Yng Nghasnewydd, mae rhywbeth cyffrous yn digwydd. Yr enw ydi Girls Takeover – prosiect sy'n annog merched i symud, rhoi cynnig ar bethau newydd a theimlo'n dda amdanyn nhw eu hunain.
Fe ddechreuodd prosiect Casnewydd Fyw yn 2022. Bryd hynny, fe ddechreuodd fel peilot bach ond bob blwyddyn mae wedi tyfu'n fwy ac yn well. Nawr, mae mwy nag erioed o ferched yn ymuno – ac maen nhw wrth eu bodd.
Sydd yn newyddion gwych, oherwydd mae ymchwil yn dangos y canlynol:
- Nid yw 37% o ferched 7 i 16 oed yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon trefnus y tu allan i AG, o gymharu â 33% o fechgyn. (Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022)
- Cymerodd 57% o fenywod yng Nghymru ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y mis diwethaf - o gymharu â 64% o ddynion. (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23)
- Dim ond 35% o fenywod sy'n actif 3+ gwaith yr wythnos, o gymharu â 43% o ddynion. (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23)
Felly, beth yw'r gyfrinach? Fe wnaethon ni siarad â Lauren Buttigieg o Newport Live i gael gwybod.
Beth yw Girls Takeover?
Fe sefydlwyd Girls Takeover yn 2022. Dechreuodd fel prosiect peilot bach o'r enw Summer Fit Club. Sylwodd Lauren, a oedd yn cydlynu chwaraeon mewn ysgolion lleol, ar rywbeth: hyd yn oed os oedden nhw’n cael aelodaeth am ddim, roedd merched yn llawer llai tebygol na bechgyn o fynd i'r gampfa.
Yr haf hwnnw, cychwynnodd ar genhadaeth i newid hynny - gwella hyder a hunan-barch merched.
Nawr, mae merched ledled y ddinas yn cymryd rhan mewn nofio, pêl picl, sesiynau campfa, pêl droed, pêl rwyd, badminton a mwy. Wedi'i gynllunio ar gyfer merched 11 i 18 oed, mae bellach yn digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol.