Skip to main content

Diffibrilwyr Am Ddim ar gael ar gyfer Clybiau Chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diffibrilwyr Am Ddim ar gael ar gyfer Clybiau Chwaraeon yng Nghymru

Gall Clybiau Chwaraeon yng Nghymru wneud cais nawr am ddiffibriliwr am ddim gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Save a Life Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dosbarthu tua 500 o ddiffibrilwyr am ddim i glybiau chwaraeon a chymunedau ledled Cymru diolch i £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod haf 2021, cafodd chwaraeon Cymru eu siglo gan farwolaethau dau chwaraewr yn dilyn ataliadau ar y galon ar gaeau cymunedol.

Dioddefodd y cricedwr Maqsood Anwar drawiad angheuol ar y galon wrth chwarae i Sully Centurions, gyda’r drasiedi’n cael ei hailadrodd ychydig wythnosau’n ddiweddarach yng Nghlwb Rygbi Cwmllynfell pan ddioddefodd Alex Evans yr un dynged.

Heb ddiffibriliwr yng nghanolfan bêl-droed 5-bob-ochr Gôl, efallai na fyddai Kevin Martin wedi bod mor ffodus. Arbedwyd ei fywyddiolch i ddiffibriliwr cyfagos.

Nod y cynllun yw gwella mynediad cymunedol at ddiffibrilwyr a hybu cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru.

Bydd diffibrilwyr yn cael eu neilltuo i alluogi mynediad at ddiffibrilwyr sydd wedi'u lleoli yn strategol ar adeiladau cymunedol neu feysydd chwaraeon a fydd yn sicrhau'r budd mwyaf mewn cymunedau.

Ydw i’n gymwys am ddiffibriliwr am ddim?

Bydd diffibriliwr (os bydd y niferoedd yn caniatáu) yn cael ei neilltuo i glwb chwaraeon / cymuned unwaith y gallant gadarnhau eu bod wedi gwneud y canlynol:

  • nodi gyda rhesymeg y lle gorau i leoli diffibriliwr (nid oes diffibriliwr o fewn 500m i'r safle arfaethedig ar hyn o bryd)
  • prynu neu godi arian ar gyfer cabinet diffibriliwr wedi'i gynhesu a’i fod wedi'i osod ar wal allanol mewn ardal sy'n hygyrch 24/7
  • bod â chyflenwad trydan fel bod y diffibriliwr yn cael ei gynnal ar y tymheredd cywir, er mwyn atal y batri a'r padiau rhag dirywio
  • sicrhau y bydd y diffibriliwr ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio 24/7
  • cofrestru'r diffibriliwr ar gronfa ddata’r Gylched
  • penodi gwarcheidwad diffibriliwr (i'w gynnal a'i gadw'n rheolaidd)
  • penodi gwarcheidwad wrth gefn i lenwi dros absenoldeb
  • sicrhau eu bod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â'r sefydliad / grŵp ar sgiliau CPR / diffibrilio

Newyddion Diweddaraf

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy