Skip to main content

Datblygu Eich Busnes a Bod yn Greadigol - BOSS BREWING

Mae Boss Brewing yn fragdy llwyddiannus yn Abertawe sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’r Cydsylfaenydd a’r Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata, Sarah John, yn gwybod ambell beth am weithio’n llwyddiannus gyda chynulleidfaoedd gan fod y cwmni bellach yn gwerthu ledled y byd ac mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.

Ym mis Hydref 2018, ar ôl gwneud cais am fasnachnod ar gyfer ei enw brand, derbyniodd y bragdy lythyr ymatal gan y cwmni ffasiwn Hugo Boss a gwariodd gostau o bron i £10,000 yn amddiffyn ei hun yn y frwydr gyfreithiol.

Ym mis Mawrth 2020, newidiodd y comedïwr Joe Lycett ei enw yn gyfreithiol i Hugo Boss er mwyn cefnogi’r bragdy o Gymru.

Yn ystod cyfnod o’r fath, mae Sarah wedi dibynnu ar ei gallu i fod yn greadigol o dan bwysau, gan wynebu’r storm a dal ati i adeiladu ei busnes llwyddiannus.

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r pynciau canlynol:

• Trosolwg o’r busnes

• Gwybodaeth am sut mae Boss Brewing wedi gorfod addasu (yn gyflym iawn yn aml) i heriau, gan gynnwys Hugo Boss a Covid-19

• Esiamplau o sut a phryd i berchnogi sgwrs y cyfryngau, yn hytrach na gadael iddi gael ei chyfarwyddo i chi

• Dealltwriaeth o sut gall bod yn fenyw lwyddiannus mewn sector sy’n llawn dynion i raddau helaeth fod yn bositif i frandiau

AM SARAH JOHN

Aeth Sarah John o fod yn gwneud cwrw cartref i fod yn fos ar fusnes gyda 25 o bobl. Mae Boss Brewing yn cyflenwi archfarchnadoedd mawr, dau far yng nghanol Abertawe ac mae’n allforio ei gynhyrchion i bob cwr o’r byd.

Mwy o wybodaeth am Boss Brewing yma https://www.bossbrewing.co.uk/