CROESO GAN BRIAN DAVIES, PRIF WEITHREDWR CHWARAEON CYMRU
Mae’r rhifyn yma o Amser Ychwanegol yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd niferus y mae sector chwaraeon Cymru yn gweithio i ddod yn fwy cynhwysol i bawb.
Gallwch ddarllen am sut mae mentoriaid bellach ar gael i helpu i gefnogi sefydliadau partner Chwaraeon Cymru i ddilyn y ‘Fframwaith Symud at Gynhwysiant’ newydd. Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn rhannu'r hyn maent wedi'i ddysgu wrth ddatblygu eu cynllun 'Ystafell Cit Gymunedol' ym Mlaenau Gwent i helpu cymunedau i gadw'n actif yn ystod yr argyfwng costau byw, tra bo BowlsCymru yn ymddangos mewn fideo sy'n ein hatgoffa ni o'r manteision o ffurfio partneriaethau cynhyrchiol i helpu chwaraeon i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Gallwch hefyd ddarllen am raglen arloesol rydyn ni'n ei chynnal ar y cyd â Sport Northern Ireland a sportscotland i helpu arweinwyr hyfforddi i sicrhau bod yr hyfforddi yn eu campau priodol yn diwallu anghenion cyfranogwyr ac yn lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn chwaraeon.
Rhaglen arall yr hoffwn sôn amdani yw ‘Arweinyddiaeth Gweithredu Cadarnhaol', sydd wedi'i chynllunio gennym ni mewn partneriaeth ag AKD Solutions, rhanddeiliaid allweddol a darpar gyfranogwyr i ddatblygu gallu a hyder y gweithlu ethnig amrywiol yng Nghymru.
Rydyn ni’n cydnabod bod cyfrannau mawr o gymdeithas sy’n cael eu tangynrychioli yng ngweithlu’r sector chwaraeon yng Nghymru, yn fwy penodol yn gweithredu ar lefel arweinyddiaeth, felly lansiwyd y rhaglen tua blwyddyn yn ôl a chafodd ei chyflwyno dros gyfnod o naw mis.
Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar dair thema allweddol: arwain eich hun, arwain eraill a galluogi newid cadarnhaol. Profodd yr ymgeiswyr lu o gyfleoedd datblygu, gan gynnwys gweithdai dydd, tripiau dysgu preswyl, hyfforddiant grŵp, gweithdai ar-lein a chyfres o ‘ginio a dysgu’ gydag arweinwyr profiadol o gefndiroedd ethnig amrywiol, fel Nigel Walker ac Ashton Hewitt.
Yn bwysig, fe wnaeth cyfranogwyr y rhaglen hefyd sefydlu cysylltiadau newydd, cyfnewid profiadau dysgu, a chydnabod eu cyfrifoldeb fel modelau rôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydyn ni’n gwybod bod ein Tîm Datblygu Pobl ni wedi dysgu llawer hefyd yn ystod y rhaglen ac yn gwerthfawrogi sut roedd y cyfranogwyr yn teimlo y gallent gael sgyrsiau agored.
Rydyn ni’n aros yn eiddgar am ganlyniadau gwerthusiad annibynnol o'r rhaglen a fydd yn allweddol wrth lunio ein camau nesaf. Mae’r wybodaeth a gafwyd o’r rhaglen wedi cael ei chyfathrebu hefyd i UK Sport ac i ymgynghoriaeth arweinyddiaeth sydd, ar hyn o bryd, yn gweithio ar fenter debyg ar gyfer y gwledydd cartref.
Yn y cyfamser, mae’r rhaglen wedi cyrraedd rhestr fer y ‘Fenter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau’ yng Ngwobrau’r Chartered Institute of Personal and Development (CIPD) a gynhaliwyd gennym ni yn ddiweddarach y mis yma.