Skip to main content

Wythnos Gwirfoddolwyr 2022: Y gwirfoddolwr ifanc sy’n creu cynnwrf ar Banel Ieuenctid Nofio Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Wythnos Gwirfoddolwyr 2022: Y gwirfoddolwr ifanc sy’n creu cynnwrf ar Banel Ieuenctid Nofio Cymru

Does dim rhaid i chi fod yn rasio drwy’r dŵr fel cystadleuydd i deimlo eich bod chi’n creu cynnwrf mawr yn y byd nofio.

Roedd Charlotte Howells, 18 oed, o Dreforys yn Abertawe yn gystadleuydd brwd ar un adeg, ond mae hi bellach yn treulio ei hamser sbâr yn helpu ac yn gwirfoddoli ar y cyd â Nofio Cymru.

Mae Charlotte yn aelod o Banel Ieuenctid Nofio Cymru a’i nod yw galluogi ac annog pobl i fwynhau eu hunain a bod yn actif drwy’r gamp.

Nod yr Wythnos Gwirfoddolwyr – sy’n cael ei chynnal eleni rhwng Mehefin 1 a Mehefin 7 – yw arddangos y rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae a’u pwysigrwydd mewn cymaint o feysydd.

Dangosodd astudiaeth ddiweddar bod 16.3 miliwn o bobl yn y DU wedi gwirfoddoli drwy grŵp, clwb neu sefydliad yn 2020/2021.

Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan enfawr ym mhob camp, gyda gwirfoddolwyr ledled Cymru yn helpu i gynnal llawer ohonynt, yn enwedig ar lawr gwlad.

Er bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, dywedodd bron i un o bob pump (17%) o bobl eu bod wedi gwirfoddoli o leiaf unwaith y mis yn 2021-22, sy'n cyfateb i tua 9.2 miliwn o bobl.

Mae Charlotte yn un ohonyn nhw - yn helpu i wneud chwaraeon yn hygyrch yn y gymuned leol ac ar lefel genedlaethol.

Ar ôl dechrau nofio pan oedd yn ifanc, ymunodd â Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon Cymru pan oedd ond yn 13 oed yn ei hysgol, Ysgol Gyfun Treforys.

“Fe gefais i roi cynnig ar sawl rôl wahanol o fewn gwahanol sefydliadau,” meddai.

“Rydw i’n nofiwr fy hun ac wedyn fe gefais i gyfle i helpu gyda Nofio Cymru a mwynhau yn fawr.

"Oherwydd fy mod i wedi dal ati, fe gefais i gyfle i ymuno â'r panel ieuenctid pan oeddwn i’n 15 neu’n 16 oed, sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi."

Gyda Phanel Ieuenctid Nofio Cymru, helpodd y laslances i greu digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc.

“Fe wnaethon ni benderfynu cynnal ein cyfarfod ein hunain dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y Pwll Cenedlaethol yn 2019, cyn pandemig Covid-19. Fe aeth yn dda iawn; roedd cymaint o wirfoddolwyr yn helpu. Fe helpodd y gwirfoddolwyr i gynnal y digwyddiad, o alw enwau i amseru'r rasys.

“Rydyn ni’n cynnal trafodaethau cyson gyda’r bobl o fewn Nofio Cymru, yn siarad am ein cynlluniau a sut i gael pobl ifanc i gymryd rhan, oherwydd yn amlwg mae’n rhan allweddol o’r gamp.”

“Roedd chwech ohonom ni i ddechrau, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi cael aelodau newydd sydd wedi mynd â ni hyd at wyth i 10. Mae'n dda bod mwy o leisiau nawr i'n helpu ni i symud ymlaen.

Tri Gwirfoddolwr Nofio Cymru
Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda iawn, mae cynnal y digwyddiadau a gweld eich bod chi’n helpu pobl i gael diwrnod positif yn anhygoel.
Charlotte Howells

Mae Charlotte, myfyrwraig Safon Uwch, yn dal yn angerddol am nofio ac yn mynnu nad oes dim wedi newid iddi. Mae hi'n dal wrth ei bodd yn cymryd rhan yn y gamp ond mae hi nawr yn ceisio sicrhau bod pobl eraill yn ei mwynhau cymaint ag y mae hi.

“Rydw i wedi bod yn swyddog yn ystod cyfarfodydd ac rydw i hefyd yn athrawes nofio. Rydw i'n addysgu yn Nhreforys o dair oed ymlaen mewn grwpiau o chwech.

“Dydw i ddim yn cystadlu mwyach, ond rydw i’n dal i wirfoddoli oherwydd rydw i’n dal i gael cymaint o hwyl a dyna rydw i’n mwynhau ei wneud. 

“Mae’n rhoi llawer o foddhad i mi o weld pobl yn nofio o oedran ifanc. Mae’n brofiad positif iawn.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda iawn, mae cynnal y digwyddiadau a gweld eich bod chi’n helpu pobl i gael diwrnod positif yn anhygoel.”

Er mai dim ond 13 oed oedd hi pan ddechreuodd wirfoddoli, roedd Charlotte yn teimlo ei bod yn cael cefnogaeth dda ym mhob un o'r sefydliadau y bu'n gwirfoddoli gyda hwy.

“Drwy gynlluniau fel y llysgenhadon ifanc, mae llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan. Mae llawer o frodyr a chwiorydd a ffrindiau nofwyr hefyd, sydd eisiau helpu," eglura.

“Fy niwrnod gorau i oedd gyda’r panel ieuenctid yn 2019. Roedd yn brofiad cadarnhaol iawn ac yn gyfle i roi yn ôl i’r gymuned nofio.

“Roedd y digwyddiad ar gyfer datblygu nofwyr oedd heb cweit gyrraedd yr amseroedd cenedlaethol neu oedd yn rhy ifanc. Roedden nhw’n gallu dod i lawr ac fe wnaethon ni greu amgylchedd mwy hamddenol iddyn nhw. Roedd yn ddiwrnod positif iawn yn y Pwll Cenedlaethol yn Abertawe.”

I unrhyw un sy'n meddwl am wirfoddoli, ond yn ansicr a ddylid mentro, mae gan Charlotte neges glir.

“Does dim angen i chi fod yn nofiwr i gymryd rhan. Gall gynnwys cyfarfod a chyfarch pobl, dosbarthu melysion a dŵr i bobl, neu ddim ond derbyn y canlyniadau a'u gosod nhw ar y wal.

“Mae llawer o gefnogaeth yn Nofio Cymru i wirfoddolwyr. Fe fyddwn i'n dweud, rhowch gynnig arni.

“Dydych chi byth yn siŵr am y canlyniad rydych chi'n mynd i'w gael pan fyddwch chi'n rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw derbyn pob cyfle gyda breichiau agored, oherwydd rydych chi bob amser yn mynd i gael rhywbeth positif allan o brofiad.

“Drwy’r llysgenhadon ifanc rydw i wedi cael y cyfle i fynd â phlant ysgol gynradd i lawr i’r pentref chwaraeon i wneud rhywfaint o redeg. Rydw i wedi gwirfoddoli mewn ysgolion hefyd, a dim ond helpu ar ddiwrnodau twrnamaint mewn ysgolion cynradd.

“Byddaf yn bendant yn parhau i wirfoddoli yn y brifysgol – byddaf yn ceisio dod o hyd i glwb nofio a byddaf yn bendant yn cadw mewn cysylltiad â’r panel ieuenctid.

“Y peth da ddaeth o Covid oedd gallu cyfathrebu ar Zoom ac mae ychydig o bobl sydd eisoes wedi gadael i fynd i’r Brifysgol yn dal i gadw mewn cysylltiad, sy’n braf.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy