Skip to main content

Mwy o sylw’n allweddol i gael mwy o bobl ifanc i wirioni ar hoci

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mwy o sylw’n allweddol i gael mwy o bobl ifanc i wirioni ar hoci

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un nodedig i hoci Cymru, gyda thîm y dynion yn chwarae yn eu Cwpan Byd Hoci cyntaf a’r merched yn dod yn wythfed eto, eu safle gorau eisoes, yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae mwy o gemau proffil uchel yn cael eu cynnal yr haf yma, gyda thîm y merched yn paratoi ar gyfer Pencampwriaeth EuroHockey II ym Mhrâg ym mis Gorffennaf, lle byddant yn ceisio efelychu dynion Cymru drwy symud i adran A Ewrop.

Mae’r sylw cynyddol a ddaw gyda sêr Cymru yn cystadlu ar y llwyfannau mwyaf un yn hanfodol ar gyfer datblygu’r gamp, a dywed Hoci Cymru eu bod wedi gweld cynnydd o 15 y cant yn aelodaeth iau eu clybiau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ar hyn o bryd, y ffigurau ar gyfer cyfranogiad hoci yn gyffredinol yng Nghymru yw 67 o glybiau ac ychydig o dan 7,000 o aelodau clybiau. Mae tua hanner y ffigwr hwnnw yn aelodau iau.

Meddai Paul Whapham, prif weithredwr newydd Hoci Cymru: “Mae’n rhaid i ni ehangu’r gamp, adrodd ein straeon a bod yn bresennol ym meddyliau pobl ifanc, ac ar eu ffonau yn arbennig, yn rheolaidd.

“Mae'n help bod gennym ni gynrychiolaeth gref gyda Phrydain Fawr hefyd.

“Rydyn ni’n gallu adrodd straeon am y cyfle deniadol i bobl ifanc, sy’n wych.”

Ychwanegodd Paul: “Mae her fawr i ni oherwydd dydi hoci bellach ddim wedi’i warantu ar y cwricwlwm ac mae ysgolion eisiau gwneud mwy o chwaraeon.

“Felly, mae gennym ni ddarn ymgysylltu mawr ar draws ysgolion i gyflwyno hoci a chael cymaint o bobl ifanc â phosibl gyda ffyn yn eu dwylo.

“Rydyn ni eisiau rhoi’r cyflwyniad cynnar hwnnw iddyn nhw, blas cynnar ar y gamp, ac wedyn gweithio gyda chwaraeon eraill i wneud yn siŵr nad ydi bechgyn a merched yn dewis un gamp dros y llall, hyd yn oed o oedran ifanc.”

Mae Millie Holmes yn cystadlu am y bêl yn erbyn De Affrica
Millie Holmes yn erbyn De Affrica
Mae gennym ni alw cudd am hoci o tua 17,000 o bobl ifanc a fyddai wrth eu bodd yn rhoi cynnig ar y gamp. Mae'n rhaid i ni ei wneud mor hygyrch a chynhwysol ag y gallwn ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n agor ein drysau i'r 17,000 o bobl ifanc hynny.
Paul Whapham, Prif Weithredwr

Mae'r cynllun Llysgenhadon Hoci, sydd bellach yn ei 11eg flwyddyn, yn rhaglen sydd â'r nod o gael pobl ifanc i mewn i glybiau ac ysgolion er mwyn tanio diddordeb yn y gamp.

Mae cefnogi hynny wedi cynnwys menter Hooked on Hoci sydd wedi'i hanelu at ysgolion cynradd ac uwchradd, lle mae clybiau presennol wedi cael cymorth ariannol i fynd i mewn i ysgolion i gyflwyno sesiynau i blant.

“Rydyn ni’n gwybod bod gennym ni alw cudd am hoci o tua 17,000 o bobl ifanc a fyddai wrth eu bodd yn rhoi cynnig ar y gamp,” meddai Paul.

“Mae'n rhaid i ni ei wneud mor hygyrch a chynhwysol ag y gallwn ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n agor ein drysau i'r 17,000 o bobl ifanc hynny. Ein nod ni wedyn yw gweithio gyda’n clybiau i wneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cadw’r chwaraewyr hynny a chynnal eu diddordeb yn y gamp am gyfnod hir.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi gweld twf mewn cyfranogiad ar ôl cyfnod Covid ac rydyn ni’n bwriadu parhau â hynny.

“Un elfen o fy rôl i yw datblygu strategaeth sy’n galluogi i ni dyfu a mynd â’r gamp i gymunedau amrywiol ac, yn y bôn, rhoi cyfle i bawb redeg o gwmpas gyda ffon yn eu dwylo.

“Fe fyddwn i’n dweud wrth unrhyw un sydd awydd rhoi cynnig ar y gamp, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol, darganfod ble mae eich clwb lleol chi a chymryd rhan yn un o’i sesiynau blasu.

“Fe allwch chi fenthyg yr holl offer a byddwch yn gwirioni oherwydd ei bod yn gamp gydol oes. Mae gennym ni blant saith oed yn chwarae yn ogystal â phobl sy'n dal i chwarae'r gamp yn eu 80au a'u 90au! Mae ar gyfer pawb.” 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy