Skip to main content

Rheoli eich symptomau

Mae cylch y mislif yn broses o newidiadau hormonaidd sy'n bwysig i'n corff ni. Fodd bynnag, gan ei bod yn broses lidus, gallwn wynebu rhai symptomau sy'n ddim help ac a all rwystro gweithgareddau o ddydd i ddydd neu hyfforddiant.​

Efallai y gwelwch chi fod eich symptomau yn effeithio ar sut neu bryd y byddwch yn cwblhau eich hyfforddiant ac felly rydyn ni wedi llunio rhai strategaethau rheoli ymarferol ar gyfer pob symptom unigol. Syniad yr adnodd yma yw eich galluogi chi i ddal ati i hyfforddi / ymarfer ond gyda gwybodaeth am sut i leihau effaith unrhyw symptomau.​

Bydd tracio eich cylch yn eich helpu chi i ddeall yn well ble rydych chi'n cael symptomau o fewn eich cylch; efallai eich bod chi'n profi symptomau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'ch mislif*.​

Ochr yn ochr â hyn, efallai y byddwch chi eisiau ystyried pryd rydych chi'n teimlo'n dda ynoch chi'ch hun neu'ch gweithgareddau o ddydd i ddydd (symptomau cadarnhaol). Gall cadw golwg ar eich cylch eich helpu chi i nodi amseroedd yn eich cylch lle rydych chi'n hyfforddi'n dda, yn adfer yn well neu'n teimlo'n gryfach.​

Oeddech chi'n gwybod?

Oeddech chi'n gwybod bod eich cylch y mislif a'ch mislif yn bethau gwahanol? Mae mislif yn cyfeirio at y dyddiau pan rydych chi'n gwaedu, a chylch y mislif yw'r amser cyfan o ddiwrnod cyntaf eich mislif hyd at ddiwrnod cyntaf eich mislif nesaf.​

Beth yw symptomau cylch y mislif?

  • Annwyd/sâl​
  • Poen yn eich bronnau​
  • Methu cysgu​
  • Cur pen​
  • Emosiynau a hwyliau​
  • Trwsgl/cydsymud ddim cystal​
  • Crampiau stumog​
  • Poen cefn​
  • Gwaedu trwm​
  • Chwant bwyd
  • Llai o egni/syrthni​
  • Llai o gymhelliant​
  • Aflonyddwch yn y stumog a'r perfedd ​
  • Stumog chwyddedig​
  • Llai o amser adfer​
  • Gwaedu wrth ofwleiddio​
  • Y mislif wedi stopio​
  • Anafiadau

Sut i reoli eich symptomau cylch y mislif

Salwch

  • Os bydd gennych symptomau annwyd, gallwch geisio cymryd losin sinc (dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn - gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sugno'r rhain gan mai yn y geg maen nhw'n gweithio) a fitamin C (500mg y dydd). Mae'n well cymryd y rhain cyn gynted ag y byddwch yn sylwi ar unrhyw symptomau. Gall y rhain helpu i leihau symptomau annwyd ond peidiwch â chymryd sinc am fwy na 3 diwrnod yn olynol. ​
  • Yn hytrach na 5 dogn o ffrwythau a llysiau, gallech geisio anelu at fwyta 7 dogn (mae rhai sych, wedi rhewi ac o dun i gyd yn cyfrif).  Cymysgwch eich dewisiadau, gan fod gwahanol fathau yn darparu symiau amrywiol o wrthocsidyddion, microfaethynnau, ffibr a rhagfiotigau sydd i gyd yn helpu’ch imiwnedd. ​
  • Gallech hefyd geisio defnyddio sbeisys wrth goginio i gynnwys y gwrthocsidyddion naturiol a geir mewn garlleg, paprica a thyrmerig.​
  • Os byddwch chi'n mynd yn sâl yn rheolaidd, efallai yr hoffech chi wneud yn siŵr eich bod chi'n bwyta digon o garbohydradau gydag unrhyw ymarfer corff rydych chi'n ei wneud. Ceisiwch osgoi hyfforddi heb fwyta a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bwyta carbohydrad a phrotein cyn gynted â phosibl ar ôl ymarfer corff.  ​
  • Cofiwch, mae angen i chi fwyta carbohydradau hefyd yn ystod unrhyw hyfforddiant hir dros 75 munud neu unrhyw hyfforddiant dwysedd uchel dros 45 munud. ​
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd ychwanegyn fitamin D3 rhwng mis Hydref a mis Mawrth (10ug y dydd).​
  • Anelwch at gael 2-4 dogn yr wythnos o fwydydd llawn omega 3 drwy goginio gydag olew had rêp neu olew olewydd pur, ychwanegu hadau llin a chnau Ffrengig at saladau neu rawnfwyd a chynnwys pysgod olewog fel eog, brithyll, sardinau, penwaig cochion gyda phrydau bwyd. ​

Cofiwch am eich strategaethau hylendid:​

  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd neu gario glanweithydd dwylo gyda chi bob amser. ​
  • Glanhewch eich poteli dŵr yn rheolaidd.​
  • Os ydych chi'n teithio i unrhyw le efallai yr hoffech chi ystyried gwisgo mwgwd wyneb.​
  • Gall gwm cnoi hefyd eich helpu i osgoi salwch mewn mannau risg uchel fel trenau neu awyrennau.  

Poen yn eich bronnau

  • Gwnewch yn siŵr bod eich bra yn ffitio'n gywir a'i fod yn gefnogol.
  • Defnyddiwch glytiau gwasgu cynnes neu becynnau iâ yn dibynnu ar ba un sy'n teimlo orau​
  • Ymlacio cyhyrau fesul cam - gall tynhau ac ymlacio cyhyrau bob dydd leihau poen. Gallwch ddod o hyd i fideos da ar-lein sy’n siarad drwy hyn gyda chi.​
  • Gall paracetamol neu ibuprofen helpu (dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn)​
  • Nid yw'n syniad da cymryd unrhyw atchwanegiadau fel olew melyn yr hwyr nos, hadau llin, fitamin B6 neu fitamin E.​

Methu Cysgu

Gall newid eich amgylchedd a'r ffordd rydych chi'n paratoi eich corff ar gyfer mynd i’r gwely helpu gyda chysgu. Cyfeirir at hyn yn gyffredin fel “hylendid cwsg”. Gall rhai syniadau isod helpu i wella eich hylendid cwsg:​

  • Gwnewch eich ystafell mor dywyll a thawel â phosib pan fyddwch chi eisiau mynd i gysgu​
  • Ceisiwch syrthio i gysgu a deffro tua'r un amser bob dydd (neu o fewn awr i'r un amser)​
  • Ystyriwch dymheredd yr ystafell a'r dillad gwely. Defnyddiwch ffaniau yn yr haf i gadw'r gofod yn oer neu gadw'ch llenni ar gau i atal yr haul rhag cynhesu’r ystafell yn ystod y dydd. ​
  • Lluniwch drefn amser gwely lle byddwch chi'n dilyn yr un patrwm sy'n arwain at gysgu bob nos. ​
  • Dylech leihau faint o gysylltiad â golau a gewch pan fyddwch chi’n agosáu at amser gwely; defnyddiwch lampau ochr yn lle prif oleuadau a newidiwch eich ffôn i sgrin las. ​
  • Mae rhai unigolion yn gweld bod pryd mawr o fwyd cyn mynd i'r gwely yn gallu lleihau ansawdd cwsg, ond ni ddylai hyn eich atal rhag cael digon o fwyd ar ôl unrhyw ymarfer corff gyda'r nos. ​
  • Gall byrbryd amser gwely helpu i gefnogi adferiad dros nos a lleihau unrhyw chwant bwyd yn ystod y nos a allai eich deffro. Gall opsiynau byrbryd amser gwely fel diodydd llaethog gyda bisgedi ceirch fod yn dda. Mae llaeth yn cynnwys protein a all helpu gyda chysgu a hefyd helpu’r cyhyrau i adfer dros nos.​
  • Mae sudd ceirios yn gwella ansawdd cwsg i rai unigolion. Gellir prynu hwn fel atchwanegiad wedi'i brofi mewn swp os oes angen.​

Os ydych chi'n dal i gael trafferth cael digon o gwsg o safon efallai y byddwch eisiau ystyried cysgu yn ystod y dydd. Gall cysgu am gyfnod byr, fydd ddim yn effeithio ar eich gallu i syrthio i gysgu y noson honno, fod yn ffordd ddefnyddiol o “ychwanegu” at eich cwsg. Bydd hyn hefyd yn helpu gydag adfer ar ôl unrhyw hyfforddiant. 

Cur pen

  • Mae ibuprofen yn ddefnyddiol ar gyfer cur pen syml (dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn). Os ydych chi’n credu eich bod yn cael meigryn, gall ibuprofen helpu ond dylech drafod triniaeth gyda'ch meddyg. ​
  • Gwiriwch eich lefelau hydradu. Ewch ati i fonitro lliw eich iwrin i sicrhau eich bod yn cael digon o hylif. Gallwch ddefnyddio siart lliw iwrin ar wefan y GIG i weld ydych chi wedi hydradu'n ddigonol. 
  • Gall cyhyrau tynn a thensiwn achosi cur pen. Ystyriwch ioga neu ymwybyddiaeth ofalgar i helpu'ch corff i ymlacio. Mae sawl fideo ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar am ddim ar gael yn hwylus ar-lein neu holwch yn eich canolfan hamdden leol am ddosbarthiadau ioga!​ 

Emosiynau a hwyliau

  • Defnyddiwch yr Olwyn Emosiynau -  neu’r POMS siart hwyliau i'ch helpu i olrhain eich hwyliau ar gyfer 2-3 chylch. Bydd hyn yn eich helpu i nodi beth sy'n digwydd a phryd.  Mae nifer o ffactorau a all effeithio ar eich hwyliau a'ch emosiynau, bwyd, cwsg, hormonau ... meddyliwch am rai o'r strategaethau hyn i helpu​
  • Gorffwyswch a chael seibiant, byddwch yn garedig â chi'ch hun! ​
  • Gall bwyd effeithio ar ein hwyliau fel y manylir gan gymdeithas ddieteg Prydain.
  • Tryptoffan yw’r protein sy’n ymwneud â chynhyrchu serotonin ac sydd i’w gael mewn bwydydd fel cyw iâr, cynnyrch llaeth a chnau. Mae angen carbohydradau er mwyn i'r bwydydd hyn fod yn effeithiol felly bwytewch nhw gyda charbohydrad i gael byrbryd blasus. Enghreifftiau o fyrbrydau: diodydd llaethog, ffrwythau sych a chnau, brechdan cyw iâr. ​
  • Anelwch am o leiaf 30 munud o weithgaredd ac ymarfer corff bob dydd, bydd y buddion hyd yn oed yn well os gallwch chi wneud hyn y tu allan!​
  • Meddyliwch am strategaethau hylendid cwsg i wella eich cwsg, ewch ati i gysgu am gyfnod byr os nad ydych chi’n gallu cysgu'n iawn oherwydd bydd cael mwy o gwsg yn helpu eich hwyliau. ​
  • Bydd strategaethau lleddfu straen yn wahanol i unigolion. Dewch o hyd i rywbeth sy'n eich helpu i ymlacio, gallai enghreifftiau gynnwys darllen, gwylio "teledu hawdd", myfyrio, ioga, cymdeithasu, cael bath poeth ac ati​
  • Rheoli amser – atal cael eich gorlethu. Mae oestrogen yn cael effaith bositif ar eich egni yn y cyfnod ffoliglaidd... peidiwch â chytuno nac ymrwymo i ormod o bethau ac yna teimlo dan straen mawr yn y cyfnod lwteal​

Er mwyn gweithredu'r rhan fwyaf o'r strategaethau hyn yn effeithiol, efallai y byddai'n ddefnyddiol mapio'ch wythnos i sicrhau eich bod yn cynnwys amser ar gyfer gwneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau wrth jyglo eich ymrwymiadau eraill. Bydd hyn hefyd yn rhoi persbectif i chi o ran a allwch chi wneud mwy. ​

Os ydych chi'n gweld bod eich hwyliau'n effeithio arnoch chi, gallwch chi hefyd ofyn am gefnogaeth. Siaradwch â'ch meddygfa i gael gwybod pa gymorth lleol sydd ar gael i chi. ​

Teimlo’n drwsgl neu sylwi ar gydsymud ddim cystal​

  • Ar gyfer gweithgaredd corfforol a chwaraeon, cynyddwch hyd eich sesiynau cynhesu yr wythnos cyn ac yn ystod eich mislif. Canolbwyntiwch ar ddeffro cyhyrau ynysig cyn cynyddu cymhlethdod a dwyster symudiadau yn raddol.  Siaradwch gyda'ch hyfforddwr (neu rywun fel hyfforddwr personol yn y gampfa) i gael help gyda hyn.​
  • Monitrwch faint rydych chi'n hyfforddi yn ystod yr wythnos cyn eich mislif er mwyn osgoi blino neu her pellach o ran cydsymud.  Cynyddwch faint rydych chi’n gorffwyso rhwng setiau o ymarferion os oes angen. ​
  • Gweithiwch ar amseroedd ymateb cyn hyfforddi yn enwedig os yw hyn yn rhywbeth sy'n bwysig i hyfforddi mewn tîm (e.e. cadw nodau). ​
  • Mae eich ymennydd yn dibynnu ar garbohydradau er mwyn canolbwyntio. Gallech arbrofi gyda chynnwys carbohydrad yn ystod unrhyw hyfforddiant rydych yn ei wneud i weld a fydd hyn yn helpu. Llenwch eich potel ddŵr gyda hanner sudd ffrwythau i greu diod carbohydrad syml. ​
  • Dylech gynnwys sgiliau cydbwysedd yn eich hyfforddiant: sgwatiau coes unigol, cydbwysedd ioga un goes​

Crampiau stumog 

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau a chynyddwch faint o omega 3 rydych chi’n ei fwyta (pysgod olewog, hadau llin, olew had rêp) yr wythnos cyn eich mislif.​
  • Gall ioga ac ymarfer corff ysgafn deimlo'n anodd pan fyddwch mewn poen ond gallant helpu i leddfu symptomau. ​
  • Rhoi gwres ar yr ardal - bagiau gwenith cynnes, poteli dŵr poeth neu faddon poeth. ​
  • Gall ibuprofen a paracetamol helpu i reoli poen (dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn)​
  • Mae ioga, symudedd neu ymestyn yn helpu i leddfu tensiwn​
  • Gall cynhyrchion sinsir (te sinsir, bisgedi sinsir, ychwanegu sinsir at fwydydd) leihau cyfog.​
  • Gall te mintys helpu gyda chrampiau stumog.   ​
  • Gall peiriannau TENS amledd uchel fod o gymorth (gallwch brynu un ar-lein neu mewn fferyllfeydd)​
  • Os yw eich poen yn effeithio ar eich bywyd neu'n parhau y tu hwnt i'ch mislif, yna dylech drafod hynny gyda'ch meddyg teulu. Cadwch gofnod o faint o boen rydych chi ynddo a pha mor hir mae'n para i drafod ymhellach gydag ef. ​

Poen cefn

  • Rhoi gwres ar yr ardal - bagiau gwenith cynnes, poteli dŵr poeth neu fath poeth. ​
  • Gall ibuprofen a paracetamol helpu i reoli poen (dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn)​
  • Mae ioga, symudedd neu ymestyn yn helpu i leddfu tensiwn

Gwaedu Trwm

  • Mae gwaedu trwm yn cael ei ystyried fel newid cynnyrch mislif yn amlach na bob 2 awr neu angen defnyddio 2 gynnyrch gyda'i gilydd. Neu mae posib ei ddiffinio fel colli mwy na 80ml o waed bob mislif (tua 5 llwy fwrdd!)​
  • Drwy golli cymaint â hyn o waed, gall rhai merched brofi anaemia diffyg haearn gan fod haearn yn cael ei golli gyda’r gwaed. Dyma mwy am hyn ac am gynyddu faint o fwydydd yn cynnwys haearn rydych chi’n eu bwyta.
  • Ar wahân i symptomau corfforol anaemia (pyliau o benysgafndod, blinder mawr a cholli’ch anadl) gall gwaedu trwm ymyrryd â bywyd bob dydd a gall effeithio ar les cymdeithasol ac emosiynol merched​
  • Os ydych chi’n cael anhawster gyda gwaedu trwm, byddai’n syniad da siarad gyda’ch meddyg teulu oherwydd gall eich cyfeirio chi at rywun neu gynnig strategaethau rheoli posibl.

Chwant bwyd

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta o gwmpas sesiynau hyfforddi (mae angen carbohydradau cyn, weithiau yn ystod ac yn syth ar ôl ymarfer).​
  • Ceisiwch osgoi mynd am fwy na 3-4 awr heb fwyta. ​
  • Gall colli adegau amser bwyta allweddol, prydau a byrbrydau gynyddu chwant bwyd ar unrhyw adeg yn y cylch.​
  • Os yw’r symptomau’n ei gwneud hi'n anodd bwyta, dewiswch ddiod maethlon e.e. ysgytlaeth a smwddis i osgoi bylchau hir heb faeth.​
  • Efallai y byddai’n syniad da paru protein â charbohydrad ar gyfer eich byrbrydau i weld a yw hyn yn lleihau'r awch. ​

Enghreifftiau o fyrbrydau: 

  • Diodydd llaethog 
  • Ffrwythau sych a chnau 
  • Brechdan cyw iâr, 
  • Fflapjac hadau a chnau
  • Iogwrt gyda ffrwythau a mêl, 
  • Menyn pysgnau  
  • Banana

Atal Anafiadau

Mae rhai merched yn teimlo eu bod yn gallu dioddef o fwy o anafiadau neu broblemau yn ystod adegau penodol yn eu cylch. Isod mae rhai syniadau a all helpu gyda lleihau’r risg yma fel eich bod yn gallu hyfforddi yn gyson. ​

  • Strwythurwch eich hyfforddiant gyda’r nod o ledaenu sesiynau dwysedd uchel yn gyfartal yn ystod yr wythnos. ​
  • Gall pwynt canol cylch y mislif fod yn amser pryd mae’r corff yn fwy agored i anafiadau. Felly mae cynhesu cyn unrhyw ymarfer yn bwysicach fyth. ​
  • Gall cynnal hyfforddiant fod yn ddefnyddiol i gefnogi symptomau eraill ond efallai y byddwch eisiau bod yn fwy gofalus o hyfforddiant dwysedd uchel. Bydd tracio eich cylch yn eich helpu i weld pa fath o hyfforddiant sydd orau i chi mewn gwahanol adegau yn eich cylch (dwysedd isel neu ddwysedd uchel)​
  • I’ch helpu i reoli hyfforddiant dwysedd uchel, cofiwch gynnwys sesiwn cynhesu da ac adeiladu’r dwysedd yn raddol. ​
  • Cadwch eich cyhyrau’n gynnes drwy wisgo haenau ychwanegol, gan gynhesu dan do os yw hynny’n bosibl a chynhesu unwaith eto yn syth ar ôl hyfforddi. ​
  • Gall colagen gefnogi atgyweirio tendonau a ligamentau ac fe'i gwelir yn naturiol mewn gelatin. Gall cynnwys jeli yn eich deiet ddyddiol ar adegau pan fyddwch chi'n fwy agored i anaf gefnogi'r broses atgyweirio. ​
  • Mae fitamin C hefyd yn ddefnyddiol i atgyweirio ac adfer ar ôl hyfforddiant. Gallwch hefyd ychwanegu rhywfaint o fwydydd fitamin C (aeron, orennau, tatws).​​ 
  •  

Blinder/syrthni/llai o egni

  • Dechreuwch drwy dracio eich symptomau am dri chylch. Bydd hyn yn caniatáu i chi weld beth sy'n achosi i chi deimlo'n flinedig (ai diffyg cwsg, straen, teimlo'n sâl, eich mislif?) ​
  • Ewch ati i weithredu strategaethau cysgu (darllenwch ein hadran ar symptomau cwsg)​
  • Os ydych chi'n anarferol o flinedig efallai y byddwch am drafod gyda'ch meddyg teulu rhag ofn bod gennych lefelau haearn isel  (sy'n gyffredin mewn merched sy'n gwneud ymarfer corff). ​
  • Gwiriwch faint ydych chi’n ei fwyta ac yfed. Ydych chi'n cael digon o danwydd drwy'r dydd ac yn osgoi bylchau hir heb fwyd? Defnyddiwch siart lliw Iwrin ar-lein i weld a ydych chi wedi hydradu’n ddigonol. ​
  • Gorffwys - rhowch ganiatâd i chi'ch hun i stopio a gadael i’ch corff adfer.​
  • Gall ymarfer corff ysgafn - y tu allan yn ddelfrydol - eich helpu i deimlo'n fwy egnïol.  ​

Llai o gymhelliant ​

  • Traciwch eich lefelau cymhelliant ar draws eich cylch. Gall nodi a rhoi strategaethau ar waith ar gyfer symptomau eraill helpu i hybu lefelau cymhelliant. ​
  • Adolygwch y cyngor ar gyfer cwsg, newidiadau mewn hwyliau a llai o egni gan y gallai'r rhain i gyd fod yn cyfrannu at gymhelliant. ​
  • Sut Gall Merched Ddefnyddio’r Cylch Mislif Fel Adnodd Cynhyrchiant

Aflonyddu gastroberfeddol

  • ​Monitrwch faint o hylif rydych chi’n ei yfed – gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon os byddwch yn profi symptomau o chwysu cynyddol, dolur rhydd neu chwydu. Mae lliw wrin yn ddangosydd da o lefelau hydradiad - llwythwch siart lliw wrin i lawr gan y GIG. ​
  • Os ydych chi’n colli mwy o hylif nag arfer, efallai y dylech ystyried rhoi electrolyt yn eich diodydd. Gallwch wneud rhai eich hun drwy ychwanegu pinsied o halen a sudd ffrwythau at eich dŵr (50:50 sudd: dŵr)​
  • Gall caffein achosi newidiadau i arferion eich coluddyn felly efallai y byddwch am gyfnewid eich te/coffi am ddewis arall: gall te sinsir helpu gyda chyfog a gall te mintys helpu gyda chrampiau stumog. ​
  • Dylech osgoi unrhyw fwyd neu ddiodydd sy'n cynnwys melysyddion sy'n gorffen gydag "-ol" oherwydd gall y rhain eich gweithio. Mae'r mathau hyn o felysyddion yn gyffredin mewn gwm cnoi a chynhyrchion “dim siwgr”. ​
  • Gall profiotigau wella iechyd y perfedd a allai helpu i leihau'r mathau hyn o symptomau. Gall bwyta iogwrt Yakult, Actimel neu Activia ddwywaith y dydd fod yn ffynhonnell profiotig.  Mae angen rhagfiotigau hefyd er mwyn i brofiotigau fod yn effeithiol, a geir yn y canlynol: betys, garlleg, cennin, gwygbys, corbys, ffa pob, bricyll, nectarinau, melon dŵr, mango, cnau, te camomil. Byddai'r rhain hefyd yn ddefnyddiol ar ôl i'r symptomau hyn basio gan y byddant yn helpu i adfer bacteria eich perfedd i lefelau normal. ​

Chwyddo a newid mewn pwysau

  • Gwiriwch liw eich iwrin a’i gymharu â siart lliw hydradiad i wirio eich bod wedi'ch hydradu’n ddigonol. ​
  • Rhowch gynnig ar de mintys i leihau symptomau chwyddo. ​
  • Gall ioga a rhai symudiadau ymestyn leihau chwyddo. Caiff symudiadau lefel isel eu hannog. ​
  • Darllenwch yr wybodaeth am aflonyddu gastroberfeddol gan y bydd yr wybodaeth hon hefyd yn berthnasol i symptomau chwyddo. ​

Llai o gyfnod adfer 

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta cyn ac ar ôl unrhyw ymarfer. ​
  • Peidiwch â gadael bylchau hir rhwng bwyta (ceisiwch fwyta bob 3 i 4 awr). Dylech gynnwys dogn o brotein bob 3 i 4 awr i gefnogi adferiad y cyhyrau e.e. Iogwrt Groegaidd gyda ffrwythau a mêl, diod llaethog, wyau wedi'u berwi ar gracers gydag ychydig o bupur neu naddion tsili!​
  • Gall methu cael digon o faeth ar ôl ymarfer corff rwystro adferiad. Mae angen carbohydrad a phrotein arnoch cyn gynted â phosibl ar ôl ymarfer corff. ​
  • Rhowch gynnig ar ddiod llaethog amser gwely i gefnogi adferiad dros nos. ​
  • Gwiriwch ansawdd eich cwsg ac ystyriwch gynyddu eich amser yn cysgu i wella adferiad (efallai y bydd angen ychwanegu cwsg byr yn ystod y dydd i gefnogi hyn). ​
  • Ewch ati i gynyddu faint o wrthocsidyddion ydych chi’n eu bwyta i leihau llid. Mae llid yn beth da ond gall gormod arafu adferiad. Mae bwydydd gwrthocsidiol yn cynnwys pysgod olewog, hadau llin, ffrwythau a llysiau, tyrmerig, garlleg a phaprica.  ​
  • Gall atchwanegiadau Omega 3 fod yn ddefnyddiol os ydych chi'n cael trafferth gyda chyhyrau poenus ac yn annhebygol o gael 3 dogn o omega 3 bob wythnos. Gellir prynu’r rhain fel atchwanegiadau wedi'u profi mewn swp os oes angen. ​
  • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw hyfforddiant dwys neu hir yn cael ei wasgaru'n gymesur ar draws yr wythnos. ​

​Canol y cylch (Gwaedu Ofwleiddio)​

  • Gwaedu ofwleiddio yw gwaedu o'r wain yn ystod neu'n union cyn neu ar ôl ofyliad.  Mae ofyliad yn digwydd yng nghanol y cylch mislif ac yn cael ei achosi gan newidiadau mewn lefelau oestrogen.  Fel arfer mae'n golygu smotiau ysgafn o waed sy'n para 1-2 ddiwrnod.​
  • Mae'r gwaedu yn llawer ysgafnach na'ch mislif ac yn effeithio ar tua 5% o fenywod.  Mae'n bwysig nodi nad dyma eich mislif.  Ni ddylai'r gwaedu fod yn drwm nac yn boenus.  ​
  • Mae'n ddefnyddiol cadw dyddiadur o unrhyw waedu anarferol gan gynnwys pa mor hir y mae'n para ac yna trafod hyn gyda'ch meddyg teulu. 

Heb gael mislif erioed neu’r mislif wedi stopio

Os nad ydych wedi dechrau cael mislif erbyn i chi fod yn 15 oed, yr enw ar hyn ydi amenoroea cynradd.  Dylech wneud apwyntiad drwy eich meddyg teulu i drafod hyn.  ​

Mae cylch y mislif yn ffordd ddefnyddiol o ddangos eich iechyd cyffredinol.  Gall llawer o sefyllfaoedd arwain at beidio â chael mislif am gyfnod o amser, ond os na chewch fislif am 3 mis yna bydd angen i chi drafod hyn gyda'ch meddyg teulu.  ​

Gall diffyg mislif gael ei achosi gan beidio â chael digon o faeth (yn enwedig wrth i chi hyfforddi). Mae hyn weithiau’n cael ei alw yn Ddiffyg Egni Cymharol mewn Chwaraeon (REDS). Am fwy o wybodaeth am REDS. 

Os ydych chi'n poeni am REDS ac yn gweld eich meddyg teulu, mae taflen wybodaeth ddefnyddiol y gallwch chi fynd â hi  i'ch apwyntiad gyda chi

Os ydych chi'n cymryd pilsen atal cenhedlu hormonaidd neu wedi cael gosod coil Mirena, nid mislif yw’r gwaed a gewch unwaith y mis.  Nid yw'r bilsen yn dderbyniol yn lle cylch y mislif naturiol ac ni ddylid ei defnyddio i fynd i'r afael â diffyg mislif.