Mae dau dad i gricedwyr ifanc addawol, Arif Saad a Paul Graham, wedi dod yn fwyfwy cysylltiedig â Chlwb Criced Aberaeron. Mae'r ddeuawd wedi ei gwneud yn genhadaeth i ddatblygu'r clwb, gyda mwy o blant ac oedolion yn chwarae nag erioed o'r blaen bellach. Mae eu hymdrechion wedi ennill clod mawr iddyn nhw gan Griced Cymru am Gysylltu Cymunedau.
Sut wnaethoch chi ddechrau gwirfoddoli?
Fe ddaethon ni yn rhan o'r clwb i ddechrau pan roddodd aelod o'r clwb y gorau i'w swydd. Roedd bob amser wedi bod yn allweddol i redeg a datblygu’r clwb a, gyda’n gilydd, fe benderfynon ni helpu mwy fel na fyddai’r clwb yn llithro’n ôl ar ôl y cynnydd oedd wedi’i wneud.
Beth ydych chi’n ei wneud?
Rhyngddon ni, rydyn ni’n hyfforddi’r rhai dan 13 ac yn rhedeg rhaglen Dynamos sydd ar gyfer plant wyth i 11 oed. Rydyn ni hefyd yn ceisio creu tîm pêl galed dan 11 oed. Rydyn ni’n trefnu hyfforddiant gaeaf ar gyfer timau oedolion ac ieuenctid, yn rheoli dewis y timau, yn helpu i baratoi’r maes, sgorio / dyfarnu gemau (pan nad ydyn ni’n chwarae!) ac uwchlwytho’r canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau. Dros y ddau dymor diwethaf, rydyn ni hefyd wedi sefydlu tîm pêl feddal i ferched sydd bellach yn rhan fywiog o’r clwb a’r gymuned. Mae pawb yn siarad amdano!
Un o'n tasgau mwyaf ni yw moderneiddio ein cyfleusterau i fod yn fwy hygyrch a chynhwysol. Rydyn ni eisiau sicrhau les ar dir y cyngor fel ein bod ni’n gallu gwella’r cyfleusterau a datblygu fel clwb.
Pam ydych chi'n gwneud hyn?
Rydyn ni'n ei wneud oherwydd mae angen ei wneud! Ond mae'n rhoi boddhad mawr, cyflwyno plant i griced a'u cadw nhw'n rhan o'r gêm.
Rydyn ni’n credu bod clybiau chwaraeon yn adnoddau cymunedol gwerthfawr sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn gallu bod yn ysbrydoliaeth i bobl, hen ac ifanc, fod yn fwy actif a mwynhau chwaraeon. Rydyn ni nawr yn ceisio datblygu pob agwedd ar y clwb.
Ar lefel fwy hunanol, rydyn ni'n mwynhau chwarae'r gêm ac eisiau clwb llwyddiannus i chwarae drosto! Rydyn ni hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau da.
Sut mae'n gwneud i chi deimlo?
Rydyn ni'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni - mae'n werth chweil pan fydd rhywbeth rydych chi wedi neilltuo amser ac ymdrech iddo yn dwyn ffrwyth. Fe fu rhai achlysuron yn ddiweddar pan rydyn ni wedi edrych o gwmpas a meddwl mai dyma'r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni. Mae'n eich cymell chi i ddal ati i wneud ymdrech.
Mae'n rhoi ymdeimlad enfawr o hapusrwydd i ni pan fydd pawb yn dod at ei gilydd, pawb yn gwneud eu rhan i gynnal gemau ac i wella'n gyffredinol fel clwb.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl sy'n meddwl am wirfoddoli i glwb chwaraeon?
Mae pob clwb chwaraeon yn gweiddi am fwy o bobl i gymryd rhan. Mae cymaint i'w wneud i redeg clwb chwaraeon llwyddiannus ac mae angen pobl gyda chymaint o sgiliau a phrofiadau gwahanol - neu dim ond amser i helpu.
Fe all fod yn ddieithr pan fyddwch chi’n newydd a phawb yn adnabod pawb arall ond mae clybiau chwaraeon yn dueddol o fod yn amgylcheddau anhygoel o groesawgar, yn dyheu am fwy o bobl i dorchi eu llewys. Felly, taflwch eich hun i mewn a byddwch yn gwneud ffrindiau gwych ar hyd y ffordd.
Cyngor Doeth Arif a Paul: Peidiwch â gorfeddwl pethau – dim ond gofyn beth allwch chi ei wneud i helpu.
Darllen mwy am wirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth yn y byd criced.