Mae CLIP wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo gyda dysgu a datblygu yn y sector chwaraeon yng Nghymru. Ond mae’r adnodd ar gael hefyd i aelodau’r cyhoedd.
Mae gwahanol lefelau defnyddiwr yn CLIP - am ddim ac yn gofyn am dâl.
Er bod CLIP yn cael cymorth ariannol gan Chwaraeon Cymru, mae unrhyw incwm sy’n cael ei gynhyrchu’n mynd yn ôl yn syth i gyfrannu at ddarparu dysgu drwy’r rhaglen. Mae codi ffioedd isel am ddigwyddiadau a mynediad blaenoriaeth yn rhoi gwell mynediad i fwy o bobl at gyfleoedd dysgu safonol.
Addewid CLIP:
- Pedwar sesiwn dysgu ar-lein y mis (2 x sesiwn cyfathrebu, 2 x dirnadaeth/ ymchwil, ac eithrio misoedd Ebrill, Awst a Rhagfyr.
- Tanysgrifiadau’n rhoi mynediad agored ar unwaith i’r holl gynnwys a’r holl ddigwyddiadau.
- Sesiynau dysgu’n cael eu huwchlwytho i fynediad cyffredinol (dim tanysgrifiad) chwe wythnos ar ôl y sesiwn.
- Pob sesiwn ar gael i gymryd rhan ar-lein.