Skip to main content

Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feicwyr amrywiol

Cyfweliad gyda Vera Ngosi-Sambrook

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023, fe gawsom ni sgwrs gyda Vera Ngosi-Sambrook – enillydd Gwobr Merched Mewn Chwaraeon yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg y llynedd – i ddarganfod mwy am ei gwaith i gynyddu cynrychiolaeth cymunedau amrywiol mewn beicio a chlywed beth mae hi’n ei feddwl y gall chwaraeon ei wneud i fod yn fwy cynhwysol.

Fe wnaeth Vera, sy’n wreiddiol o Malawi, wirioni ar feicio bum mlynedd yn ôl pan symudodd i Gaerdydd ar gyfer swydd lle cafodd ei hannog i feicio i’r gwaith a chymryd rhan mewn beicio elusennol. Mae Vera yn dweud y stori: “Fe ddechreuais i feicio drwy reid tandem gyda chydweithiwr, roedd yn grêt oherwydd roedd rhywun i fy helpu i dynnu fy mhwysau ac yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd.”

Meddai Vera wedyn, “Ar y dechrau, roeddwn i’n beicio i hamddena ac yn ymuno â reidiau grŵp lleol ond fi oedd yr unig fenyw ddu mewn grŵp o ddynion canol oed. Pan darodd y pandemig yn 2021, fe fu’n rhaid i’r beicio grŵp ddod i ben, ond er mwyn dilyn fy angerdd newydd dros feicio, fe wnes i gais am yr Ysgoloriaeth Pellter Wltra, sydd wedi’i hanelu ar gyfer lleiafrifoedd du ac ethnig, a roddodd gyfle anhygoel i mi hyfforddi ar gyfer ras 2000km heriol gyda beic pwrpasol, hyfforddwr a'r holl git y byddai arnaf ei angen. Roeddwn i eisiau rhannu fy mhrofiadau a chofnodi fy nhaith i ddod yn feiciwr pellter hir unigol, felly fe wnes i sefydlu cyfrif Instagram i gysylltu â merched eraill a oedd yn edrych fel fi. Fe welais i fod hon yn ffordd dda o dynnu sylw at amrywiaeth, ond hefyd mewn llawer o ffyrdd eraill, codi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol bod hyn yn rhywbeth y gallan’ nhw ei wneud – rydw i’n gredwr mawr yn y ffordd o feddwl os gallwch chi ei weld, fe allwch chi ei wneud."

Mae rhywfaint o waith mwyaf effeithiol Vera ym maes beicio yn cael ei wneud drwy ymgysylltu’n frwd â sefydliadau sy’n ceisio cynyddu cyfleoedd beicio i bobl o gefndiroedd amrywiol ac ethnig. Wrth hyfforddi ar gyfer y ras Pellter Wltra, cododd Vera arian ar gyfer The Women of Colour Cycling Collectivea sefydlwyd yn 2020 i ddod â beicwyr lleiafrifol heb gynrychiolaeth ddigonol at ei gilydd mewn man diogel, gan herio’r stereoteip o ran sut mae beicwyr yn edrych. Dywed Vera: “Mae The Women of Cycling Collective yn ailfuddsoddi eu harian er mwyn darparu mwy o nawdd ac ysgoloriaethau, gan leihau’r rhwystrau i feicio a chefnogi pobl sydd eisiau cymryd rhan. Mae’n ffordd wych o annog pobl i fynd amdani, drwy eu hyfforddi i wthio eu ffiniau a gwneud cysylltiadau newydd.”

“Fe sefydlodd ffrind i mi Cycle Together yn ddiweddar, sy’n dathlu’r amrywiaeth fywiog sy’n bodoli yn y byd beicio. Mae ganddyn nhw adnoddau sydd ddim mor frawychus ac sy’n gyfeillgar i ddechreuwyr, yn amrywio o fecaneg beiciau i dechnegau beicio i helpu pobl i deimlo’n rymus a hyderus pan maen nhw’n dechrau beicio am y tro cyntaf. Gyda mynegai o glybiau a chymunedau ar draws y DU ar eu gwefan, mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a dod at ei gilydd i feicio. 

“Rydw i hefyd yn helpu i arwain rhai teithiau beicio mewn partneriaeth â’r School of Rocks, rhaglen gymunedol sydd wedi’i chynllunio i rymuso pawb i fwynhau beicio oddi ar y ffordd. Fe wnaethon nhw sefydlu rhaglenni chwe wythnos ymhlith gwahanol ysgolion ledled y DU i feithrin hyder a sgiliau ar gyfer beicio oddi ar y ffordd. Rydw i’n mwynhau darparu gofod ar gyfer y rhai sydd ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cynrychioli, yn enwedig y gymuned LGBTQIA+, a gwahanol hiliau, ethnigrwydd, cefndiroedd a galluoedd. Gallu uwchsgilio beicwyr a'u galluogi nhw i dyfu mewn amgylchedd cefnogol sy'n fy ysgogi i i ddal ati i wneud y gwaith rydw i'n ei wneud. 

Rydw i’n gredwr mawr yn y ffordd o feddwl os gallwch chi ei weld, fe allwch chi ei wneud.
Vera Ngosi-Sambrook

Beth yw'r rhwystrau i feicio ar gyfer gwahanol gymunedau? 

Fe wnaethom ofyn i Vera, o’i phrofiad hi, beth allai rhai o’r rhwystrau i feicio ar gyfer gwahanol gymunedau fod. Dyma ei hateb: 

  • Ymwybyddiaeth o gyfleoedd: Mae camsyniad bod angen i chi gael offer a chit penodol i gymryd rhan ond dydi hynny ddim yn wir. Gyda’n gilydd fe allwn ni chwalu’r myth bod arnoch chi angen yr offer diweddaraf a’i fod yn faich ariannol.
  • Amser ac ymrwymiad: Mae mynd ar daith feicio hir yn ymrwymiad amser ac mae llawer o resymau pam y gallai pobl ei chael yn anodd dod o hyd i'r amser. Fodd bynnag, gall beicio hefyd fod yn deithiau byr neu'n gymudo. Mae ffyrdd o ffitio beicio o amgylch amserlen eich bywyd, fel beicio i'r gwaith.
  • Gwahaniaethau diwylliannol: Nid yw mynd allan i’r awyr agored neu ddysgu sut i wersylla yn rhywbeth y mae pob diwylliant wedi arfer ag ef. Mae’n bwysig deall hynny a dangos ei fod yn bosibl, drwy gynrychioli gwahanol ddiwylliannau a chymunedau i helpu i annog mwy o bobl i gymryd rhan.

Beth all chwaraeon ei wneud i fod yn fwy cynhwysol? 

Ar sail gwaith Vera gydag amrywiol fentrau a sefydliadau sy’n ceisio cael mwy o ferched lliw i gymryd rhan mewn beicio, mae hi wedi cynnig rhai pethau allweddol i’w dysgu a allai helpu i siapio chwaraeon i fod yn fwy cynhwysol. Dywedodd: 

  • Gwneud yr hyn sy’n cael ei rannu yn amrywiol: Mae cynrychioli gwahanol gymunedau mor bwysig. Mae dangos straeon a rhannu hanesion yn hanfodol, oherwydd gall dechrau rhywbeth newydd fod yn frawychus, yn enwedig pan nad ydych yn gweld eich hun yn cael ei gynrychioli.
  • Siambrau adlais: Yn amlach na pheidio gyda digwyddiadau a theithiau beicio wedi'u trefnu, mae ymwybyddiaeth wedi'i chynnwys mewn cylchoedd cymdeithasol ac 'os ydych chi'n gwybod, rydych chi'n gwybod'. Bydd lledaenu’r gair i gymunedau llai, cynnal dyddiau agored a sesiynau i ddechreuwyr ar gyfer cynulleidfaoedd targed, a chlustnodi tocynnau i sicrhau bod llefydd ar gael yn helpu i greu cyfleoedd i’r rhai sy’n ystyried cymryd rhan.
  • Llogi offer: I bobl heb y cit priodol, mae darparu opsiwn i logi offer yn ffordd hawdd o annog pobl i roi cynnig ar bethau os ydynt yn wynebu cyfyngiadau ariannol ac yn methu ymrwymo i fuddsoddi. Fel hyn maen nhw’n cael profiad cyntaf positif ac yn cael blas ar y gamp, gyda’r gobaith y byddant yn dal ati i ddod yn ôl!