Skip to main content

Y Diweddaraf ar Fynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon - Ionawr 2023

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y Diweddaraf ar Fynd i’r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon - Ionawr 2023

Yn ystod y chwe mis ers y diweddariad diwethaf ar gynnydd a chamau gweithredu mewn ymateb i'r adolygiad Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS), mae digwyddiadau eithafol o hiliaeth mewn chwaraeon wedi parhau i'n hatgoffa ni o bwysigrwydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â hiliaeth a dileu gwahaniaethu hiliol o’r system chwaraeon. 

Ar ôl siarad am yr hiliaeth oedd yn “rhemp” yn yr RFU meddai ef, cafodd cyn chwaraewr rygbi’r undeb yn Lloegr, Luther Burrell, lawer iawn o negeseuon gan rieni yn cadarnhau bod eu plant hefyd yn ddioddefwyr hiliaeth ar lefel grŵp oedran. Ger bron Pwyllgor yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Rhagfyr, manylodd yr Arglwydd Patel – sydd ers hynny wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad fel Cadeirydd Clwb Criced Sir Efrog – am y cam-drin hiliol yr oedd wedi’i wynebu ers cymryd yr awenau yn sgil sgandal hiliaeth Azeem Rafiq. 

Mae’r digwyddiadau hyn – a llawer o rai eraill sy’n digwydd heb i ni glywed amdanynt – nid yn unig yn tynnu sylw at raddfa’r cam-drin a’r gwahaniaethu a wynebir gan unigolion mewn chwaraeon ond maent hefyd yn fodd cyson i’n hatgoffa ni am bwysigrwydd a brys mynd i’r afael â hiliaeth a rhoi sylw i ganfyddiadau adolygiad TRARIIS

Fel y pum Cyngor Chwaraeon sy’n gyfrifol am ariannu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar draws y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n ddiwyro yn ein safiad nad oes lle i hiliaeth mewn chwaraeon ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddileu gwahaniaethu, cam-drin a rhagfarn hiliol.

Themâu allweddol:  

Yn dilyn cyhoeddi adolygiad TRARIIS ym mis Mehefin 2022, ymrwymodd y pum Cyngor Chwaraeon i adrodd yn gyhoeddus yn rheolaidd ar y cynnydd.

Yn ein diweddariad diwethaf ym mis Gorffennaf 2022, fe wnaethom adrodd ar ein ffocws ar y cyd ar gasglu EDI mwy cynhwysfawr a chyson ar draws y system chwaraeon, er mwyn sicrhau bod gennym ni linell sylfaen glir a chydlynol ar gyfer monitro a mesur cynnydd. 

Mae ein storfeydd data ni ein hunain yn gwella ond maent yn parhau i fod yn dameidiog. Drwy broses o ymgysylltu â’n partneriaid sy’n cael eu cyllido, rydyn ni’n sicrhau dealltwriaeth gliriach o’r anawsterau wrth gasglu a dadansoddi data, gan gynnwys bylchau mewn capasiti neu arbenigedd, pryderon GDPR ac adnoddau, cronfeydd data a mecanweithiau adrodd annigonol. 

Fel y pum Cyngor Chwaraeon, rydyn ni wedi darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu, cefnogaeth ymarferol a, lle bo angen, cyllid ychwanegol er mwyn helpu ein partneriaid i ddeall a mynd i’r afael â’r rhwystrau i gynrychiolaeth well o athletwyr, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. 

I gael crynodeb manwl o'r gweithgarwch y mae pob Cyngor Chwaraeon wedi'i wneud ers mis Gorffennaf, cliciwch yma.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:

  • Dull newydd o gaffael yn UK Sport, gyda gofynion EDI (a chynaliadwyedd) yn rhan annatod o brosesau caffael er mwyn gwella amrywiaeth cyflenwyr.
  • Ymgorffori arfer gorau cydraddoldeb hiliol ym model gweithredu newydd Sport England gan sicrhau bod lens gwrth-hiliaeth yn cael ei defnyddio i weithredu eu gweithgareddau sefydliadol.
  • Newidiadau Chwaraeon Cymru i'w arferion recriwtio i warantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ethnig amrywiol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer rôl, a recriwtio Rheolwr EDI ar gyfer y sefydliad.
  • Partneriaeth newydd sportscotland gyda’r elusen gwahaniaethu ar sail hil ledled y DU, Sporting Equals, fel rhan o ymrwymiad parhaus i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Bydd y bartneriaeth yn datblygu rhaglen arweinyddiaeth gynhwysol a’r gweithlu chwaraeon ac yn sbarduno cynnydd ar draws sefydliadau.
  • Mae adolygiad Sport Northern Ireland o bolisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 31 o gyrff sydd wedi’u hariannu gan y llywodraeth yn nodi meysydd ar gyfer gwella polisïau, cefnogi cyrff llywodraethu i ddangos eu hymrwymiad yn gyhoeddus i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a hyrwyddo arferion gorau ar draws chwaraeon.

Rhanddeiliaid  

Un o’r gwersi a ddysgwyd gan TRARIIS oedd yr angen am greu atebion ar y cyd â’r cymunedau hynny sydd wedi profi hiliaeth, gwahaniaethu, cam-drin ac eithrio wrth ymgysylltu â chwaraeon neu gymryd rhan mewn chwaraeon. Rydyn ni felly’n gwerthfawrogi’n fawr y cydweithio agos parhaus gyda grŵp rhanddeiliaid TRARIIS, gan gynnwys rhai o’r unigolion a rannodd eu profiad bywyd yn yr arolwg #AdroddEichStori gwreiddiol. 

Fe wnaethon ni eu gwahodd i roi sylwadau ar y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma: 

Dywedodd Audrey Livingston, Swyddog Technegol ac aelod o’r grŵp llywio ED&I ar gyfer Triathlon Prydain:  

“Mae hen ddywediad – mae’n rhaid i chi ei weld i’w brofi. Rydw i'n hoffi meddwl, drwy ymwneud â TRARIIS, bod y gwrthwyneb i’r datganiad hwn yn wir: "Mae'n rhaid i chi ei brofi er mwyn i eraill ei weld". Mae fy mewnbwn i’n bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth; rydw i’n teimlo fy mod i wir yn cael fy nghlywed, yn cael gwrandawiad go iawn ac rydw i’n falch o fod yn rhan o newid.” 

Dywedodd Nana Badu, Prif Swyddog Gweithredol BADU Sports:

“Mae TRARIIS wedi bod yn rhan annatod o gefnogi’r cynghorau chwaraeon i ddatblygu agwedd hirdymor sy’n cefnogi cymunedau du yn systematig o fewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, er mwyn creu cae chwarae tecach i bawb.

“Mae’n hanfodol i gynghorau chwaraeon symud oddi wrth ffurfio meddylfryd gwrth risg wrth weithio gyda chymunedau du. Mae hyn yn cynnwys ymddiried mewn sefydliadau ar lawr gwlad i arwain a pheidio â chael eu hystyried yn risg, ond yn fwy hanfodol fel cam tuag at yr ateb.

“Mae hyn yn dechrau gyda sicrhau nad yw amrywiaeth arweinyddiaeth mewn cyrff rheoli cenedlaethol yn gynhenid symbolaidd.

“Er mwyn sicrhau cynnydd mewn gweithredu diriaethol, fe hoffwn i weld mwy o arweinwyr o’r cynghorau chwaraeon yn cael eu cynrychioli yn y sgyrsiau hollbwysig yma, er mwyn sicrhau nad yw ein gweithgor a TRARIIS yn dod yn ddim ond symbolau.”

Y camau nesaf:  

Bydd y pum Cyngor Chwaraeon yn parhau i fod yn dryloyw ac yn agored am y gwaith rydyn ni’n ei wneud a’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud, fel ein bod yn gallu cael ein dwyn i gyfrif am gyflawni a sicrhau newid.

Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i gynnal symposiwm yn ddiweddarach eleni i nodi dwy flynedd ers cyhoeddi adolygiad TRARIIS. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law, ochr yn ochr â chyhoeddi’r adroddiad cynnydd nesaf yn haf 2023.   

Er ein bod yn cydnabod maint y newid sydd ei angen ac yn rhannu pryder ynghylch cyflymder y cynnydd, rydyn ni hefyd wedi’n calonogi gan dystiolaeth o fwy o ymwybyddiaeth a gweithredu yn erbyn hiliaeth ar draws ein partneriaid sy’n cael eu cyllido. 

Fel grŵp, rydyn ni’n benderfynol o hyd o barhau i ysgogi newid llwyr i fynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon ledled y DU.