn WISP Judo sy’n credu y dylai chwaraeon fod yn hygyrch i bawb, ac na ddylai neb gael eu gwrthod.
Ers dros 40 mlynedd, mae Roy wedi bod yn rhedeg clybiau jiwdo cynhwysol yng Nghymru. Mae ei brofiad ochr yn ochr â'i fantra wedi golygu bod ei ddull arloesol o hyfforddi pobl ag anableddau ac anawsterau dysgu wedi'i fabwysiadu'n fyd-eang.
Mae Roy yn parhau i gynnig ei sesiynau hyfforddi arbenigol ochr yn ochr â’i dîm o wirfoddolwyr o dri lleoliad yng Nghaerdydd, gan ddod â phlant o addysg brif ffrwd at ei gilydd gyda phlant awtistig ac eraill â Syndrom Down ac amrywiaeth o anableddau dysgu.
Gyda Roy yn awyddus i sicrhau bod ei waddol yn parhau ac y gall pob plentyn gymryd rhan mewn jiwdo, cefnogwyd WISP Judo gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol. Mae hyn wedi galluogi’r clwb i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o Roys yn gallu cael y cyrsiau hyfforddi sydd arnynt eu hangen i barhau â gwaith Roy.
Yn hynod falch o ddeall ei fod wedi cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Roy: “Rydw i wrth fy modd yn derbyn enwebiad i gydnabod fy hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr, y rhieni, a’n haelodau ni. Rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gamp. Rydyn ni'n mwynhau'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn fawr, a fy nghenhadaeth i yw hyfforddi hyfforddwyr eraill, a'u cael nhw’n gymwys i ddal ati gyda'r gwaith pwysig yma oherwydd yn y dyfodol, rydw i'n gwybod y bydd y prosiect yma’n mynd ymlaen ac ymlaen diolch i'w hymrwymiad nhw. Heb help y Loteri Genedlaethol, Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Jiwdo Cymru dros y blynyddoedd, efallai na fydden ni wedi llwyddo hyd yn hyn.”