Skip to main content

Enwebeion gwobr ‘Merched mewn Chwaraeon’ Womenspire 2023

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Enwebeion gwobr ‘Merched mewn Chwaraeon’ Womenspire 2023

Mae pedair menyw anhygoel wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobr Merched mewn Chwaraeon Womenspire Chwarae Teg, sy’n cael ei noddi gan Chwaraeon Cymru. 

Mae pedair menyw anhygoel wedi cael eu henwebu yn y categori ‘Merched mewn Chwaraeon’ sy’n cael ei noddi gan Chwaraeon Cymru yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg.

Boed drwy hyfforddi ar lawr gwlad neu gymryd rhan ar lefel elitaidd, maent yn fodelau rôl ysbrydoledig ar gyfer merched a genethod uchelgeisiol mewn chwaraeon. Gan ddilyn yn ôl troed enillydd y llynedd, Vera Ngosi-Sambrook, bydd y merched hyn yn cael eu cydnabod yn y gwobrau am wneud gwahaniaeth unigryw o fewn chwaraeon merched yng Nghymru.

Yng Ngwobrau olaf Womenspire, bydd Chwarae Teg yn dathlu nid yn unig merched o’r byd chwaraeon, ond o bob cefndir ledled Cymru sydd wedi goresgyn rhwystrau i gyflawni eu nodau.

Mwy o wybodaeth am yr enwebeion Merched mewn Chwaraeon eleni isod.

Nicola Wheten

Fel rheol, fe welwch chi Nicola yn ymladd tanau fel rhan o’i bywoliaeth. Ond fe gynheuodd tân ynddi pan estynnodd am ei menig am y tro cyntaf ar gyfer digwyddiad bocsio elusennol. Wrth drefnu’r digwyddiad codi arian ar gyfer ei nai, daeth o hyd i angerdd newydd pan gamodd i’r cylch ei hun.

Ar ôl baglu ar draws bocsio, profodd Nicola wefr yr oedd eisiau ei rhannu gyda merched eraill. Yn Apollos, Llanedeyrn a Phentwyn ABC, mae hi wedi mynd ymlaen i rymuso goroeswyr cam-drin domestig a gwella iechyd meddwl merched drwy bŵer y gamp.

Dywedodd Nicola: “Mae Apollo wedi’i leoli yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ne Cymru. I mi, roedd yn ymwneud ag adeiladu’r clwb hwnnw yn fenter gymunedol.

“Mae wedi bod yn siwrnai bersonol ac roeddwn i eisiau rhannu hynny gyda merched eraill. Mae yna lawer o ferched roeddwn i'n eu hadnabod a allai elwa o fod yn yr amgylchedd yma. Yr ymdeimlad hwnnw o berthyn a theulu a chael y lle diogel hwnnw i fod yn chi.”

Leah Wilkinson

Gyda 204 o gapiau rhyngwladol, Leah yw’r athletwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf erioed o gapiau yng Nghymru! Mae ei llwyddiannau yn ei gyrfa yn cynnwys cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad bedair gwaith gyda Hoci Cymru ac ennill medal Efydd Olympaidd yn Tokyo gyda Team GB.

Dros bron i 20 mlynedd o gystadlu ar y lefel uchaf, mae Leah wedi jyglo bod yn athrawes hanes gyda chreu hanes ei hun ar y cae hoci. Nawr, mae hi eisiau parhau i hyrwyddo manteision chwaraeon a chodi proffil hoci yng Nghymru drwy hyfforddi merched a siarad mewn ysgolion.

Dywedodd Leah: “Mae chwaraeon i mi mor bwysig, i ddysgu sgiliau personol a gydol oes fel gwydnwch, gwaith tîm a chyfathrebu. Rydw i wir yn cefnogi dathlu methiant yn y ffordd honno. Os nad yw pethau’n mynd yn ôl y bwriad, mae hynny’n iawn, mae’r cyfan yn rhan o’r siwrnai.

“Rydw i wir yn mwynhau hyfforddi plant, ceisio eu hysbrydoli nhw, a dysgu hoci a’r gwersi bywyd rydw i wedi’u cael, felly mae’n anrhydedd enfawr cael fy enwebu.”

Janie Parry

Er bod salwch personol yn ei hatal hi ei hun rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, mae anhunanoldeb Janie a’i hymroddiad i Glwb Pêl Rwyd Blaenafon wedi helpu i greu amgylchedd diogel a hwyliog i ferched fwynhau pêl rwyd. Mae hi wedi annog mwy o ferched i ddechrau chwarae yn y clwb ac wedi eu cadw’n cymryd rhan mewn pêl rwyd drwy ei harloesedd a’i chreadigrwydd.

Mae ei merch bellach yn hyfforddi yn y clwb ar ôl iddi ei hannog hi a merched eraill i gwblhau eu cyrsiau hyfforddi. Fel hyn gall mwy o ferched ifanc barhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yng Nghlwb Pêl Rwyd Blaenafon, yn union fel mae Janie wedi gwneud. 

Dywedodd Janie: “Roedd yr hyfforddwr yn mynd ar absenoldeb mamolaeth ac fe wnaeth hi benderfynu nad oedd hi eisiau dod yn ôl. Fe ddaeth rhai ohonom ni at ein gilydd, sefydlu pwyllgor a chymryd yr awenau yn y clwb. Roedd tua 15 o blant ar y pryd a dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi llwyddo i gynyddu’r nifer i hyd at 80 o blant.

“Rydw i’n gweithio’n dawel y tu ôl i’r llenni ond bob amser yn gwthio am fwy o gyllid. Mae'r merched yn dod ac maen nhw'n cael hwyl. Mae'n debycach i un teulu mawr nag i hyfforddwyr a phlant. Fe all unrhyw un gymryd rhan mewn pêl rwyd ac rydw i’n meddwl bod chwaraeon yn dod â llawer o hyder i blant.”

Delyth Morgan

Dim ond un fenyw yng Nghymru sydd â Thrwydded ‘A’ UEFA fel Gôl-geidwad a Delyth Morgan yw honno. Fe arweiniodd syrthio mewn cariad ag atal ei brawd a'i ffrindiau rhag sgorio goliau hi at fod yn gapten a gôl-geidwad i CPD Wrecsam ac yn hyfforddwr gôl-geidwaid llawn amser yn CPD Lerpwl.

Ar ôl arwain ei thîm i ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, mae Del yn gwybod yr effaith y gall chwaraeon ei chael ar ferched ifanc ac mae eisiau helpu i ddileu’r rhwystrau sy’n atal ysbrydoli rhagor o ferched a genethod i gymryd rhan mewn pêl droed.

Dywedodd Del: “Roeddwn i’n arfer gwirfoddoli fel hyfforddwr i Gyngor Sir Ddinbych ac, yn y pen draw, fe es i i weithio fel swyddog datblygu chwaraeon cymunedol yn mynd i ysgolion a chael plant i fod yn actif. Fe wnes i lawer o waith gyda phobl hŷn hefyd.

“Rydw i’n gobeithio y byddaf yn ysbrydoli pobl gyda’r siwrnai rydw i wedi’i dilyn. Mae’n anrhydedd ac rydw i’n falch o gael fy nghydnabod am y gwaith ac fe gefais i fy synnu’n fawr hefyd. Rydw i wir yn gobeithio bod hyn yn ddechrau ar ferched yn gweithio yn y byd pêl droed.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy