Skip to main content

Anabledd

Taflen Cryno

Mae'r wybodaeth sy’n cael ei harddangos isod naill ai'n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu'n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi’n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer ton 8 a thon 9.

Bu cynnydd o 7 pwynt canran (i 51%) yng nghyfran y bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog sy’n ‘cerdded ar gyfer hamdden’ gyda rhywun arall ers mis Hydref 2023.

Mae 8% o’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn dweud eu bod wedi cael eu hatgyfeirio i wneud unrhyw weithgarwch corfforol gan feddyg teulu, o gymharu â 25% o’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog.

Mae’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn sylweddol fwy tebygol o fod yn hyderus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn y lleoliadau canlynol na’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog:

  • Caeau glaswellt (a ddefnyddir ar gyfer pêl droed, rygbi, criced ac ati) – 33% [heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog] o gymharu â 21% [gyda chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog]
  • Campfeydd / Ystafelloedd iechyd a ffitrwydd – 48% o gymharu â 32%
  • Pyllau nofio – 50 o gymharu â 43%
  • Neuaddau chwaraeon – 34% o gymharu â 24%
  • Stiwdios (a ddefnyddir ar gyfer ioga, aerobics, sbin, crefftau ymladd ac ati) – 33% o gymharu â 21%
  • Cyrtiau awyr agored (a ddefnyddir ar gyfer tennis, pêl fasged ac ati) – 33% o gymharu â 22%
  • Parciau – 72% o gymharu â 58%

Ymatebodd 78% o bobl sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog gan ddweud eu bod yn gyfforddus yn defnyddio campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd, sy’n ostyngiad o 10 pwynt canran o Hydref 23.

Mae 41% o ymatebwyr sydd â chyflwr iechyd meddwl neu salwch yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf, mae hyn yn gynnydd o 14 pwynt canran o gymharu â mis Hydref 2023. Dywedodd 32% o’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog hyn hefyd, sy'n ostyngiad o 8 pwynt canran o fis Hydref 23.

Mae 64% o’r bobl sydd â chyflwr neu salwch meddwl yn credu bod ganddyn nhw’r gallu i fod yn gorfforol actif (cynnydd o 9 pwynt canran o Hydref 23), o gymharu â 41% o ymatebwyr sydd â chyflwr corfforol neu salwch ac 85% o’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog.

Bu gostyngiad o 7 pwynt canran ymhlith y bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl neu salwch a ddywedodd eu bod wedi cael y cyfle i fod yn gorfforol actif ers mis Hydref 23, gyda’r cyfraddau’n parhau’n debyg o’r tonnau blaenorol ar gyfer y grwpiau eraill (59% [cyflwr neu salwch meddwl] o gymharu â 51% [cyflwr neu salwch corfforol] o gymharu ag 84% [dim cyflwr neu salwch hirsefydlog]).

Mae 68% o bobl heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog yn dweud bod ganddyn nhw’r hyder i fod yn actif yn gorfforol o gymharu â 43% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog.

Roedd y bobl sydd â chyflwr neu salwch meddwl yn sylweddol fwy tebygol o boeni am eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol na'r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog (28% o gymharu â 26% o gymharu â 20%).

Roedd y bobl â chyflwr neu salwch meddwl hefyd yn sylweddol fwy tebygol o gytuno y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol na’r bobl â chyflwr neu salwch corfforol neu’r bobl heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog (39% o gymharu â 28% o gymharu â 31%).

Ymatebodd 92% o’r bobl heb unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog gan ddweud eu bod yn ddigon iach i wneud ymarfer corff heddiw, o gymharu â 66% o’r bobl â chyflwr neu salwch meddwl a 56% o’r bobl â chyflwr neu salwch corfforol.

Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Oedran
Darllen Mwy
Amddifadedd