Heb arian gan y Loteri Genedlaethol, ni fyddai llawer o'r gefnogaeth rydym yn ei rhoi i athletwyr elitaidd yng Nghymru yn bosibl. Byddai cyfansoddiad Team GB yn edrych yn wahanol iawn heb yr holl docynnau Lotto a Thunderball sydd wedi’u prynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd cist y Loteri Genedlaethol gwerth tua £21 miliwn yn cefnogi chwaraeon Cymru yn 2021/22, gyda £9.9 miliwn o’r swm yma’n cefnogi chwaraeon elitaidd. Mae'r arian hwn yn helpu athletwyr elitaidd i gael mynediad at gyfleusterau, cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor o safon byd i'w helpu i gyflawni eu nodau Olympaidd.
Mae cyllid y Loteri wedi helpu i dalu am gyfleusterau fel Stadiwm y Principality, Pwll Cenedlaethol Cymru a Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas. Mae'r lleoliadau chwaraeon eiconig hyn yn gwthio athletwyr elitaidd yng Nghymru i fod ar eu gorau.
Mae gwasanaethau cymorth hanfodol - gan gynnwys y rhai a ddarperir yn Athrofa Chwaraeon Cymru - mewn meysydd fel maeth, cyngor perfformiad, cynlluniau hyfforddi a ffisiotherapi, yn cael eu pweru gan gyllid y Loteri Genedlaethol. Mae'r holl ddisgyblaethau hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod athletwyr o Gymru yn perfformio ar eu gorau ar y lefelau uchaf mewn chwaraeon rhyngwladol.