Pan gystadlodd Mimi Xu, y chwaraewr tennis o Abertawe, yn Wimbledon yr haf hwn, ysbrydolodd chwaraewyr ifanc ledled Cymru, ac yn enwedig yng nghymunedau Tsieineaidd y genedl.
Ond y tu ôl i'r llenni, mae model rôl benywaidd arall yn gwneud gwahaniaeth yr un mor fawr. Ei henw yw Weixin Liu. Ac er efallai nad yw hi'n torri tir newydd yn rhyngwladol, mae hi'n newid bywydau ar gyrtiau cymunedol bob wythnos.
Pwy yw Weixin Liu?
Mae Weixin yn fam i dri o blant a symudodd i Abertawe yn 2004. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n cynnig cyfleoedd tennis i'r gymuned Tsieineaidd. Yn fodel rôl benywaidd, mae hi'n ysbrydoli llawer o enethod a merched i gymryd rhan yn y gêm.
A hithau wedi'i hysgogi gan ei phrofiadau o gyrraedd dinas newydd heb fawr o gefnogaeth, ei nod yw goresgyn unigedd a gwella lles.
Yn ystod y dydd, mae hi'n gweithio yn y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru. Yn ei hamser rhydd, mae hi'n cynnal dosbarthiadau tennis 'She Can' i enethod a merched yn Abertawe.
Yr hyn sy'n gwneud y stori hon hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw nad oedd hi erioed wedi gafael mewn raced o'r blaen. Ac eto mae hi bellach wedi cymhwyso fel Hyfforddwr Lefel 1.