Skip to main content

Ymchwil Defnyddwyr

Darganfod beth mae pobl wir ei eisiau gan ddefnyddio ymweliadau maes a chyfweliadau

Trosolwg

Yn y rhaglen strwythuredig ar-lein yma o weithdai dan arweiniad hyfforddwr, byddwch yn darganfod sut i gynllunio, gweithredu a dadansoddi data ethnograffig.

Mae astudiaethau maes yn amhrisiadwy pan fydd angen i chi ddeall yn uniongyrchol sut mae defnyddwyr yn gweithio neu'n ymddwyn. Mae arsylwi yn y byd real yn rhoi dirnadaeth na all grwpiau ffocws ac arolygon ei darparu.

Ar y cyd â phrosiectau ymarfer, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin sgiliau, hyder ac arbenigedd mewn ymchwil maes. Drwy gyflwyniadau amser real, cwisiau a gweithgareddau rhyngweithiol, byddwch yn dysgu theori ethnograffeg dylunio ac yn ymarfer ei sgiliau craidd.

Cynhelir y cwrs ar Zoom ar 16eg Mehefin a 19eg Gorffennaf. Bob dydd, mae'r sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 10am a 12:15pm a 2pm a 4:15pm.

Gwyliwch fideo 2 funud 14 eiliad sy'n disgrifio cynnwys y cwrs yma