Skip to main content

Arolwg Addysg Bellach

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Arolwg Addysg Bellach

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatgloi manteision chwaraeon i bawb. Dyma pam ein bod ni wedi penderfynu casglu safbwyntiau myfyrwyr Addysg Bellach ledled Cymru am chwaraeon yn 2015. 

Y nod? Ein helpu ni i ddeall sut mae myfyrwyr yn cael mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac yn cymryd rhan ynddyn nhw.

Cynhaliwyd yr ail Arolwg Addysg Bellach yn 2018.

Gan weithio gyda ColegauCymru a Chwaraeon Colegau Cymru, roedd y ffocws ar fyfyrwyr 16 i 19 oed llawn amser ond roedd yr arolwg yn agored i unrhyw fyfyriwr AB yn astudio mewn coleg addysg bellach yng Nghymru. Nid oedd yr arolwg yn cynnwys chweched dosbarth yn rhan o ysgolion – gwahoddwyd y myfyrwyr hynny i gymryd rhan yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol.

Gwahoddwyd myfyrwyr i lenwi holiadur am eu cyfranogiad a’u hagweddau at chwaraeon y tu mewn a’r tu allan i’r coleg. Hefyd gofynnwyd i’r myfyrwyr ateb cyfres o gwestiynau am wirfoddoli.

Canfyddiadau allweddol Arolwg Addysg Bellach 2018

Cymerodd pob coleg Addysg Bellach yng Nghymru ran yn yr arolwg gyda bron i 4000 o fyfyrwyr yn llenwi holiadur ar-lein. Mae hynny’n 8% o’r dysgwyr cymwys.

Mae 43% o’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r ganran wedi gostwng 6 phwynt canran ers 2015. Dywedodd 36% yn 2018 nad ydynt yn gwneud unrhyw weithgarwch rheolaidd.

Fel gyda chanfyddiadau’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, mae bwlch rhwng y rhywiau mewn cymryd rhan. Mae 50% o fyfyrwyr gwrywaidd yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 36% o fyfyrwyr benywaidd. Er bod y bwlch hwn wedi lleihau ers 2015 o 5 pwynt canran, mae’n fwlch mwy nag a welir ymhlith disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018).

Cymerodd 32% o’r myfyrwyr ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol un waith yr wythnos o leiaf yn y coleg (37% gwryw; 27% benyw). Y tu allan i’r coleg, cymeroddd 60% ran unwaith yr wythnos neu’n amlach – 64% o fyfyrwyr gwrywaidd a 56% o fyfyrwyr benywaidd. Mae myfyrwyr 16 i 19 oed yn fwy tebygol o fod yn gyfranogwyr rheolaidd na myfyrwyr 20 oed neu hŷn.

• Mae tua hanner y myfyrwyr yn dweud bod eu hiechyd yn ‘dda’ neu ‘dda iawn’ – 53% yn gyffredinol. Roedd 16% yn meddwl bod eu coleg yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach ac roedd y myfyrwyr gwrywaidd (18%) yn fwy tebygol na’r myfyrwyr benywaidd (14%) o feddwl hyn.

• Mae 54% o’r myfyrwyr yn hyderus yn rhoi cynnig ar chwaraeon newydd (67% o fyfyrwyr gwrywaidd a 43% o fyfyrwyr benywaidd).

• Roedd 22% o’r myfyrwyr wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, gan roi eu hamser yn wirfoddol heb dâl i helpu i redeg gweithgareddau chwaraeon. Roedd myfyrwyr yn fwy tebygol o wirfoddoli fel hyfforddwyr (67%) neu ddyfarnwyr/swyddogion (20%), gan helpu i gefnogi darparu chwaraeon.

Podlediad

Mae podlediad Chwaraeon Cymru – Calon Chwaraeon Cymru – yn cynnwys penodau ar chwaraeon perfformiad uchel, yr arolwg ar chwaraeon ysgol a chyfranogiad plant, a chael mwy o ferched i fod yn actif.

Chwiliwch am ‘Calon Chwaraeon Cymru’ neu lawrlwytho ar:

Apple

Android 

Hefyd ar gael ar raglenni eraill gan gynnwys Overcast, Castbox a Pocket Casts.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy