Skip to main content

Arolwg ar Chwaraeon Ysgol

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Arolwg ar Chwaraeon Ysgol

Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn rhoi cyfle i blant ledled Cymru leisio eu barn am chwaraeon a’u lles. Mae hyn yn rhoi i ni a’r sector wybodaeth bwysig iawn am lefelau cymryd rhan, ymddygiad ac agweddau.

Dechreuodd yr arolwg yn 2011 pan gymerodd 110,000 o blant a phobl ifanc ran. Rydyn ni wedi bod yn mynd â’r arolwg i 1000 o ysgolion ledled Cymru yn rheolaidd byth ers hynny.

Mae ein canfyddiadau diweddaraf yn 2018 yn cynrychioli llais 120,000 o blant ysgol.

Mae dyfnder y dystiolaeth yn golygu y gallwn ni – a’n partneriaid – wneud penderfyniadau doeth am adnoddau buddsoddi yn y dyfodol. Gallwn ddadansoddi tueddiadau sy’n dod i’r amlwg a datblygu chwaraeon mewn fformat sy’n cymell plant a phobl ifanc heddiw. Mae’n gyfle i ni edrych ar grwpiau anodd eu cyrraedd ac rydyn ni’n defnyddio’r dystiolaeth i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sy’n atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan.

Mae 45% o blant ag anabledd neu nam yn cymryd rhan yn awr mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos (yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen), i fyny o 40% yn 2015.

Prif ganfyddiadau Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018 Chwaraeon Cymru

Mae’r canlyniadau’n dangos bod y cynnydd a welwyd rhwng 2011 a 2015 mewn arolygon blaenorol wedi’i gynnal, gyda 48% o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen.

Hefyd mae ffigurau 2018 yn awgrymu bod y bwlch cymryd rhan yn cau ar gyfer rhai grwpiau mwy anodd eu cyrraedd.

  • Mae 45% o blant ag anabledd neu nam yn cymryd rhan yn awr mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos (yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen), i fyny o 40% yn 2015. Mae’r ffigur yn dangos cynnydd mwy fyth wrth ychwanegu ymatebion gan ysgolion Anghenion Addysgol Arbennig, gan fynd â’r ffigur i fyny i 47%.
  • Mae’r grŵp lleiafrif ethnig gyda’r cyfranogiad isaf, Asiaidd Prydeinig, wedi cynyddu nifer ei gyfranogwyr rheolaidd o 36% i 40%, gan ddod â hwy’n nes at y cyfartaledd cenedlaethol.
  • Yn y cyfamser, mae’n ymddangos bod bwlch mwy ystyfnig rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig, gyda 42% o blant o’r cartrefi mwyaf difreintiedig yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos (yn ychwanegol at wersi AG ar yr amserlen), i lawr o 43% yn 2015.

Am y tro cyntaf, mae pobl ifanc wedi cael nodi eu rhyw fel gwryw, benyw neu arall, gan ddarparu gwybodaeth newydd bwysig. 

Yn 2018, cymerodd 46% o ferched ran mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â 50% o fechgyn. Yn 2015, dywedodd 44% o ferched a 52% o fechgyn eu bod yn cymryd rhan yn rheolaidd. Er nad oes modd llunio cymariaethau uniongyrchol oherwydd y ddeinameg cwestiynau newydd, mae’r ffigurau’n awgrymu cau o bosib ar y bwlch rhwng y rhywiau.

Mae 39% o’r rhai a ymatebodd fel ‘arall’ wedi dweud eu bod yn cymryd rhan dair gwaith neu fwy yr wythnos.

Podlediad

Mae podlediad Chwaraeon Cymru – Calon Chwaraeon Cymru – yn cynnwys penodau ar chwaraeon perfformiad uchel, yr arolwg ar chwaraeon ysgol a chyfranogiad plant, a chael mwy o ferched i fod yn actif.

Chwiliwch am ‘Calon Chwaraeon Cymru’ neu lawrlwytho ar:

Apple

Android 

Hefyd ar gael ar raglenni eraill gan gynnwys Overcast, Castbox a Pocket Casts.

Newyddion Diweddaraf - Ymchwil a Gwybodaeth

Y fitamin golau’r haul!

Mae’r Hydref wedi cyrraedd! Ac i athletwyr sy’n hyfforddi yng Nghymru a ledled y DU, mae hyn yn golygu…

Darllen Mwy

Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

Yn y  1970au gwelwyd Brwydr y Rhywiau rhwng seren y byd tennis i ferched  Billie Jean King…

Darllen Mwy

Mae’n amser am Ionawr Tri

Mae llawer o bobl yn addo cael Ionawr Sych y mis yma, ond beth am Ionawr Tri?Mae Triathlon Cymru yn…

Darllen Mwy