Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 11 - Ionawr 2024

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 11 - Ionawr 2024

Cyfwelodd Savanta 1,016 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 26ain a 31ain Ionawr 2024. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae’r data wedi cael eu pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol.

Crynodeb gweithredol

  • Mae bron i hanner (47%) yr oedolion yng Nghymru yn gwneud gweithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos, sydd yn unol â Hydref 23 (48%) ac Ionawr 23 (46%) ac yn parhau’n uwch na Chwefror 22 (41%). Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (24%) wedi aros yn uwch hefyd nag Ionawr  23 (19%).
  • Y gweithgaredd mwyaf cyffredin sy’n cael ei wneud gan oedolion yng Nghymru o hyd yw cerdded ar gyfer hamdden (59%), tra bo cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwneud gweithgareddau yn y cartref (21%) yn uwch na Hydref 23 (17%), a’r uchaf y mae wedi bod ers Awst 21 (21%). Mae hyn yn debygol o fod oherwydd effaith stormydd Isha a Jocelyn ddiwedd mis Ionawr, pan brofodd Cymru lifogydd eang a cholli pŵer.
  • Er bod cyfran yr oedolion yng Nghymru sydd ddim yn gwneud unrhyw ymarfer corff (0 diwrnod) yn parhau i fod yn is nag Ionawr  23 (19% o gymharu â 22%), mae’r grwpiau sy’n cynnwys ymatebwyr hŷn (55+, 25%) a’r ymatebwyr ag anabledd (23%) yn parhau i fod yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn segur. Yn yr un modd, mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod wedi bod yn actif iawn (5+ diwrnod, 27% o gymharu â 21%).
  • Er bod ymatebwyr hŷn yn debygol o wneud llai oherwydd eu bod yn mwynhau ymarfer corff yn llai na'u cymheiriaid iau, mae ymatebwyr benywaidd a phobl ag anabledd hefyd yn llai tebygol o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn actif. Yn yr un modd, mae benywod a phobl ag anabledd hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gan awgrymu bod arnynt angen anogaeth a chefnogaeth ychwanegol i gynyddu eu lefelau gweithgarwch.
  • Mae cyfran yr oedolion yng Nghymru sy’n dweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl (54%) wedi gostwng o gymharu â Hydref 23 (60%) ac Ionawr  23 (61%), yn ogystal â’r gyfran sy’n dweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol 53%), o gymharu âc Ionawr  23 (59%) a Chwefror 22 (57%). Mae'r gostyngiad hwn wedi cael ei sbarduno'n rhannol gan wrywod (55% o gymharu â 65% ym mis Hydref 23 a 63% ym mis Ionawr 23) a phobl 55+ oed (47% o gymharu â 59% ym mis Ionawr 23).
  • Mae costau byw yn parhau i gael effaith negyddol ar allu dau o bob pump (39%) o oedolion i fod yn actif, gyda thraean (33%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ganlyniad. Mae wedi cael effaith arbennig o gryf ar oedolion yn y 30% mwyaf difreintiedig, sy’n llawer mwy tebygol o ddweud ei fod wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (44%) a’u bod wedi bod yn gwneud llai o weithgarwch o ganlyniad (36%).
  • Mae tua un o bob saith (14%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd, gyda bron i draean yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (32%) yn ystod y 12 mis nesaf.
  • Mae dau o bob pump o’r ymatebwyr (40%) yn cytuno eu bod yn cymryd camau i weithredu’n gynaliadwy a lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol, ond mae ychydig llai na thraean (32%) yn cytuno y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan.
  • Mae cynaliadwyedd yn bwysicaf i wrywod a phobl ifanc (16 i 34), gyda’r ddau grŵp yn sylweddol fwy tebygol o gytuno eu bod yn cymryd camau i weithredu’n gynaliadwy a lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol (44% a 52% yn y drefn honno).
  • Mae cynaliadwyedd yn bwysicach hefyd i oedolion yn y 30% mwyaf difreintiedig, sy’n sylweddol fwy tebygol o gytuno bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig iddynt (38%), ond hefyd y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan (37%)

Lefelau gweithgarwch 

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu’r gyfradd anadlu.

  • Gwnaeth bron i hanner oedolion Cymru weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod (47%), sydd yn unol â Hydref 23 (48%) ac Ionawr 23 (46%) ac mae'n parhau i fod yn uwch na Chwefror 22 (41%).
  • Mae cyfran y bobl a wnaeth weithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (24%) yn parhau i fod yn uwch nag Ionawr 23 (19%).
  • Mae'r gyfran na wnaeth unrhyw ymarfer corff yn parhau i fod yn is nag Ionawr 23 (19% o gymharu â 22%), ond yn unol â Hydref 23 (18%), Gorff 23 (18%) ac Ebrill 23 (18%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod wedi gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (27% o gymharu â 21%)
    • Mae ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr 16 i 34 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (19% a 25% o gymharu ag 11%).
    • Mae ymatebwyr ag anabledd corfforol neu salwch yn fwy tebygol na phobl heb unrhyw gyflwr neu salwch o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (23% o gymharu â 17%).

Math ac amledd y gweithgarwch

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a gafodd eu gwneud gan yr ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded ar gyfer hamdden (59%), cerdded i deithio (27%), campfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref (16%) a rhedeg neu loncian ( 14%).
    • Mae cyfran y bobl sy'n gwneud gweithgaredd yn y cartref (21%) yn uwch nag yn Hydref 23 (17%), ac ar ei uchaf ers Awst 21 (21%).
  • Dywedodd ychydig mwy na thri o bob pump o’r ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai ar gyfer hamdden neu er mwyn teithio yn rheolaidd (unwaith y mis o leiaf) yn ystod y tri mis diwethaf (62%), dywedodd ychydig llai nag un o bob pedwar eu bod wedi mynd i’r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff (23%), ac ychydig llai nag un o bob pump wedi bod yn rhedeg neu loncian (19%) a nofio (17%).
  • Dywedodd ychydig mwy nag un o bob deg (12%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf.

Rhesymau dros gymryd rhan 

  • Mae ychydig mwy na hanner (54%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl neu i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (53%).
    • Mae'r gyfran sy'n dweud eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl wedi gostwng yn sylweddol o gymharu â mis Ionawr 23 (61%). Mae'r gostyngiad hwn wedi cael ei sbarduno’n rhannol gan wrywod (55% o gymharu â 63% ym mis Ionawr 23) a phobl 55+ oed (47% o gymharu â 59% ym mis Ionawr 23).
    • Mae'r gyfran a ddywedodd eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd corfforol wedi gostwng hefyd o gymharu â Ionawr 23 (59%) a Chwefror 22 (57%). Mae'r gostyngiad hwn yn cael ei sbarduno’n rhannol eto gan wrywod (57% o gymharu â 64% ym mis Ionawr 23) a phobl 55+ oed (53% o gymharu â 62% ym mis Ionawr 23).
  • Mae’r rhai sy’n cytuno eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl yn dweud ei fod yn gwneud hyn drwy glirio eu pen neu symud eu meddwl oddi ar bethau (14%), yn eu helpu i deimlo’n well amdanynt eu hunain (10%) ac yn lleddfu straen (7%) .
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, mae bron i dri o bob pump o’r ymatebwyr (57%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel eu prif reswm dros gymryd rhan, tra bo un o bob pump (20%) yn nodi teimlo’n dda fel eu prif reswm.

Cyfle a gallu           

  • Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (72%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (84% o gymharu â 75% o gymharu â 62%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol na’r ymatebwyr ag anabledd o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (85% o gymharu â 52%).
  • Mae ychydig llai na thri o bob pedwar (73%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (77% o gymharu â 70%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr ag anabledd o gytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (84% o gymharu â 55%).
  • Roedd traean (34%) yr ymatebwyr yn cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35-54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (51% o gymharu â 41% o gymharu ag 17%).
    • Mae pobl sydd â phlant yn sylweddol fwy tebygol na phobl heb blant o gytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill (49% o gymharu â 26%).

Agweddau at weithgarwch 

Y gallu i fwynhau, pwysigrwydd a hyder 

  • Mae ychydig llai na thri o bob pump (57%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (61% o gymharu â 53%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (67% o gymharu â 59% o gymharu â 49%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr ag anabledd o gytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (62% o gymharu â 49%).
  • Mae dwy ran o dair (66%) o’r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt ymarfer yn rheolaidd.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn llawer mwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno (71% o gymharu â 62%) ei bod yn bwysig iddynt ymarfer yn rheolaidd.
  • Mae tua thri o bob pump (59%) o’r ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (67% o gymharu â 52%).
    • Mae ymatebwyr heb anabledd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr ag anabledd o gytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif (68% o gymharu â 43%).
  • Mae ychydig llai na chwarter (23%) yr ymatebwyr yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
    • Mae ymatebwyr benywaidd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (27% o gymharu ag 19%).
    • Mae ymatebwyr ag anabledd yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr heb anabledd o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol (35% o gymharu ag 16%).

Hyder mewn lleoliad 

  • Mae hyder mewn lleoliadau dan do yn parhau i fod yn sefydlog wrth i effeithiau pandemig Covid-19 bylu, gyda 42% yn hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (yr un fath â Hydref 23) a 30% yn hyderus mewn neuaddau chwaraeon (30% o gymharu â 31% yn Hydref 23).
    • Yr un eithriad yw pyllau nofio, sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn hyder o gymharu â Ionawr 23 (47% o gymharu â 55%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae tua naw o bob deg yn dweud eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (90%), pyllau nofio dan do (90%) a glaswellt dan do / caeau artiffisial (88%), tra bo pedwar o bob pump yn hyderus ar gyrtiau dan do (80%).

Cwestiynau pwnc 

Gwirfoddoli 

  • Nid yw bron i hanner yr ymatebwyr (46%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda thua un o bob saith (14%) yn gwirfoddoli ar hyn o bryd.
    • Mae’r gwirfoddolwyr presennol yn fwy tebygol o fod rhwng 16 a 34 oed (26% o gymharu â 14% o gymharu â 6%) a bod â phlant (21% o gymharu â 9%).
  • Er bod ychydig llai na hanner yr ymatebwyr yn dweud ei bod yn debygol na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (47%), dywed bron i draean eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (32%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd (35% o gymharu â 29%) a’r ymatebwyr 16 i 34 oed (52% o gymharu â 35% o gymharu â 17%) yn sylweddol fwy tebygol o ddweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel pobl sydd â phlant (45% o gymharu â 25%).

Costau byw

  • Mae tua dau o bob pump o ymatebwyr (39%) yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
    • Mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed (42% o gymharu â 49% o gymharu â 30%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, felly hefyd pobl sydd â phlant (49% o gymharu â 34%).
    • Mae pobl sydd yn y 30% mwyaf difreintiedig (44%) yn sylweddol fwy tebygol na phobl mewn amddifadedd canolig (36%) a’r 30% lleiaf difreintiedig (29%) o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
  • Er bod bron i hanner (47%) yr ymatebwyr yn dweud nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mae traean (33%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
    • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr 55+ oed (41% a 44% o gymharu â 19%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, ac felly hefyd pobl sydd â phlant (44% o gymharu â 27%).
    • Mae pobl sydd yn y 30% mwyaf difreintiedig (36%) yn sylweddol fwy tebygol na'r bobl sydd yn y 30% lleiaf difreintiedig (26%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
  • Mae bron i dri o bob deg (29%) o’r ymatebwyr yn dweud nad yw costau byw cynyddol wedi cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Fodd bynnag, dywed 23% eu bod wedi newid i weithgareddau rhatach / am ddim, dywed 20% eu bod wedi cymryd rhan mewn llai o weithgareddau lle mae angen talu, dywed 19% eu bod wedi gwario llai ar ddillad / offer chwaraeon, a dywed 17% bod eu lefelau gweithgarwch wedi lleihau.
    • Mae ymatebwyr 55+ oed yn sylweddol fwy tebygol nag ymatebwyr 16 i 34 a 35 i 54 oed o ddweud nad yw costau byw cynyddol wedi cael unrhyw effaith ar eu dewis o chwaraeon a gweithgarwch corfforol (42% o gymharu â 17% a 22%), tra bo pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn sylweddol fwy tebygol na phobl 55+ oed o ddweud ei fod wedi cael effaith (69% o gymharu â 59% a 28%).
    • Mae pobl sydd â phlant yn sylweddol fwy tebygol na phobl heb blant o ddweud bod costau byw cynyddol wedi cael effaith (63% o gymharu â 41%).
    • Mae pobl sydd yn y 30% mwyaf difreintiedig (50%) yn sylweddol fwy tebygol na'r bobl yn y 30% lleiaf difreintiedig (36%) o ddweud bod costau byw cynyddol wedi cael effaith.

Yr amgylchedd a chynaliadwyedd 

  • Mae dau o bob pump o'r ymatebwyr (40%) yn cytuno eu bod yn cymryd camau i weithredu'n gynaliadwy a lleihau'r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno eu bod yn cymryd camau i weithredu’n gynaliadwy a lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol (44% o gymharu â 36%), fel y mae ymatebwyr 16 i 34 oed o gymharu ag ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed (52% o gymharu â 34% a 36%).
  • Mae ychydig dros draean (35%) yn cytuno bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig iddynt wrth ddewis pa chwaraeon neu weithgarwch corfforol i gymryd rhan ynddynt.
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig iddynt (39% o gymharu â 31%), fel y mae ymatebwyr 16 i 34 oed o gymharu ag ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed (47% o gymharu â 30% a 30).
    • Mae pobl sydd yn y 30% mwyaf difreintiedig (38%) yn sylweddol fwy tebygol na'r bobl sydd yn y 30% lleiaf difreintiedig (26%) o gytuno bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig iddynt.
  • Mae ychydig llai na thraean yn cytuno eu bod yn aml yn ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol (31%).
    • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno eu bod yn aml yn ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol (36% o gymharu â 25%), fel y mae ymatebwyr 16 i 34 oed o gymharu ag ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed (45% o gymharu â 29% o gymharu â 22%).
  • Fodd bynnag, dim ond tua un o bob pump (22%) sy’n poeni am eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol, ac mae ychydig llai na thraean (32%) yn cytuno y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar y amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan (32%).
    • Unwaith eto, mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o gytuno eu bod yn poeni am eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol (25% o gymharu â 19%), fel y mae ymatebwyr 16 i 34 oed o gymharu ag ymatebwyr 35 i 54 oed a 55+ oed (40% o gymharu â 18% o gymharu â 12%).
    • Mae pobl 16 i 34 oed yn fwy tebygol na phobl 35 i 54 oed a 55+ oed o gytuno y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol (51% o gymharu â 32% o gymharu â 18%).
    • Mae pobl sydd yn y 30% mwyaf difreintiedig (37%) yn sylweddol fwy tebygol na’r bobl sy’n byw mewn amddifadedd canolig (28%) a’r bobl sydd yn y 30% lleiaf difreintiedig (21%) o gytuno y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan.