Skip to main content

Gŵr o Bontypridd y cafodd ei fywyd ei achub gan ei dîm pêl droed nôl yn y gêm

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gŵr o Bontypridd y cafodd ei fywyd ei achub gan ei dîm pêl droed nôl yn y gêm

Ar ôl i Gymru ddod allan o’u grŵp am yr eildro yn olynol a'r Eidal wedi’u coroni’n bencampwyr Ewro 2020, mae pobl ledled Cymru yn cael eu hysbrydoli i fod nôl yn y gêm fel eu harwyr pêl droed. Gyda’r cyfyngiadau bellach wedi'u codi i ganiatáu chwaraeon tîm, mae un cefnogwr o Church Village yn edrych ymlaen at ailddechrau ymarfer yn dilyn cyflwr a beryglodd ei fywyd y llynedd.

Cafodd Kevin Martin, 58 oed, drawiad sydyn ar y galon ac ataliad ar y galon yn ystod ei gêm bêl droed pump bob ochr wythnosol a chafodd ei ddadebru diolch i ddiffibriliwr y ganolfan a’i gyd-chwaraewyr yn meddwl yn gyflym.

Fel Kevin, dioddefodd Christian Eriksen o Ddenmarc ataliad ar y galon wrth chwarae pêl droed dros ei wlad. Yn yr Ewros eleni, llewygodd Eriksen ar y cae cyn cael ei ddadebru gan ddiffibriliwr, a daeth hyn â’r cyfan yn ôl i Kevin.

Kevin Martin yn chwarae pêl-droed.
Kevin Martin yn chwarae pêl-droed.

 

Yn dilyn cyfnod adfer o wyth mis, mae Kevin, sy'n gweithio fel gweithiwr dosbarthu post, yn dychwelyd i chwaraeon bellach. Yn gefnogwr a chwaraewr brwd, mae Kevin wedi bod yn rhan o dîm pêl droed am fwy na 40 mlynedd.

Mae ein hymchwil yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau gyda 22% o bobl dros 55 oed wedi gwneud cryn dipyn yn llai o ymarfer corff drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Felly, rydym wedi lansio ymgyrch #NôlYnYGêm sy'n ceisio helpu pobl i syrthio mewn cariad â chwaraeon ac ymarfer corff eto yr haf yma.

Wrth siarad am ei gêm ddiwethaf gyda Gôl, dywedodd Kevin: “Roeddwn i wedi bod yn chwarae pêl droed pump bob ochr unwaith yr wythnos drwy gydol fy mywyd fel oedolyn fwy neu lai. Y diwrnod penodol hwnnw, roeddwn i'n teimlo ychydig yn swrth ond fe wnes i feddwl mai diffyg traul oedd ar fai. Ychydig cyn hanner amser, fe wnes i lewygu i'r llawr. Mae’n debyg bod y dynion ar y cae wedi dechrau gwneud CPR arnaf i ar unwaith ac wedyn llwyddodd staff Gôl i gael y diffibriliwr ataf i. Fe arbedodd y camau hynny fy mywyd i, ac rydw i'n fythol ddiolchgar. Gyda fy adferiad yn mynd yn dda, rydw i'n fwy cyffrous nag erioed am allu dechrau bod nôl yn y gêm yn araf. ”

Kevin Martin.
Kevin Martin.

 

Er na all ddychwelyd i'w hoff gamp oherwydd ei gyflwr, mae Kevin wedi cael cyngor i fwynhau camp ddigyswllt ac mae wedi ymuno â chlwb tennis ym Mhontypridd sy'n galluogi iddo fod nôl yn ymarfer. 

Wrth drafod y dychwelyd i chwaraeon, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod yr Ewros wedi ysbrydoli’r genedl unwaith eto. Yn union fel ein pêl droedwyr gwrywaidd ni, fe all pobl ledled Cymru fod nôl yn y gêm nawr a mwynhau manteision enfawr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae stori Kevin yn esiampl ysbrydoledig o rywun sy'n dychwelyd i ymarfer corff o fewn ei derfynau ei hun. Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n annog pobl ledled Cymru i fod nôl yn y gêm yn eu ffordd eu hunain, boed drwy fod yn rhan o dîm eto, mynd allan ac ailgysylltu â'r gymuned leol, cael y teimlad braf hwnnw ar ôl ymarfer neu ddim ond cael hwyl."

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy