Skip to main content

PŴER ADRODD STORI A THORRI DRWY’R SŴN AM Y DIGWYDDIAD HWN – GRAHAM THOMAS

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Sicrhau Bod Pawb yn Cael Cyfle i fod yn Actif drwy Chwaraeon / Gwella Eich Gwasanaeth 
  4. PŴER ADRODD STORI A THORRI DRWY’R SŴN AM Y DIGWYDDIAD HWN – GRAHAM THOMAS

Weithiau gall fod yn her cael eich newyddion i gyrraedd y cynulleidfaoedd rydych chi’n dymuno iddo eu cyrraedd gan eich bod yn aml yn cystadlu yn erbyn straeon chwaraeon eraill a'r agenda newyddion ehangach. Ond mae’n rhaid i chi allu torri drwy'r sŵn a gwneud eich cynnwys yn unigryw.

Bydd enghreifftiau real yn cael eu defnyddio yn ystod y sesiwn yma i ddangos yr hyn mae Graham yn addysgu yn ei gylch, gan gynnwys straeon diweddar a gafodd sylw ar gyfer Dai Sport, Sky Sports News a phapurau Sul lle mae chwaraeon ac enwau proffil is wedi llwyddo i dorri drwodd at gynulleidfa ehangach, dorfol.

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i'r pynciau canlynol:

• Creu effaith drwy adrodd straeon cadarn

• Pŵer cynnwys ysgrifenedig ffurf hirach i gefnogi gweithgareddau ar gyfryngau cymdeithasol

• Gwerth creu cysylltiadau

AM GRAHAM THOMAS

Newyddiadurwr a darlledwr yw Graham Thomas sydd wedi gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd.

Ar ôl gweithio i bapurau newydd, gan gynnwys y South Wales Evening Post, y South Wales Echo a’r Sunday Mirror, symudodd i fyd darlledu a threuliodd 14 mlynedd gyda'r BBC fel gohebydd chwaraeon a chyflwynydd ar y teledu, y radio ac ar-lein.

Yn gyn gyflwynydd ar Scrum V a Week In, Week Out ar BBC Cymru Wales, ers hynny mae wedi gweithio i Sky Sports News fel gohebydd yn ogystal â chydsylfaenu gwefan Dai Sport dair blynedd yn ôl.

Mae'n gyn Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn Cymru, yn awdur tri bywgraffiad chwaraeon, a chynhaliodd lansiad llyfr Geraint Thomas yng Nghymru yn 2018.

SESIWN YN DOD YN FUAN YN 2021