Skip to main content

Ydi athletwyr elitaidd yn byw yn hirach na'r boblogaeth gyffredinol?

Edrych ar effeithiau tymor hir hyfforddiant dwys ar iechyd

Dechreuodd Adam Runacres ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2017. Caiff ei ariannu drwy KESS (Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth), sydd mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru. Mae Adam bellach wedi cyflwyno ei PhD, ac mae ei astudiaeth sy'n edrych ar effeithiau tymor hir gyrfa chwaraeon elitaidd wedi cael ei derbyn i'w chyhoeddi yn y Journal of Sports Medicine.

Am y Sesiwn:

Yn y sesiwn yma (y cyntaf mewn cyfres o ddau), bydd Adam yn rhannu canfyddiadau ei astudiaeth oedd â nod o sefydlu canlyniadau iechyd tymor hir hyfforddiant dwys cronig. Bydd canfyddiadau ei adolygiad systematig a'i feta-ddadansoddiad yn helpu i ateb rhai cwestiynau diddorol iawn:

- Ydi athletwyr elitaidd yn byw yn hirach na'r boblogaeth gyffredinol?

- Oes terfyn uchaf lle mae ymarfer corff mewn gwirionedd yn dechrau achosi niwed ffisiolegol a lleihau disgwyliad oes?

- Ydi manteision tymor hir/effeithiau niweidiol ar iechyd bod yn athletwr elitaidd yn amrywio ym mhob camp?

MAE’R CYNNWYS HWN WEDI’I GLOI. BYDD ANGEN I CHI GOFRESTRU AM GYFRIF GYDA CLIP, A CHAEL EICH MYNEDIAD WEDI’I GYMERADWYO, CYN Y GALLWCH WELD Y CYNNWYS.