Skip to main content

Oedran

Taflen Cryno

Mae'r wybodaeth sy’n cael ei harddangos isod naill ai'n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu'n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi’n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer ton 8 a thon 9.

Mae cerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall wedi cynyddu 10 pwynt canran i 48% ar gyfer pobl 55+ oed (oedolion hŷn), o gymharu â phobl 16 i 34 oed (oedolion iau) a phobl 35 i 54 oed y mae eu cyfraddau wedi aros yr un fath.

Mae oedolion iau yn sylweddol fwy tebygol o fod â hyder mewn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y lleoliadau canlynol nag oedolion hŷn:

  • Caeau glaswellt (a ddefnyddir ar gyfer pêl droed, rygbi, criced ac ati) – 39% [oedolion iau] o gymharu â 33% [35 i 54 oed] o gymharu â 18% [oedolion hŷn]
  • Campfeydd / Ystafelloedd iechyd a ffitrwydd – 58% o gymharu â 45% o gymharu â 28%
  • Pyllau nofio – 54% o gymharu â 49% o gymharu â 42%
  • Neuaddau chwaraeon – 42% o gymharu â 32% o gymharu â 21%
  • Cyrtiau awyr agored (a ddefnyddir ar gyfer tennis, pêl fasged ac ati) – 40% o gymharu â 31% o gymharu â 19%
  • Parciau – 71% o gymharu â 66% o gymharu â 64%

Mae oedolion iau yn sylweddol fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf na'r ddau grŵp oedran arall (52% o gymharu â 35% o gymharu â 17%).

Mae oedolion iau hefyd yn fwyaf tebygol o ddweud bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif (84% o gymharu â 75% o gymharu â 62%).

Mae 71% o oedolion iau yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, mae hyn o gymharu â 64% o bobl 35 i 54 oed a 65% o oedolion hŷn.

Nid yw mwy nag un o bob tri (35%) o oedolion iau yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, sy’n sylweddol uwch na phobl 35 i 54 oed (25%) ac oedolion hŷn (27%).

Mae pobl 35 i 54 oed ac oedolion hŷn yn llai tebygol o boeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol nag oedolion iau (33% o gymharu â 23% o gymharu â 15%).

Ymatebodd 55% o oedolion iau a 49% o bobl 35 i 54 oed gan ddweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, sef gostyngiad o 7 pwynt canran ar gyfer y ddau grŵp oedran ers mis Hydref 2023.

Bu gostyngiad sylweddol hefyd ymhlith y bobl 35 i 54 oed sy’n gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl ers mis Hydref 2023, gyda 57% yn dweud eu bod eisiau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i reoli eu hiechyd meddwl o gymharu â 64% ym mis Hydref 2023.

Mae oedolion iau yn sylweddol fwy tebygol o feddwl bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig wrth ddewis pa chwaraeon neu weithgarwch corfforol i gymryd rhan ynddyn nhw na phobl 35 i 54 oed ac oedolion hŷn (47% o gymharu â 30 o gymharu â 30%).

Mae oedolion iau yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol o ansawdd uchel, o gymharu â'r grwpiau eraill (50% o gymharu â 39% o gymharu â 39%).

Bu gostyngiad o 7 pwynt canran ymhlith oedolion iau a phobl 35 i 54 oed sy’n gallu cyrraedd eu cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol, o gymharu â mis Hydref 2023 (55% o gymharu â 54% o gymharu â 57% ).

Dywed 37% o oedolion iau eu bod eisiau gwneud mwy o redeg a loncian yn y dyfodol, sy’n sylweddol uwch na’r grwpiau oedran eraill, tra bo 68% o oedolion hŷn eisiau cerdded (naill ai ar gyfer hamdden neu deithio) yn y dyfodol, sy'n sylweddol uwch nag oedolion iau (41%) a phobl 35 i 54 oed (58%).

Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Anabledd
Darllen Mwy
Amddifadedd