Skip to main content

DIWEDDARIAD BOB 6 MIS TRARIIS (RHAGFYR 2021)

STRWYTHURAU A SYSTEMAUCYNRYCHIOLAETH POBLGWYBODAETHBUDDSODDIAD 
Rhannu canfyddiadau TRARIIS yn fewnol a gyda CRhC, arweinwyr cydraddoldeb a Phartneriaethau Actif. Trefnu cyfarfod gyda phartneriaid ar gyfer trafodaeth agored. SE  Cynllun Gweithredu’r Cod Llywodraethu yn sicrhau cynnwys TRARIIS yng Nghynlluniau Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant partneriaid a gyllidir. SE Ymgysylltu â phartneriaid y system ynghylch gweithlu a chyfranogiad SEGweithgor gwybodaeth wedi’i greu i adnabod bylchau data ac edrych ar sut i gofnodi data partneriaid   SEAchos busnes wedi’i baratoi ar gyfer buddsoddiad parhaus  SE
Cysylltu TRARIIS â strategaeth Sport England ar drechu anghydraddoldeb  SENewidiadau i brosesau recriwtio’n sail i wella amrywiaeth gweithlu  SEYmgorffori canfyddiadau TRARIIS mewn cynllun gweithredu cyfansoddiad y gweithlu parhaus  SSBydd cynllun ymchwil yn cael ei ddiweddaru gyda’r camau gweithredu’n seiliedig ar argymhellion TRARIIS  SSCyllid cydraddoldeb wedi’i ddyfarnu ar gyfer sawl prosiect TRARIIS perthnasol, pwrpasol SE
Creu a chynnal y cyfarfod cyntaf o grŵp rhanddeiliaid partneriaid TRARIIS; y nesaf wedi’i gynllunio ym mis Ionawr ar ‘systemau’ SECanfyddiadau fel sail i weithredu ar y cyd gyda grwpiau / cymunedau fel rhan o ganlyniadau cydraddoldeb newydd  SS Wedi adolygu recriwtio, arbrofi gydag interniaethau, cynlluniau profiad gwaith a phrentisiaethau  SWWedi rhannu a thrafod canfyddiadau gyda fforwm Prif Weithredwyr ac arweinwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) partner SWWedi gweithredu dull sy’n cael ei sbarduno gan ddata o weithredu a sianelu cyllid drwy bartneriaid dibynadwy i gyrraedd cymunedau newydd a’r rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys ar lawr gwlad  SW 
Cyflwyno adolygiad ac argymhellion TRARIIS i’r staff SSCefnogi partneriaeth rhwng Nofio Cymru a’r Gymdeithas Nofio Pobl Dduon (BSA) gan gynnwys buddsoddi mewn BSA i helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau SW Wedi comisiynu rhaglen datblygu arweinyddiaeth gynhwysol ar gyfer y sector    SW Ymchwil data llwybrau wedi’i roi ar waith i sefydlu llinellau sylfaen; canlyniadau i gael eu rhannu gyda’r sector ehangach   SNIEhangu rhwydwaith i feithrin ymddiriedaeth   SW
Integreiddio gwaith TRARIIS yn y 3 elfen EDI (Pobl, System a Syniadau Newydd), cynllunio busnes a’u defnyddio fel sail i Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn y dyfodol SSLansio canfyddiadau TRARIIS yn fewnol ac yn allanolSNICanfyddiadau yn sail i gynnwys EDI holl hyfforddiant a datblygiad y staff    SNIStrategaeth data wedi’i sefydlu ar gyfer systemau perfformiad uchel    UKS 
Sefydlu grŵp archwilio EDI mewnol i herio’r ffordd o feddwl ar draws y sefydliad SWYmwneud â gêm bêl droed broffil uchel BT Hope United yn erbyn bwlio ar-lein a gwahaniaethu SNICytuno ar dargedau recriwtio a chynrychiolaeth amrywiolUKS  
Ymgorffori TRARIIS mewn gwaith llywodraethu chwaraeon EDI ehangach i gefnogi’r Cynllun Corfforaethol SNI Gweithredu cynlluniau gweithredu TRARIIS sy’n rhan o Gynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant (DIAP) UK Sport a’r strategaeth EDI    UKSRhestri byr amrywiol gorfodol a phanelau cyfweld amrywiol wedi’u cymeradwyo    UKS  
Penodi Rheolwr Diwylliant a Didwylledd SNIContract parhaus gyda Perrett Laver i greu rhwydwaith o ymgeiswyr bwrdd amrywiaeth   UKS    
Briffio’r staff i gyd ar ganfyddiadau TRARIIS UKS    
68.5% o staff wedi mynychu gweithdai i greu cynlluniau gweithredu TRARIIS adrannol pwrpasol, yn cael eu goruchwylio gan Grŵp Gwrth-Hiliaeth mewnol   UKS    
Opsiynau’n cael eu llunio’n derfynol i greu proses annibynnol ar gyfer cwynion (gan gynnwys ar gyfer trin ymddygiad gwahaniaethol fel hiliaeth)   UKS    

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y pum Cyngor Chwaraeon sy’n gyfrifol am gyllido chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled y DU ganlyniadau ein hadolygiad ar y cyd o Fynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS). 

 

Roedd canfyddiadau’r adolygiad yn seiliedig ar ddadansoddiad helaeth o ddata sydd ar gael i’r cyhoedd ar hil ac ethnigrwydd mewn chwaraeon, ynghyd ag ymchwil i brofiadau byw mwy na 300 o bobl.

 

Roeddent yn dangos yn glir bod hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol yn bodoli mewn chwaraeon yn y DU ac wedi arwain at gymunedau ac unigolion ethnig amrywiol dan anfantais yn gyson, gwahaniaethu yn eu herbyn, a'u heithrio o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

 

Mewn ymateb i'r canfyddiadau hyn, gwnaethom benderfyniad clir i ddysgu o'r adolygiad a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau newid llwyr i gael gwared ar hiliaeth mewn chwaraeon; a chreu system chwaraeon sy'n wirioneddol gynhwysol ac yn gynrychioliadol o gymdeithas y DU.

 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda grwpiau neu gymunedau perthnasol i greu atebion ar y cyd i greu newid real, parhaus ac ennyn ymddiriedaeth. Cytunwyd i gydweithio ar bum ymrwymiad cyffredinol, gan sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â’n strategaethau a’n cylch gorchwyl unigol, a datblygu cynlluniau gweithredu diriaethol a thryloyw. Mae’r ymrwymiadau hyn yn ymwneud â Phobl; Cynrychiolaeth; Buddsoddiad; Systemau; a Gwybodaeth. 

 

Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd i’w gweld yma [INSERT LINK TO TABLE] ac yn cynnwys y canlynol: 

 

  1. Rydym wedi canolbwyntio ar ddeall a phrosesu canfyddiadau TRARIIS yn ein priod sefydliadau ac ymgorffori'r gwersi yn y strategaethau sefydliadol sy'n bodoli eisoes. Mae ymgysylltu mewnol wedi codi lefel yr ymwybyddiaeth o'r materion, gan helpu staff i adnabod anghydraddoldeb a dechrau newidiadau yn eu gwaith i gael gwared ar rwystrau, gan gynnwys y ffordd rydym yn recriwtio, sut rydym yn buddsoddi, a gyda phwy rydym yn ffurfio partneriaeth.
  2. Mae Sport England wedi sefydlu, ac mae’n cynnal, gweithgor gyda chyfranogwyr sy’n rhannu eu straeon ac sy’n helpu i ddylanwadu ar ffyrdd cyffredinol o feddwl am weithredu diriaethol. Mae’r ffocws wedi bod ar weithio gyda'n gilydd i weld beth all newid, a lle gall hyn ddigwydd o fewn y strwythurau chwaraeon. Mae'r grŵp yn treulio amser yn edrych ar yr holl themâu, gan ddechrau gyda chynrychiolaeth, systemau a strwythurau. Mae gweithgor Gwybodaeth yn adolygu'r bylchau yn y dadansoddiad sy'n ymwneud yn benodol â phlant, pobl ifanc a'r gweithlu. Bydd y grŵp yn rhannu cynllun gweithredu drafft ar y themâu yn gynnar yn 2022. Yn ogystal, mae Sport England wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu tair blynedd o'i strategaeth Uniting the Movement sydd â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn rhan greiddiol ohono, gyda'r gweithredoedd a nodwyd yn seiliedig ar ymchwil TRARIIS.
  3. Mae Chwaraeon Cymru wedi dechrau’r broses o newid y ffordd mae’n dosbarthu adnoddau ac yn buddsoddi i sicrhau ei fod yn cael gwell effaith ar gymunedau wedi’u tangynrychioli. Galw heb ei ddiwallu ymhlith y cymunedau hyn yw'r sbardun mwyaf arwyddocaol ar gyfer dyrannu adnoddau i gyrff rheoli cenedlaethol a phartneriaid. Mae cyrff chwaraeon rhanbarthol yn cael eu datblygu ar draws pob ardal yng Nghymru i ddod â'r rhai sydd â chysylltiad gwell â'r cymunedau hyn ynghyd â'r sector chwaraeon i edrych ar ddarpariaeth leol yn strategol. Ac ar lawr gwlad, mae cynlluniau cyllido arloesol yn cael eu dylanwadu gan rwydweithiau newydd i sicrhau bod cyllid yn fwy hygyrch ac yn apelio at gymunedau ethnig amrywiol, ymhlith eraill. Mewn partneriaeth ag AKD Solutions, mae Chwaraeon Cymru hefyd yn darparu rhaglen datblygu arweinyddiaeth gynhwysol ar gyfer partneriaid a'i staff ei hun yn seiliedig ar y model 'ACE' (Allyship; Challenge; Experimentation), y cyfeiriwyd ato yn adroddiad AKD fel rhan o adolygiad y Cynghorau Chwaraeon.
  4. Mae sportscotland wedi dechrau nodi gwaith TRARIIS ar gyfer pob un o’i dair elfen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Pobl, System a Syniadau Newydd) er mwyn ymgorffori hyn yng nghynllunio a defnydd busnes y sefydliad fel sail i Asesiadau Effaith o Gydraddoldeb yn y dyfodol. Mae cymunedau ethnig amrywiol yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer Canlyniadau Cydraddoldeb 2021-25sportscotland. Hefyd mae sportscotland wedi cyhoeddi ei fod yn cymryd camau ar unwaith i benodi tîm o arbenigwyr annibynnol i gynnal adolygiad llawn o hiliaeth gyda chriced yr Alban. Yn ganolog i'r adolygiad hwn bydd ymgynghori ac ymgysylltu manwl â'r gymuned griced, gan roi lle diogel i unigolion sydd â phrofiad byw o hiliaeth rannu eu profiadau yn ddienw. Bydd cefnogaeth ddilynol, cyfeirio ac atgyfeirio at yr awdurdodau perthnasol, fel sy'n briodol, yn cael ei darparu fel rhan o'r broses hon hefyd.
  5. Mae Sport Northern Ireland wedi cynyddu ei allu gweithredol a rheoli ym maes diwylliant a didwylledd, gan sefydlu tîm newydd sy'n gyfrifol am y gwaith hwn gyda chyrff rheoli a phartneriaid. Mae'n bwrw ymlaen â Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd a fydd yn cynnwys camau gweithredu manylach ar gyfer y pum ymrwymiad y mae pob un o'r 5 cyngor chwaraeon wedi cytuno iddynt (Pobl; Cynrychiolaeth; Buddsoddiad; Systemau; a Gwybodaeth). Yn benodol, bydd creu amgylcheddau chwaraeon cynhwysol ar gyfer cyfranogwyr ac athletwyr yn rhan o delerau ac amodau buddsoddiadau Sport NI yn y dyfodol gyda pherfformiad yn cael ei fonitro yn erbyn y targedau y cytunwyd arnynt. Rydym wedi sefydlu tîm polisi a gwybodaeth newydd i ganolbwyntio ar well casglu data a gwybodaeth, i olrhain cynnydd wrth fynd i'r afael â hiliaeth, sectyddiaeth a phob math o ragfarn mewn chwaraeon yma, gan gydnabod croestoriadoldeb. O ystyried y rhyngchwarae rhwng hiliaeth a sectyddiaeth mewn chwaraeon yng Ngogledd Iwerddon a archwiliwyd drwy elfen “Profiadau byw” TRARIIS o’r prosiect a gynhaliwyd gan AKD, bydd Sport NI yn comisiynu ymchwil pellach er mwyn deall yn well yr effaith ar gymunedau lleiafrifoedd ethnig yma. Mae Sport NI hefyd wedi sefydlu Panel Amrywiaeth fel sail i’n polisïau a'n harferion ac i weithredu fel swyddogaeth her gefnogol i'n gwaith wrth gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae Sport NI ei hun yn cael ei drawsnewid yn sylweddol, gan gynnwys newid diwylliant a strategaeth gyda chydraddoldeb a chynhwysiant yn gonglfeini allweddol. Rydym yn gwybod, fel corff cyhoeddus sy'n gweithredu mewn rhanbarth sy'n parhau i ddelio â gwaddol gwrthdaro a thrais, bod gennym lawer o waith i'w wneud o hyd wrth ddefnyddio gwersi'r gorffennol i sicrhau dyfodol gwell i bawb sy'n galw Gogledd Iwerddon yn gartref. Mae Sport NI wedi ymrwymo i weithio gyda chwaraeon i sicrhau ein bod ni i gyd yn chwarae rhan lawn yn y siwrnai honno
  6. Mae UK Sport wedi cynnal sesiynau archwilio manwl gyda’i staff gan arwain at gynllun gweithredu mewnol sy’n cyfrannu yn uniongyrchol at ‘Gynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gyda chynrychiolaeth wedi'i thargedu ar gyfer amrywiaeth ethnig a datblygiad y gweithlu. Mae hefyd yn gweithio ar y cyd â Sport England ar y gofyniad newydd sydd yn y Cod Llywodraethu Chwaraeon diwygiedig, gan ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid sy'n derbyn cyllid sylweddol gan unrhyw Gyngor Chwaraeon gyhoeddi 'Cynlluniau Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant' clir, uchelgeisiol, gweithredadwy a mesuradwy ar gyfer eu harweinyddiaeth a'u sefydliad yn ehangach, gan ddefnyddio tystiolaeth fel TRARIIS. Mae UK Sport hefyd yn cwblhau opsiynau ynghylch creu proses annibynnol ar gyfer cwynion (gan gynnwys ar gyfer trin ymddygiad gwahaniaethol fel hiliaeth), gan ymgysylltu â'r Cynghorau Chwaraeon eraill ar hyn.

 

Er bod y gweithgareddau ar droed, rydym yn cydnabod ei bod yn rhy gynnar i ddweud a yw ein hymdrechion yn dechrau gwneud gwahaniaeth. Yn hytrach, mae pob Cyngor Chwaraeon yn dechrau drwy herio ein prosesau presennol, newid ein ffordd o feddwl, arbrofi gyda ffyrdd newydd o weithio a chreu cyfleoedd ar y cyd gyda'r rhai rydym yn benderfynol o'u cyrraedd a'u cynnwys.

 

Fel y nodwyd ym mis Mehefin, wrth symud ymlaen, rydym wedi ymrwymo i fod yn atebol ac yn dryloyw am y cynnydd rydym yn ei wneud, yn ogystal â phan nad ydym yn gwneud cynnydd. Rydym yn cydnabod mai'r hyn sy'n ofynnol yw newid diwylliannol ledled y sector chwaraeon, ac mae angen i addysg, partneriaeth, hyfforddiant ac atal ddigwydd ar bob lefel o'r system a'r strwythurau chwaraeon. Mae angen i ni hefyd fod yn gyflym wrth gondemnio a gweithredu, neu alw am weithredu, pan rydym yn dod ar draws hiliaeth. 

 

Mae straeon personol y rhai sydd wedi profi hiliaeth mewn chwaraeon, a'r effaith niweidiol arnynt, yn ofidus tu hwnt. Roedd Majid Haq yn datgelu ei fod wedi wynebu cam-drin yn y byd criced yn yr Alban yn drist. Roedd tystiolaeth ddiweddar Azeem Rafiq yn drychinebus, ac yn dangos pam na ddylid goddef unrhyw fath o wahaniaethu. Nid oes gan hiliaeth le mewn chwaraeon na chymdeithas.

 

Mae Sport England wedi datgan bod trafodaethau’n parhau gyda sefydliadau sy’n cael eu cyllido ynghylch sut maent yn cymryd camau ystyrlon i ddileu hiliaeth yn eu camp. Fel y cyfeiriwyd uchod, mae sportscotland hefyd yn gweithredu drwy gomisiynu adolygiad annibynnol o griced yr Alban.

 

O ganlyniad, y brif flaenoriaeth yn ystod y chwe mis nesaf fydd ymgysylltu â'n partneriaid allanol ar ganlyniadau adolygiad TRARIIS a'r angen am weithredu. Ni fydd newid systemig yn digwydd dros nos. Mae gan bob sefydliad sy'n ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol gyfrifoldeb a rôl sylfaenol i'w chwarae wrth ymgysylltu'n weithredol â'r gwaith hwn i ysgogi newid llwyr ar draws y system, yn unigol ac ar y cyd.

 

Rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod i gyd yn uchelgeisiol, yn dryloyw ac yn atebol am gynnydd yn y maes hwn. Mae'r camau hyn yn hanfodol i sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn wirioneddol gynhwysol ac yn adlewyrchu cymdeithas y DU; a bod y sector yn ffynnu, yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.    

 

Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru

Stewart Harris, Prif Swyddog Gweithredol sportscotland

Tim Hollingsworth, Prif Swyddog Gweithredol Sport England
Antoinette McKeown, Prif Swyddog Gweithredol Sport Northern Ireland 

Sally Munday, Prif Swyddog Gweithredol UK Sport