Skip to main content

Lansio cronfa gymunedol newydd ar gyfer uwchraddio cyfleusterau chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Lansio cronfa gymunedol newydd ar gyfer uwchraddio cyfleusterau chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymuno â Crowdfunder i gynnig ffordd newydd gyffrous i glybiau chwaraeon yng Nghymru gyllido gwelliannau i gyfleusterau. 

Er mwyn helpu pobl ledled y wlad i fod yn fwy actif, mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15,000 o gyllid cyfatebol ‘Lle i Chwaraeon’ i gefnogi ymdrechion codi arian cymunedol clybiau eu hunain ar wefan Crowdfunder. 

Mae enghreifftiau o'r mathau o brosiectau cyfleusterau a allai dderbyn cefnogaeth yn cynnwys gwelliannau i ystafelloedd newid, adnewyddu clybiau, uwchraddio cyfleusterau cegin i ddarparu cyfrwng i gynhyrchu incwm, lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i bobl ag anableddau, a hefyd gosod paneli solar, generaduron neu foeleri yn eu lle. 

Dywedodd Brian Davies, Cyfarwyddwr y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd lle i chwaraeon yn ein cymunedau ni i ddod â phobl at ei gilydd a gwella eu bywydau.

“Ers i’r pandemig ddechrau, rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £5.2m drwy ein Cronfa Cymru Actif i helpu clybiau i oroesi’r argyfwng, gwneud eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid, a chefnogi cynlluniau ar gyfer denu aelodau newydd. 

“Mae Lle i Chwaraeonyn gynllun peilot sy’n weithredol tan fis Ebrill 2022 a fydd yn ehangu ar Gronfa Cymru Actif drwy ganolbwyntio ar welliannau i gyfleusterau ‘oddi ar y cae’. Drwy greu'r gronfa hon gallwn helpu i wella'r profiad cyffredinol i gyfranogwyr, gwneud clybiau'n fwy ecogyfeillgar, ac yn fwy hyfyw yn ariannol ar gyfer y dyfodol. 

“Gan ein bod eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau mewn cymunedau difreintiedig. Rydyn ni wir eisiau i'r gronfa hon wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r rhai sydd ei hangen fwyaf. 

“Rydyn ni’n credu bod hwn yn amser am arloesi ac adeiladu’n ôl yn wahanol. Mae'r defnydd o gyllido torfol yn gyffrous oherwydd bydd yn ei gwneud yn ofynnol i glybiau ymgysylltu â'u cymunedau lleol yn fwy nag erioed. Bydd y gefnogaeth helaeth a ddarperir gan Crowdfunder hefyd yn rhoi i'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg clybiau chwaraeon yr hyder sy'n ofynnol i helpu gyda'u codi arian yn y dyfodol. Mae wnelo hyn gymaint â chefnogi clybiau a gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau ag â’r buddsoddiad ariannol.” 

Poster Crowdfunder gyda merch yn beicio

 

Dywedodd Murry Toms, Cyfarwyddwr Ymgyrch gyda Crowdfunder: “Rydw i’n credu ein bod ni wedi gweld eleni yn unig faint o angerdd sydd dros chwaraeon yng Nghymru. Clybiau ar lawr gwlad yw asgwrn cefn y llwyddiant hwnnw ond mae wedi bod yn gyfnod heriol. Rydyn ni wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw yn yr ymladd yn ôl. 

"Mae ein hyfforddwyr arbenigol ni’n cefnogi pobl o ddechrau'r broses hyd y diwedd, gan dywys pobl ar siwrnai unigryw prosiect cyllido torfol. Ac mae ein partneriaeth ni gyda Chwaraeon Cymru yn ein helpu i gael mwy o effaith, sy'n golygu y gallwn ni sianelu cyllid ychwanegol i brosiectau clybiau.

"Ond mae'n fwy na dim ond rhoi. Fel platfform seiliedig ar wobrau, mae Crowdfunder yn adnodd ymgysylltu â'r gymuned effeithiol. Yn y rhan fwyaf o achosion y nod cychwynnol yw codi rhywfaint o arian ond gall y canlyniad terfynol fod yn gymuned wedi'i hailegnïo ac yn ffordd newydd o feddwl am y dyfodol. Dyna wyrth cyllido torfol." 

Mae cyllid ar gyfer y cynllun peilot ‘Lle i Chwaraeon’ wedi cael ei neilltuo i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru. 

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Roedd yr adborth gan y clybiau sydd wedi elwa o gyllid Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf yma yn dweud eu bod wir wedi gweld y ffordd y gall clwb chwaraeon lleol fod yn ganolbwynt cymuned; bod y lle i ddod â phobl at ei gilydd, i fynd i'r afael ag unigrwydd a galluogi datblygiad personol.

“Mae'r lleoliadau yma sy’n hafan i chwaraeon hefyd yn darparu llwyfan i blant brofi buddion ffordd o fyw actif o oedran ifanc a ffurfio cyfeillgarwch gydol oes. Gyda hyn mewn golwg, rydw i wrth fy modd bod cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor arloesol i gefnogi clybiau chwaraeon cymunedol yng Nghymru.” 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy