Skip to main content

Defnyddio’r Gymraeg yn eich Clwb

Mae 1 o bob 5 o bobl Cymru yn siarad Cymraeg. Gall cynnig sesiynau clwb yn Gymraeg:

  • Ddenu aelodau a gwirfoddolwyr newydd i’ch camp
  • Diwallu anghenion eich aelodau presennol
  • Creu ymdeimlad o dîm a balchder cenedlaethol

Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gwirfoddoli. Mae 42% o blant rhwng 10 ac 14 oed yn gallu siarad Cymraeg ac mae’r ffigur hwn yn cynyddu.

Iawn, felly ble ydw i’n dechrau?

Defnyddiwch becyn ymarferol o’r enw #amdani sydd wedi'i greu yn arbennig ar gyfer clybiau a chymdeithasau chwaraeon. 

Mae adnodd ar-lein i’ch helpu i ddeall beth yw’r manteision posib o ddefnyddio’r Gymraeg yn eich clwb ac, yn seiliedig ar enghreifftiau o fywyd go iawn, mae’n awgrymu syniadau ymarferol ar sut i ddatblygu’r Gymraeg yn eich clwb, a sut gallwch chi ddefnyddio’r iaith mewn sesiynau hyfforddi yn arbennig.