Y Datblygiadau Diweddaraf
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu a gwella rhaglen y Llysgenhadon Ifanc. Dyma sydd ar y gweill:
- Llysgenhadon Ifanc Addysg Bellach – Llysgenhadon Ifanc mewn colegau ledled Cymru
- Llysgenhadon Ifanc Addysg Uwch - Llysgenhadon Ifanc mewn prifysgolion ac yn rhan o Undeb y Myfyrwyr. Mae hyn eisoes yn weithredol ym Mhrifysgol Met Caerdydd, a byddem wrth ein bodd yn gweld hyn yn cael ei ehangu i ardaloedd eraill
- Cyn Aelodau’r Llysgenhadon Ifanc – Pobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen ac sydd eisiau dal ati i ddangos cefnogaeth
Cyfleoedd cenedlaethol i ddylanwadu ar raglen y Llysgenhadon Ifanc
Mae’n bwysig bod pobl ifanc wrth galon y penderfyniadau. Rydym eisiau gweld mwy o blant a phobl ifanc yn egnïol drwy chwaraeon – felly mae’n gwneud synnwyr bod rhaid i ni gael cyfraniad ac ymwneud gan y bobl ifanc eu hunain.
Dyma pam mae Grŵp Llywio Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc wedi’i sefydlu, a’r Academi Arweinyddiaeth Genedlaethol, i helpu i ddylanwadu ar y rhaglen.
Mae’r grŵp llywio’n cyfarfod ryw bum gwaith y flwyddyn, gan gynnwys tri phenwythnos preswyl gan yr Academi Arweinyddiaeth Genedlaethol.
Yn y cyfarfodydd hyn, rydym yn cynllunio ac yn trefnu Cynhadledd Genedlaethol flynyddol y Llysgenhadon Ifanc, yn ceisio cyflawni gweledigaeth gyffredin, gwella’r rhaglen ledled Cymru a dylanwadu ar benderfyniadau cenedlaethol am chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc. Mae’r ceisiadau ar gyfer Rhaglen Genedlaethol y Llysgenhadon Ifanc a’r Academi Arweinyddiaeth Genedlaethol yn agor tua diwedd pob blwyddyn academaidd. Cadwch lygad ar ein tudalen ni ar twitter am fwy o wybodaeth.
Cyfrif eich oriau gwirfoddoli
Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein Llysgenhadon Ifanc yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i wirfoddoli. Wedi’r cyfan, maen nhw’n gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yng Nghymru’n cael cychwyn gwych mewn chwaraeon.
Gall Llysgenhadon Ifanc gofnodi eu horiau gwirfoddoli gyda’r ap Vol Hours. Mae’n hawdd ei ddefnyddio a’i gael. Os nad yw eich ysgol neu eich swydog datblygu chwaraeon lleol wedi gweld hwn o’r blaen, dywedwch wrthyn nhw am edrych arno yma. here.
Sut mae bod yn Llysgennad Ifanc
Mae Llysgenhadon Ifanc yn cael eu recriwtio gan dimau datblygu chwaraeon awdurdodau lleol ac ysgolion a cholegau.
Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer rhaglen y Llysgenhadon Ifanc, trafodwch hynny gydag adran AG eich ysgol neu eich coleg.