Skip to main content

Camau syml i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol

Bydd y digwyddiad hwn yn helpu i ddysgu’r sgiliau a’r adnoddau i chi y bydd arnoch eu hangen er mwyn creu cynnwys ar gyfer eich platfformau cymdeithasol.

Bydd y digwyddiad yn dangos i chi dechnegau cyflym a hawdd i greu pethau fel GIFs, lluniau llonydd a chynnwys fideo sy’n gweithio ar gyfer pob platfform.

Bydd y sesiwn yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • Pwysigrwydd cynnwys cymdeithasol sy’n ddifyr yn greadigol
  • Deall y platfform cyfryngau cymdeithasol rydych chi’n gweithio ag ef
  • Sut i greu cynnwys GIF (neu fideo) hawdd
  • Sut i wneud llun llonydd yn ddifyr

 

AM DENA MOHAMED

Dena Mohamed yw Arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol Chwaraeon Cymru ac mae’n creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein platfformau ni. Mae wedi gweithio gyda sawl brand cyn dod atom ni, gan gynnwys Air New Zealand, Moët & Chandon a’r BBC i helpu i greu cynnwys cymdeithasol hawdd nad yw’n cymryd gormod o amser i’w weithredu.