Skip to main content

Dynion Hoci Cymru yn cymhwyso ar gyfer eu Cwpan Byd cyntaf wrth i'r Ganolfan Genedlaethol droi yn 50 oed

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dynion Hoci Cymru yn cymhwyso ar gyfer eu Cwpan Byd cyntaf wrth i'r Ganolfan Genedlaethol droi yn 50 oed

Dechreuodd y dathliadau ar gyfer pen-blwydd Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn 50 oed mewn steil wrth i ddynion Hoci Cymru gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes yng Ngerddi Sophia y penwythnos diwethaf.

Sicrhaodd Cymru eu seddi ar yr awyren i India ar gyfer Cwpan y Byd 2023 gyda buddugoliaeth mewn ciciau cosb yn y rownd gynderfynol yn erbyn eu cymdogion o Iwerddon ddydd Sadwrn. Yr eisin ar y gacen ben-blwydd oedd trechu Ffrainc o 2-1 yn y rownd derfynol i ennill y twrnamaint cyfan.

Mae wedi bod yn hir yn dod i Hoci Cymru sydd wedi gorfod aros 38 mlynedd ers i dîm y merched gymhwyso ddiwethaf ar gyfer Cwpan y Byd.

Enillodd Ria Burrage-Male 33 o gapiau ar lefel hŷn gyda Merched Cymru ac mae bellach yn Brif Swyddog Gweithredol yn Hoci Cymru. Canmolodd y tîm a'r sefydliad am eu cyflawniad nodedig.

“Mae Hoci Cymru a’r Dynion wedi bod ar daith anhygoel yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae sicrhau lle yng Nghwpan y Byd yn dyst i ymdrechion pawb cysylltiedig. 

“Mewn 6 blynedd, maen nhw wedi symud o’r 36ain i’r 15fed safle yn y Byd ac maen nhw bellach wedi cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, a’r cyfan gydag adnoddau cyfyngedig.

“Rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn dyrchafu’r Dynion ac yn darparu llwyfan i ni arddangos y gamp ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn Hoci. Fel chwaraewr, hyfforddwr, aelod pwyllgor, swyddog neu gefnogwr.”

Roedd y cyflawniad yn felysach fyth wrth iddynt sicrhau eu lle yn India 2023 o flaen torf gartref gyda phob tocyn wedi’i werthu yng Ngerddi Sophia - ac ar ben-blwydd y Ganolfan Genedlaethol yn 50 oed.

“Mae chwarae o flaen torf gartref yn hudolus; mae’n anodd iawn ei esbonio,” meddai Ria.

“Nid yw’r Dynion wedi chwarae o flaen torf gartref ers cryn amser. Roedd cynhesrwydd a sŵn y dorf yn codi'r chwaraewyr yn sicr. Roedd bwrlwm gwirioneddol yn y cyfnod cyn ac yn ystod y digwyddiad.

“Pan oedd y ciciau cosb yn cael eu cymryd, roedd tensiwn anhygoel ond yr eiliad wnaethom ni gymhwyso, fe aeth y lle i gyd yn drydanol.”

Delwedd ddu a gwyn o dimau yn chwarae hoci ar yr hen gae yn y ganolfan genedlaethol
Sut roedd y Ganolfan Hoci Genedlaethol yng Ngerddi Sophia yn arfer edrych

Y cae hoci

Hanner can mlynedd yn ôl, byddai'r cae hoci yn y Ganolfan Genedlaethol yn amhosib ei adnabod o gymharu â'r un y chwaraeodd Dynion Cymru arno pan wnaethant gymhwyso ar gyfer eu Cwpan Byd cyntaf erioed.

Mae Wayne Jenkins, Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, yn cofio sut roedd yn edrych ar un adeg: “Y cae hoci cyntaf gawsom ni oedd cae carreg, llwch. Pan oedd yn glawio, roedd yn gorlifo hyd at y llinell hanner ffordd.”

“Roedd y fflagiau wedi’u gwneud o bolion metel wedi’u suddo mewn concrit mewn hen duniau paent ac wedyn eu paentio'n wyn. Ac roedd y deunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer y fflagiau wedi’i dorri o hen lian bwrdd wnaeth ein hadran dillad gwely ei dorri a'i wnïo gyda'i gilydd. Roedd yn ymdrech tîm wych.”

Ers i'r merched gymhwyso yn ôl yn 1983, nid yn unig mae'r cae yn edrych yn wahanol ond hefyd hoci fel camp yn ei chyfanrwydd.

Meddai Ria: “Mae'r offer a'r cae yn llawer mwy datblygedig sy'n effeithio ar gyflymder ac agweddau technegol y gêm. Yn dactegol mae'r gêm yn graffach. Mae'r amser cyswllt a'r gwrthwynebiad wedi cynyddu a gwella tra bod ein chwaraewyr ni’n chwarae lefel uwch o hoci yn gyson.

Ond mae rhai pethau yr un fath heddiw ag yr oeddent yn 1983, ond mae Ria yn gadarnhaol y bydd hynny yn newid yn y dyfodol.

“Yn anffodus, fel yn 1983, mae ein chwaraewyr ni heddiw yn dal i gyfrannu’n ariannol at eu rhaglen berfformiad - her rydyn ni’n gweithio i’w datrys.

“Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n cyn-athletwyr a'r llwybr maen nhw wedi'i baratoi ar gyfer ein chwaraewyr ni heddiw. Rydyn ni’n gyffrous am ein dyfodol, wrth i'n chwaraewyr presennol ni barhau i ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd.

“Nid yw hyn i ni yn ymwneud â 2023, mae’n ymwneud â newid canfyddiad a phroffil Hoci a sicrhau ein bod ni yng Nghwpan y Byd 2026 a’r nesaf a’r nesaf.”

Hen lun o bobl yn cymdeithasu ac yn yfed yn hen far y Ganolfan Genedlaethol
Unrhyw un am gwrw Ôl-Ymarfer Corff? Arferai’r Ganolfan Genedlaethol fod yn oes ac yn far ac roedd hyn yn amlwg.

Y Ganolfan Genedlaethol

Nid dim ond y cae hoci sydd wedi cael gweddnewidiad neu ddau dros yr 50 mlynedd diwethaf. Roedd chwaraeon yn y Ganolfan Genedlaethol yn y 70au a’r 80au yn gwbl wahanol i’r hyn ydyw nawr.

Beth yw Beic Watt? Fit-Bit? Roedd offer a thechnoleg yn wahaniaeth amlwg a'r unig beth y gallai'ch oriawr ei ddweud wrthych chi bryd hynny oedd yr amser.

Byddai trip mewn peiriant amser yn eich synnu! Ac nid dim ond y bandiau pen neon a'r cynheswyr coesau fyddai’n gyfrifol am hynny.

Doed dim diodydd adfer a phrotein ar ôl sesiwn dwys yng nghampfa’r Ganolfan. Yn hytrach, byddech yn sleifio i lawr uchaf eich canolfan hamdden leol i gael peint cyflym, gwydraid o win a sigarét. Mewn gwirionedd, efallai y byddech chi'n hepgor y sesiwn ymarfer yn gyfan gwbl. Os yw'ch rhieni chi’n dweud wrthych chi mai nhw sy'n gwybod orau, efallai bod amser pan nad oedd hynny’n wir.

“Byddai gennym bobl yn dod i mewn i fynd ar wely haul ac wedyn yn mynd am ddiod gyda’u ffrindiau,” meddai Wayne

“Rydw i’n credu mai dyna’r gwahaniaeth mwyaf rydw i wedi’i weld ac mae’n rhywbeth anodd ei ddychmygu nawr, ond dyna oedd y diwylliant bryd hynny.”

Cyhoeddwyd y gyfres gyntaf o ddata yn 1986 ac roedd yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol iawn, gyda chymharu ychydig yn anodd gan fod bod yn egnïol 3 gwaith yr wythnos yn duedd fodern.

Dangosodd bod 54% o oedolion (15+ oed) yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn 2020, cymerodd 32% o oedolion (16+ oed) ran mewn gweithgaredd chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy.

Efallai nad yw’n syndod i'r rhai sydd â chof da, ond roedd gemau dan do (cymerodd 34% ran yn ystod y 4 wythnos flaenorol) yn rhan gadarn o weithgarwch chwaraeon y genedl. Cafodd snwcer, dartiau a biliards gyfnod o dwf yn oes Dennis Taylor, Steve Davis a Phencampwr y Byd o Lanelli, Terry Griffiths ei hun.

Mae chwaeth yn newid a dylanwad tramor yn ffactorau enfawr eraill ar restrau cyfranogiad chwaraeon heddiw. Dri degawd yn ôl, nid oedd unrhyw arwydd o weithgareddau fel beicio BMX, saethyddiaeth, dringo creigiau, sglefrfyrddio a chaiacio, ac mae pob un yn profi cyfranogiad sylweddol.

Felly, dymuniadau gorau ar gyfer 50 mlynedd nesaf Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a mwy o ymddangosiadau yng Nghwpan Hoci’r Byd.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy