Skip to main content

Amddifadedd

Taflen Cryno

Mae'r wybodaeth sy’n cael ei harddangos isod naill ai'n wahaniaethau sylweddol rhwng y data demograffig, neu'n newidiadau sylweddol ers y don flaenorol. Os ydych chi’n chwilio am ddadansoddiad manylach, edrychwch ar y taflenni ffeithiau ar gyfer ton 8 a thon 9.

Ers mis Hydref 23, bu cynnydd o 7 pwynt canran ymhlith y bobl o ardaloedd amddifadedd canolig [ardaloedd amddifadedd canolig] sy'n cymryd rhan mewn cyfanswm o 30 munud neu fwy o weithgarwch corfforol 5+ diwrnod yr wythnos. Mae’r bobl o’r 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig [ardaloedd mwyaf difreintiedig] a’r 30% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig [ardaloedd lleiaf difreintiedig] wedi aros yn gymharol sefydlog (19% [ardaloedd mwyaf difreintiedig] o gymharu â 28% [ardaloedd amddifadedd canolig] o gymharu â 23% [ardaloedd lleiaf difreintiedig]).

Mae’r hyder mewn lleoliadau chwaraeon yn amrywio yn ôl lefel amddifadedd, er nad yw rhai lleoliadau’n dangos gwahaniaethau sylweddol. Mae dwy enghraifft o ganfod gwahaniaethau sylweddol rhwng 2 grŵp neu fwy i’w gweld isod:

  • Campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd – 44% [ardaloedd mwyaf difreintiedig] o gymharu â 42% [ardaloedd amddifadedd canolig] o gymharu â 35% [ardaloedd lleiaf difreintiedig]
  • Pyllau nofio – 51% o gymharu â 47% o gymharu â 43%

Bu gostyngiad sylweddol (8 pwynt canran) mewn hyder i ddefnyddio pyllau nofio ymhlith y bobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig ers mis Hydref 23. Er hynny, mae 29% o'r bobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn hyderus yn defnyddio stiwdios (a ddefnyddir ar gyfer ioga, aerobics, sbin, crefftau ymladd ac ati), sy'n gynnydd o 7 pwynt canran ers mis Hydref 23.

Cytunodd mwy na hanner (55%) y bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddyn nhw, mae hynny’n gynnydd o 7 pwynt canran o Hydref 23, tra bo’r cyfraddau wedi parhau’n gymharol debyg ar gyfer pobl o ardaloedd amddifadedd canolig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae o leiaf hanner yr holl grwpiau amddifadedd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, er bod y bobl o ardaloedd amddifadedd canolig yn sylweddol fwy tebygol o adrodd eu bod yn gwneud hynny na’r bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (50% o gymharu â 57% o gymharu â 52%).

Bu gostyngiad sylweddol (9 pwynt canran) ymhlith y bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd yn cytuno eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl ers mis Hydref 23, er nad oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol ar gyfer y grwpiau amddifadedd eraill (52% o gymharu â 58% o gymharu â 54%).

Mae 38% o’r ymatebwyr o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cytuno bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn ffactor pwysig iddyn nhw wrth ddewis pa chwaraeon neu weithgarwch corfforol i gymryd rhan ynddyn nhw, sy’n sylweddol uwch nag ymhlith y bobl o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig (26%), gyda 34% o'r bobl o’r ardaloedd amddifadedd canolig yn cytuno â hyn. 

Mae’r bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd yn sylweddol fwy tebygol o gytuno y gallent wneud mwy i leihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd naturiol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol, o gymharu â’r bobl sy’n byw mewn ardal amddifadedd canolig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig (37% o gymharu â 28% o gymharu â 21%).

Byddai mwy na hanner yr holl grwpiau amddifadedd yn hoffi cerdded (naill ai ar gyfer hamdden neu i deithio) yn rheolaidd yn y dyfodol, er bod y bobl o’r ardaloedd amddifadedd canolig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn sylweddol fwy tebygol o wneud hynny na’r bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (54% o gymharu â 63 o gymharu â 63%).

Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Oedran
Darllen Mwy
Anabledd