Skip to main content

Llewod Prydain: Ble Dechreuodd y Cyfan i Lewod Cymru

Ar hyn o bryd mae Llewod Prydain ac Iwerddon ar daith yn Ne Affrica gyda charfan sy'n cynnwys llawer o enwau cyfarwydd o’r byd rygbi yng Nghymru.

Ond mae’r Llewod sydd bellach yn rhuo yn dechrau eu taith yn llewod bach ac mae bob amser yn bwysig cydnabod y rôl y mae clybiau ar lawr gwlad wedi'i chwarae yng ngyrfaoedd sêr fel Dan Biggar, Louis Rees-Zammit a Ken Owens.

O Glwb Athletig Pen-y-bont ar Ogwr i Orseinon a phob man y tu hwnt i hynny, mae clybiau o bob cwr o'r wlad wedi chwarae eu rhan wrth gynhyrchu chwaraewyr y Llewod ar gyfer y daith hon a theithiau eraill.

Bydd chwaraewyr ifanc hefyd yn gwylio'r daith gyfredol yma o'u cartref a allai fod yn Llewod y dyfodol - gan gynnwys merched o Gymru a allai ymddangos ar y daith gyntaf i ferched sy’n cael ei chynllunio gan y Llewod.

Rydyn ni wedi edrych yn fanylach ar sut dechreuodd rhai o'r garfan bresennol chwarae'r gêm ac wedi siarad â rhai o'r hyfforddwyr a chwaraeodd ran yn eu datblygiad.

Rhif 8 Cymru Taulupe Faletau yn plymio dros y llinell gais yn erbyn Fiji yn 2014
Rhif 8 Cymru Taulupe Faletau yn plymio dros y llinell gais yn erbyn Fiji yn 2014

Josh Navidi (Clwb Athletig Pen-y-bont ar Ogwr)

 

“Roedd e’n gryf fel ychen,” meddai Lee Davies, hyfforddwr yng Nghlwb Athletig Pen-y-bont ar Ogwr, am Josh Navidi, seren Gleision Caerdydd a gafodd ei alw i fod yn rhan o’r daith yn hwyr yn y dydd. 

Ymunodd Navidi â'r clwb ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn saith oed a chwarae hyd at y lefel Dan 16 cyn symud i Seland Newydd i barhau â'i addysg.

“Roedd ganddo agwedd aruthrol, roedd yn sylwgar iawn ac yn gryf iawn yn gorfforol,” ychwanegodd Davies, sy’n fab i’r diweddar Lyn Davies a enillodd dri chap dros Gymru ar yr asgell yng nghanol y 1960au.

“Roedd Josh yn gwneud beth bynnag roeddech chi’n gofyn iddo’i wneud, heb holi cwestiynau.

“Doedd e ddim yn symud i neb pan oedd e dros y bêl.”

Roedd Navidi yn rhan o un o dimau iau mwyaf llwyddiannus Clwb Athletig Pen-y-bont ar Ogwr erioed.

“Pur anaml y cafodd y tîm ei guro, gan ennill llawer o gystadlaethau, gan gynnwys twrnamaint mawreddog Richmond yn rheolaidd,” meddai Davies.

Mae'r clwb yn awyddus i dynnu sylw at faint o ysbrydoliaeth yw i'w chwaraewyr iau presennol o weld pobl fel Navidi yn chwarae ar y lefel uchaf. 

Meddai Dean Brown, cadeirydd rygbi iau Clwb Athletig Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae'n ysbrydoliaeth pan fydd ein chwaraewyr ifanc presennol ni’n dychwelyd i'r clwb yn dilyn gemau i gael gwybod bod sêr fel Josh Navidi, Rhys Webb a Lee Byrne i gyd wedi cychwyn eu gyrfaoedd rygbi, fel nhw, yn y clwb yma.

“Mae'n wych i rygbi ar lawr gwlad weld bod llwybr yn bodoli o glybiau fel ni i binacl rygbi Cymru a Phrydain.”

Ers hynny, mae Navidi wedi mynd ymlaen i gael gyrfa wych yn y gêm, gyda 28 cap i'w enw hyd yn hyn, ac mae wedi dod yn chwaraewr allweddol i'r Gleision a Chymru.

Adam Beard yn gwenu ar y camera yn ystod ei gyfnod yn chwarae i Glwb Rygbi Birchgrove
Adam Beard yn ystod ei gyfnod gyda Chlwb Rygbi Birchgrove

Adam Beard (Aberafon)

 

Mae Adam Beard yn ail reng tal, athletig a phwerus ac ef oedd dewis hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland, pan anafwyd ei gapten Alun Wyn Jones yn y gêm yn erbyn Japan.

Dysgodd Beard, sy’n 6 troedfedd 6 modfedd ac yn 25 oed, ei grefft yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru gydag Aberafon cyn symud at y Gweilch.

Mae ei gyn-hyfforddwr yn Aberafon, Jason Hyatt, yn cofio’r gwaith caled a’r ymroddiad i wella ddangosodd Beard o oedran ifanc.

“Rydw i’n falch iawn o weld Adam yn cael ei alw i chwarae i’r Llewod. Mae'n wobr fawr am ei holl waith caled a'r ffordd mae’n chwarae ar hyn o bryd, ”meddai Hyatt.

“Fe gafodd Adam effaith ar unwaith yn Aberafon, nid yn unig ar y cae ond oddi arno hefyd. Roedd ei agwedd at waith a'i frwdfrydedd yn heintus. ”

Nid yw Hyatt yn synnu at lwyddiant Beard ers symud o Aberafon a dywed fod ganddo lawer o rinweddau rygbi hanfodol.

“Roedd yn amlwg o’r dechrau fod Adam i fod i chwarae rygbi ar y safon uchaf un. Yn ystod ei amser gyda ni roedd yn athletwr talentog iawn ac yn bwysicach na dim roedd ganddo agwedd wych.

“Mae gan Adam lawer o gryfderau - mae ei waith yn y llinell wrth ymosod ac amddiffyn yn rhagorol, mae'n gorfforol iawn ac mae hyn yn ychwanegu'n aruthrol at y sgrym.

“Ond yn fy marn i, prif gryfder Adam yw ei gymeriad, a ffurfiodd yn fachgen ifanc gyda ni.

“Mae ei agwedd at waith caled yn rhagorol ac mae'n gwybod sut i gael y gorau gan ei gyd-chwaraewyr. 

“Mae Adam yn fodel rôl rhagorol i’r holl chwaraewyr ifanc sy’n cynrychioli Aberafon ac mae’n esiampl wych o’r hyn y mae posib ei gyflawni os ydych chi’n barod i weithio’n galed.”

Mae Hyatt yn edrych ymlaen at weld rygbi Uwch Gynghrair Cymru yn dychwelyd, lle gall clybiau fel Aberafon barhau â'u rôl wrth gynhyrchu sêr Cymru a'r Llewod yn y dyfodol.

Nid yw’r Wizards wedi chwarae ers dros flwyddyn yn ystod y pandemig, ond dywed Hyatt: “Mae Uwch Gynghrair Cymru yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn natblygiad chwaraewyr ifanc.

“Ar wahân i gynnig amser gêm o safon, mae’n rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc brofi eu hunain yn erbyn timau a gwrthwynebwyr o safon. 

“Mae’r Uwch Gynghrair hefyd yn rhoi cyfle i’r chwaraewyr ddefnyddio eu sgiliau mewn sefyllfaoedd hynod gystadleuol ac mae’n creu diwylliant tîm heriol a chystadleuol.

“Mae'r Uwch Gynghrair yn amgylchedd rhagorol ar gyfer ymarfer hyn.”

Isod mae rhestr lawn o chwaraewyr cyfredol Llewod Cymru a'u clybiau ar lawr gwlad: 

Josh Adams - Hendy, Llanelli 
Adam Beard - Aberafon, Birchgrove, Uplands Abertawe, Treforys    
Dan Biggar - Gorseinon, Abertawe
Gareth Davies – Castell-newydd Emlyn, Quins Caerfyrddin, Llanelli 
Taulupe Faletau - Glynebwy, Panteg Newydd, Cross Keys, Casnewydd 
Wyn Jones – Llanymddyfri
Josh Navidi  - Clwb Athletig Pen-y-bont ar Ogwr
Ken Owens – Clwb Athletig Caerfyrddin 
Louis Rees-Zammit - Llandaf, Rhymni 
Justin Tipuric - Trebanos, Aberafon
Liam Williams - Waunarlwydd, Llanelli 
Alun Wyn Jones - Bonymaen

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Perfformiad Uwch

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy